BBC HomeExplore the BBC

SADWRN
18fed Gorffennaf 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig

BBC VOCAB : OFF / I FFWRDD

Turn on / Troi ymlaen

Language Help / Cymorth Iaith


BBC Homepage

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 

Bardd yr Wythnos

Llyr Gwyn Lewis

Bardd yr Wythnos ar C2

20 Rhagfyr 2007

Dyma gyfle i ddarllen cerdd newydd Bardd yr Wythnos ar C2 ar gyfer 17-21 Rhagfyr 2007, sef Llyr Gwyn Lewis.

Ar nos Iau, Rhagfyr 20, daeth Llyr ar raglen Dafydd Du ar C2 i ddarllen ei gerdd newydd.

Dad-strwythuro'r Dolig

Ddaeth hi i hyn
Bellach?

Ddaeth hi at gecru,
Cwestiynu, croesholi
Ac anghofio'r moli?

Ond mae honno'n hen stori.

Mor hen i ni bellach â'r hen stori ei hun
Yw holi a oes lle i'r Iesu'n y llun.

Ond bellach, rhaid gofyn oedd y Forwyn Fair
Wir yn Forwyn, ac a oedd un o'r doethion yn ddu?
Oedd gan y bugeiliaid glefyd y gwair?
Does na'm sôn am hynny'n y Gair.

Does na'm llawer o sŵn dathlu
I chwilio am Iesu'n ei fysg
A'r gwŷr doeth, llawn dysg
Wedi gadael eu desgiau a'u hysgol o'u hôl -
A'r plant heb eu pasiant -

I ddadansoddi, i ôl-fodernu,
I ddad-strwythuro'r preseb
Styllen wrth styllen.

Fe aeth hi'r tu hwnt i chwilio am yr Iesu
Rhwng y twrci, a'r siopa, a'r trimings a'r cwîn -
Pa les chwilio craidd mewn afal crin?

* * *

Un tro, anghofiais am y Forwyn Fair,
Ymatal rhag ceisio'r gwir yn y gwair
Rhoi'r gorau, hyd yn oed, i glustfeinio am y Gair

A chlywais, yn y gwellt,
Fy nghalon yn dawel yn gorfoleddu.

Llyr Gwyn Lewis, Rhagfyr 2007



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy