R S Thomas

R S Thomas

Bardd a enwebwyd am wobr Nobel am ei gyfraniad i lenyddiaeth.

Roedd Ronald Stuart Thomas yn un o feirdd mwyaf yr iaith Saesneg yng Nghymru erioed. Cafodd ei eni yng Nghaerdydd, ond fe ymgartrefodd ei deulu yng Nghaergybi, lle roedd ei dad yn gapten llong fferi, pan oedd yn chwech oed.

Yng Nghaergybi y cafodd y Ronald ifanc ei fagu, gan fynychu'r Ysgol Sir, ac wedyn Coleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Wedyn, fe astudiodd yng Ngholeg Mihangel Sant, Caerdydd, i fod yn offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru, gan ddychwelyd i weithio mewn plwyfi yn ardal y Waun a Hanmer i ddechrau, ac wedyn ym Manafon yn Sir Drefaldwyn yn yr 1940au.

Wedi cyfnod yn Eglwys Bach ger Machynlleth, fe symudodd i Aberdaron yn 1967, lle y treuliodd gweddill ei oes fel offeiriad, gan ymddeol i'r Rhiw yn 1978. Roedd ei gerddi cynnar - fel Reservoirs, Cynddylan on a Tractor a Looking at Sheep - yn trafod bywyd cymunedau gwledig Cymreig, ond fe ddaeth yr ymchwil am Dduw a dirgelwch byd natur yn elfen fwy yn ei waith wrth i amser symud ymlaen. Enghreifftiau o'r cyfnod hwn yw cerddi fel Echoes, The Bright Field a The Bush.

Magwraeth Saesneg a gafodd RS Thomas, ond fe ddysgodd Gymraeg ac yntau dros ei ddeg ar hugain, gan ddod yn rhugl ynddi. Ond ni fedrodd ddisodli'r Saesneg fel iaith ei farddoniaith ac er iddo gyhoeddi peth rhyddiaith Gymraeg, gan gynnwys ei hunangofiant, Neb, yn y Saesneg y cyflawnodd ef y gwaith a'i gwnaeth yn fyd-enwog ac a enillodd iddo enwebiad ar gyfer gwobr Nobel.

Yn ei flynyddoedd olaf, fe dreuliodd gyfnod yn Llanfair yng Nghornwy ym Môn cyn diweddu ei ddyddiau ym Mhentre Felin, Cricieth. Bu farw yn 87 oed yn y flwyddyn 2000. Y tu allan i eglwys y plwyf Porthmadog y mae ei lwch wedi ei gladdu.

Yn genedlaetholwr Cymraeg tanbaid iawn, roedd yn adnabyddus ym meddwl y cyhoedd yn aml iawn am ei ddaliadau gwleidyddol cryf yn fwy nag am ei farddoniaeth. Ond wrth i feirniaid yng Nghymru, Lloegr a thu hwnt gloriannu ei waith, fe ddaeth yn amlwg mai yn ei farddoniaeth astud, moel a hynod dreiddgar y gwnaeth y dyn encilgar a chymhleth hwn ei gyfraniad mwyaf i fywyd ei genedl ac i lenyddiaeth y byd.


Cylchgrawn

Trin a thrafod Llyfrau

Trin a thrafod Llyfrau

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan BBC Cymru.

Hanes Chwaraeon

Gareth Edwards

Hanes Rygbi Cymru

Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.