BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
18fed Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


BBC Homepage

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 

Cyflwynwyr

Gareth Iwan

Gareth Iwan

Cynhyrchydd, C2 Radio Cymru, Bangor

Sut ydach chi wedi cyrraedd lle rydach chi erbyn hyn?
Mewn car. A naci, nid jôc sal ydy hona, wir yr. Nes i raddio mewn Saesneg ym Mangor, yna es i werthu ceir yn garej Ty'n Lôn am chydig fisoedd. Ar ôl hynny, ddes i ateb cwynion ac ymholiada y BBC, a wedyn cal joban fel ymchwilydd Radio Cymru.

Record cyntaf i ti brynu?
Dwi wir ddim yn cofio - ond dwi'n meddwl mai Bad gan Michael Jackson oedd o, pan o'n i'n 6.

Gig gorau i ti fynychu a pham?
Manic Street Preachers, a Boo Radleys yn cefnogi, yng Nghanolfan Hamdden Aston Villa yn Birmingham. Roedd o jyst ar ol rhyddhau Everything Must Go, ac i mi, dyma pryd odda nhw ar i gora yn fyw.

Dy arwr/arwres?
James Bond

Be sy'n gwneud i ti grio?
Wrth i mi fynd yn hŷn, dwi'n ffindio fy hun yn crio yn amlach, am resyma hollol wirion. Ma cyfuniad o win coch a'r benod olaf yng nghyfres 2 o'r West Wing fel arfer yn i neud o.

Sut yr hoffet ti gael dy gofio?
"Mi oedd o'n hen foi iawn, hyd yn oed ar ol ennill £15 miliwn ar y loteri"

Pryd oedd y tro diwethaf i ti godi cywilydd arna ti dy hun?
Does dim un digwyddiad yn dod i'r meddwl, ond dwi'n troi'n idiot di-glem bob tro dwi'n siarad hefo unrhywun enwog, ac yn dueddol o ddeud peth twp iawn pan dwi'n nerfus.

Dy gas gân neu grwp?
Unrhywbeth dwi'n medwl sy'n 'over-rated' - ar hyn o byrd, Arctic Monkeys.

Snog cyntaf - disgrifia'r profiad, y lleoliad a chyda phwy?
Nia Davies, ar wylia yng Nghernyw.

Posteri o beth, neu o bwy oedd gen ti ar wal eich ystafell gwely?
Oasis, Oasis, Oasis

Dy 'crush' cyntaf?
Geraldine Cowper yn Ysgol Glan Y Môr, a Daisy Duke o'r Dukes of Hazzard

Beth ydy'r peth gorau i ti erioed ennill?
'Rioed wedi ennill diawl o ddim.

Os bysa chi'n far o siocled, pa un fysa ti'n dewis a pham?
Mars bar - hen ffasiwn, ond gneud y job.

Y peth gwaetha i ti wisgo'n gyhoeddus?
Ma gen i hen gôt law ma pawb yn deud sy'n afiach. Ma cwpl o bobl yn gwaith wedi trio ei llosgi / cuddio. Ond ma hi'n gynnes iawn...

Dathliad gorau erioed?
Dwi newydd droi yn 30 ac fe nnaeth Manon fy ngwraig a fi i fwyty Gordon Ramsey yn Chelsea. Blwmin hyfryd!!

Gwrando Eto

Holl raglenni C2, ar gael i wrando eto unrhyw amser am 7 diwrnod.

Podlediad

Lawrlwytha Pod C2 - darnau gorau C2 pob wythnos ar gyfer dy chwaraeydd MP3. Beth yw podlediad?

Gwylia hwn!

Fideos a setiau byw o gigs gorau'r Steddfod!



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy