T Rowland Hughes

T Rowland Hughes wrth ei waith yn y BBC fel cynhyrchydd radio

Awdur O Law i Law a nofelau poblogaidd eraill y 1940au.

Ysgrifennodd T. Rowland Hughes y nofelau mwyaf poblogaidd a gyhoeddwyd yn yr iaith Gymraeg yn ystod y pedwardegau, sef O Law i Law (1943), William Jones (1944) a Chwalfa (1946).

Er bod yr ail wedi ei lleoli yn y De, tynnu ar ei atgofion ei hun, ac eiddo ei dylwyth, am ardaloedd y chwareli llechi yn Sir Gaernarfon a wnai'r awdur, gan weu ffeithiau hanesyddol â ffuglen mewn modd hynod ddarllenadwy.

Gyda gwaith Islwyn Ffowc Elis, dyma'r nofelau a achubodd ein llên yn y cyfnod yn syth ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Gwreiddiau yn ardal y llechi

Ganwyd Thomas Rowland Hughes ar Ebrill 17 ym 1903 yn Llanberis, yn fab i chwarelwr, a chafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle darllenodd y Saesneg.

Bu'n athro yn Aberdâr, Sir Forgannwg, am ddwy flynedd, ac wedi astudio yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, cafodd swydd darlithydd mewn Saesneg a Chymraeg yng Ngholeg Harlech yn 1930.

Bedair mlynedd yn ddiweddarach fe'i penodwyd yn warden canolfan addysg i oedolion yn Llundain, ond cafodd ei lethu gan waith gweinyddol yno.

Dychwelodd i Gymru i gymryd swydd fel cynhyrchydd rhaglenni nodwedd gyda'r BBC yng Nghaerdydd.

Arhosodd yn ei swydd hyd 1945 ond erbyn hynny roedd yn dioddef yn enbyd o'r afiechyd a'i lladdodd ym 1949.

Bardd disglair, nofelydd allweddol

Cychwynnodd T.Rowland Hughes ar ei yrfa llenyddol fel bardd, trwy ennill y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1937, camp a gyflawnodd eto ym 1940. Dim ond un cyfrol o'i gerddi a gyhoeddwyd, sef Cân neu Ddwy (1948), sy'n cynnwys y gerdd enwog Salem a ysbrydolwyd gan lun Curnow Vosper. Ond fel nofelydd mae wedi sicrhau lle iddo ei hun ym Mhantheon ein gwlad.

Mae ei nofelau - sy'n cynnwys hefyd Yr Ogof (1945) ac Y Cychwyn (1947) - yn dangos dawn yr awdur i adrodd stori afaelgar a chreu cymeriadau hoffus a chofiadwy, gyda chymysgedd o dristwch a hiwmor.

"Cadw dy blydi chips!"

Prif gymeriad William Jones yw chwarelwr clên sy'n colli ei limpyn gyda'i wraig a chyda'r ebychiad adnabyddus "Cadw dy blydi chips!" mae'n mynd i chwilio am waith ym mhyllau glo'r De.

Yn Chwalfa aeth yr awdur yn agos at fawredd yn ei bortread o ddioddefaint y chwarelwyr a'u teuluoedd yn ystod Cload Allan y Penrhyn (1896-97 a 1900-03).

Dygnwch di-ildio y gweithwyr yn wyneb perchnogion y chwareli, a'u ffyddlondeb i'w Hundeb er gwaethaf pob caledi, yw prif thema'r nofel.

Oherwydd y modd y wynebodd ei afiechyd, cyfeiriodd R.Williams Parry at T.Rowland Hughes, mewn englyn a dorrwyd ar garreg ei fedd yng Nghaerdydd, fel 'y dewraf o'n hawduron'.

Meic Stephens


Cylchgrawn

Trin a thrafod Llyfrau

Trin a thrafod Llyfrau

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan BBC Cymru.

Hanes Chwaraeon

Gareth Edwards

Hanes Rygbi Cymru

Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.