Wil Sam

Wil Sam

Y dramodydd ac awdur storïau byrion o Lanystumdwy yn Eifionydd.

Eifionydd

Er na chafodd fawr ddim o addysg ffurfiol William Samuel Jones oedd yr awdur cyntaf yn y Gymraeg i wneud bywoliaeth o ysgrifennu.

Am dros 50 mlynedd bu'n ysgrifennu dramâu a storïau byrion am gymeriadau bro ei febyd - Eifionydd.

Mecanic ydoedd wrth ei alwedigaeth a bu'n cadw garej yn Llanystumdwy cyn ei gwerthu ym 1960 er mwyn canolbwyntio ar ysgrifennu. Ysgrifennodd ddramâu ar gyfer y llwyfan, radio a theledu a chyhoeddi sawl cyfrol.

Un o'i greadigaethau enwocaf oedd Ifas y Tryc a oedd yn cael ei berfformio gan ei gyfaill, yr actor Stewart Jones.

Theatr

Meddai Harri Pritchard Jones amdano:

"Roedd yn fwrlwm o asbri a hiwmor efo'i lygaid direidus, addfwyn, a'i dafodiaith gyfoethog. Dau hoffter mawr Wil, ar wahân i'w deulu a'i fro, oedd moduron a'r theatr. Bu'n cadw garej, ac ymhyfrydai yn ei adnabyddiaeth o ddirgelion moduron ceir ac yn enwedig beiciau modur.

"Ym myd y ddrama bu'n helpu i sefydlu a chynnal Theatr y Gegin yng Nghricieth, yn sgwennu dramâu ar ei chyfer, a sgriptiau radio a dramâu teledu. Mwynhâi groesi'r môr i Iwerddon i weld dramâu yn Theatr yr Abaty a'r Gate, ac ai i Lundain ambell dro i weld cynyrchiadau yno.

"Cyhoeddodd wyth cyfrol o ddramâu ac un o storiâu byrion. Cafodd ddylanwad ar nifer o awduron ifainc, fel Meic Povey."

Dylanwad

Bu'r dramodydd Meic Povey yn talu teyrnged iddo ar Radio Cymru wedi ei farwolaeth:

"Roedd yn ddyn ei filltir sgwâr ac yn ysgrifennu am bobl ei filltir sgwâr. Roedd yn 'sgwennu am ei filltir sgwâr ond hefo dylanwad llawer ehangach na hynny 'dwi'n teimlo. Dwi'n credu y bydd yn cael ei gofio fel un o'n dramodwyr mwya' erioed. Mae ei gyfraniad i'r theatr yn aruthrol. " meddai.

"Roedd Ifas y Tryc yn glamp o gymeriad ac athroniaeth Wil oedd llawer iawn ohono. Mae ei dau lyfr - Ifas y Tryc a Ifas Eto Fyth - yr unig ddau lyfr am wn i yn Gymraeg pan ydych yn ei ddarllen 'da chi'n chwerthin yn uchel a peryg i chi ddisgyn oddi ar y soffa! Fedrwch chi ddim dweud hynny am brin neb yn y Gymraeg."

Daeth y newyddiadurwr Ioan Roberts i adnabod Wil Sam yn dda dros y blynyddoedd.

"Mi oedd o'n dweud rhywle nad oedd o'n medru creu dim byd a bod gwell ganddo alw ei hun yn 'sgwennwr yn hytrach na llenor," meddai.

"Sylwi'n graff oedd o, ac yn nabod ei fro ei hun. Roedd o'n ymfalchio mewn cael ei alw'n blwyfol. Roedd ei blwyfoldeb yr un peth a'i wladgarwch. Ond roedd o'n sylwi mor graff ar y natur ddynol fel bod apêl eang iawn yn ei gymeridau a'i 'sgwennu yn gyffredinol.

"Roedd ganddo argyhoeddiadau cryf ynglyn â heddwch byd, dyfodol ei fro, yr iaith a'r genedl. Yr oedd yn berson crwn iawn ac roedd hynny o bosib yn ychwanegu at ei apêl."


Cylchgrawn

Trin a thrafod Llyfrau

Trin a thrafod Llyfrau

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan BBC Cymru.

Hanes Chwaraeon

Gareth Edwards

Hanes Rygbi Cymru

Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.