Megan Lloyd George

Megan Lloyd George

Adnabyddwyd hi fel 'the darling of Downing Street'. Merch Lloyd George a'r ddynes gyntaf i fod yn Aelod Seneddol Cymreig.

Cannwyll Llygad ei thad

Megan Arvon Lloyd George oedd merch ieuengaf y gwleidydd a'r gwladweinydd, David Lloyd George a'i wraig gyntaf, Margaret. Er mai yng Nghricieth y ganed Megan yn 1902, fel pob un o blant y teulu, cafodd ei magu yn Llundain.

Rhwng chwech ac 14 oed, Stryd Downing oedd cartref y teulu - rhif 11 i ddechrau pan wnaed ei thad yn Ganghellor ac yna rhif 10 pan gafodd ei wneud yn Brif Weinidog yn 1916.

Fel yr ieuengaf o bum plentyn David a Margaret, Megan oedd cannwyll llygad ei rhieni ac roedd ganddi berthynas glos iawn gyda'i thad. O'r dechrau roedd yn rhan o ferw bywyd gwleidyddol ei thad yn helpu i ganfasio drosto ac yn cael sgyrsiau astrus am bolisïau ag o.

Darling Downing Street

Byddai'n aml yn diddanu ymwelwyr â 10 Stryd Downing a châi ei galw yn 'the darling of Downing Street'.

Cafodd ei haddysg gan diwtoriaid preifat yn y cartref ac mewn ysgolion preifat cyfagos a dangosodd dalent arbennig at ddysgu ieithoedd ac actio. Mynnodd ei rhieni mai Cymraeg oedd iaith yr aelwyd a chafodd ei thrwytho yng Nghymraeg coeth Eifionydd, gan ei mam yn arbennig.

Yn 1928, yr un flwyddyn ag y cafodd merched o dan 30 oed bleidleisio am y tro cyntaf, enwebwyd Megan i fod yn ymgeisydd Rhyddfrydol ym Môn ac fe'i hetholwyd i'r sedd yn 1929. Daeth yn ddirprwy bennaeth ar ei phlaid ac yn ffigwr amlwg mewn gwleidyddiaeth.

Yn etholiad 1951, wedi dal sedd Môn am dros 20 mlynedd, collodd yr etholiad o fwyafrif bychan i'r ymgeisydd Llafur ifanc, Cledwyn Hughes.

Senedd i Gymru

Roedd Megan yn cefnogi Senedd Ffederal i Gymru a chafodd ei hethol yn llywydd yr ymgyrch dros Senedd i Gymru yn 1950 gan arwain y mudiad tan 1956. Llwyddodd hefyd i arwain y gwrthwynebiad i gynllun i godi gorsaf trydan-dŵr yn Nant Gwynant yn 1955.

Ym 1955, trodd oddi wrth y Rhyddfrydwyr ac ymuno â'r Blaid Lafur, plaid oedd wedi bod yn fwy cydnaws â'i syniadaeth wleidyddol hi ei hun ers tro. Fe'i hetholwyd yn aelod seneddol Llafur dros Gaerfyrddin yn 1957 ac mi gadwodd y sedd honno tan ei marwolaeth o gancr yn 1966, dri mis wedi iddi ennill y sedd am y tro olaf.

Etifeddodd Megan ddawn areithio ei thad yn ogystal â'i bersonoliaeth fyrlymus a bywiog a'i wleidyddiaeth radicalaidd. Ni phriododd, gan wasanaethu ar hyd ei hoes fel gwleidydd proffesiynol a oedd yn bencampwr hawliau merched, y difreintiedig ac achosion Cymreig.

Fel ei rhieni, roedd yn Eisteddfodwraig frwd a chafodd ei derbyn yn aelod o'r Orsedd yn 1935. Etifeddodd gartref y teulu ym Mryn Awelon, Cricieth, gan ei mam a threuliai lawer o'i hamser yno.


Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.