Shân Cothi

Shan Cothi

Y gantores amryddawn o Ffarmers -enillydd Rhuban Glas, actores arobryn a chyflwynwraig llawn bwrlwm!

Merch Ffarmers

Cafodd Shân ei magu yn Ffarmers, Llanwrda gan raddio o Brifysgol Cymru Aberystwyth gyda gradd mewn Cerddoriaeth a Drama. Dechreuodd ei gyrfa fel athrawes a Phennaeth yr Adran Gerdd yn Ysgol Caereinion, Powys.

Dechreuodd ganu'n broffesiynol fel Soprano yn 1995 pan enillodd y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n berfformwraig amryddawn ac yn gartrefol yn canu opera, oratorio, cerddoriaeth cyfoes a theatr.

Mae wedi cael cryn lwyddiant yn y cyfryngau gyda'i chyfres gerddoriaeth ar S4C yn ennill y BAFTA a gwobr y Rhaglen Gerdd Orau yng Ngwyl Montreux. Ymddangosodd hefyd yng nghynyrchiad S4C o 'Messiah' Handel gyda Bryn Terfel, fel unawdydd yn 'Proms yn y Parc' i'r BBC ac yn y Royal Gala ar achlysur agoriad Canolfan Mileniwm Cymru ar BBC 4. Fe gyflwynodd Ŵyl Rhyng-Geltaidd L'Orient i S4C a bu'n banelydd ar raglenni BBC Wales fel 'Just Up Your Street' a'r 'Lyrics Game'.

Con Passionate

Yn 2005 ymddangosodd Shân yn ei rhan deledu gyntaf fel actores yn portreadu'r rhan flaenllaw, Davina Roberts, yng nghyfres ddrama boblogaidd S4C, 'Con Passionate'. Enwebwyd hi yn y categori, 'Newydd-ddyfodiad' yng Ngwobrau BAFTA Cymru yn 2006. Darlledwyd trydedd gyfres Con Passionate (a'r un olaf hyd yn hyn) ar S4C ar ddiwedd 2008.

Perfformiodd Shân ran Carlotta yng Nghynhyrchiad Andrew Lloyd Webber o 'The Phantom of the Opera' yn y West End yn Llundain am 15 mis yn Theatr Ei Mawrhydi. Yn 2006 portreadodd ran Mary Roberts yn Sioe Gerdd Gymreig Mal Pope a Frank Vickery, 'Amazing Grace' ar daith gyda Chwmni Theatr Cymru.

Yn yr un cyfnod bu'n unawdydd mewn cyngerdd deyrnged i Ivor Novello yn Theatr Novello, Llundain, Canolfan Mileniwm Cymru ac yn San Francisco. Perfformiodd hefyd mewn Cyngerdd Dydd Gŵyl Dewi arbennig oedd yn deyrnged i Dylan Thomas yn Efrog Newydd. Canodd yr Anthem Genedlaethol i 72,000 o bobl yn Stadiwm y Mileniwm oedd yn cloriannu blwyddyn hynod o lwyddiannus iddi'n broffesiynol.

Yn 2005 hefyd aeth Shân ar daith trwy Gymru gyda'i sioe boblogaidd 'Cothi and Cream' gydag 'Only Men Aloud'. Bu Shân hefyd yn westai cyson ar 'Friday Night is Music Night' gyda Cherddorfa'r BBC. Perfformiodd hefyd gyda'r Royal Philharmonic Orchestra yn 2007 fel rhan o'r gyfres ''Here Come the Classics'. Yn 2007, perfformiodd am y tro cyntaf fel unawdydd yn y Proms Cymraeg gydag Owain Arwel Hughes yn arwain.

Profedigaeth

Yn yr un flwyddyn cyflwynodd ei halbwm cyntaf, 'Passione' gyda'r Gerddorfa Siambr Genedlaethol Gymreig, gyda'r delynores Catrin Finch yn cyfeilio. Cafodd fideo yn hyrwyddo un o'r caneuon wobr y 'Fideo Mwyaf Poblogaidd' ar Deledu Classic FM.

Parhaodd Shân gyda'i hamserlen brysur yn 2007 trwy gyflwyno nifer o raglenni radio a theeldu yn cynnwys 'Shân Cothi' i S4C. Yn yr un flwyddyn, cafodd hi brofedigaeth trist iawn, sef colli ei hannwyl briod, Justin Smith, wnaeth farw o gancr yn 42 oed.

Sefydlodd Shân yr elusen, 'Amser Justin Time' i godi arian ac ymwybyddiaeth o Gancr y Pancreas, er cof am Justin ac mae wedi bod yn llwyddiannus iawn.

Yn ddiweddar mae Shân wedi bod yn brysur fel cyflwynydd cyfres Radio Cymru, 'Cyfle Cothi', lle mae Cymry ifanc cerddorol yn cael cyfle i gael eu mentora gan gantorion a cherddorion proffesiynol. Perfformiodd yng Nghyngerdd Swyddogol Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011. Bu hefyd yn perfformio yng Nghyngerdd Nadolig BBC Cymru gyda'r tenor, Wynne Evans, ar gyfer S4C.


Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan BBC Cymru.

Blwyddyn Gron

Calendr

Misoedd

Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

Hanes Chwaraeon

Gareth Edwards

Hanes Rygbi Cymru

Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.