Lewis Valentine

Lewis Valentine gyda Saunders Lewis a D J Williams. Llun drwy garedigrwydd Barddas.

Fe gofir am Lewis Valentine yn bennaf fel un o Dri Gŵr Penyberth, sef y tri aelod o Blaid Genedlaethol Cymru a rhoddodd yr ysgol-fomio yn Llŷn ar dân ym 1936 - y ddau arall oedd Saunders Lewis a D. J.Williams - ac fe'i dedfrydwyd i naw mis o garchar o'r herwydd.

Ganwyd Lewis Valentine yn Llanddulas, Conwy - yr hen Sir Ddinbych - ym 1893.

Amharwyd ar ei gwrs yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, lle aeth er mwyn paratoi ar gyfer y weinidogaeth gyda'r Bedyddwyr, gan y Rhyfel Byd Cyntaf. Treuliodd dair blynedd fel aelod o uned o Gorfflu Meddygol Brenhinol y Fyddin yn Lloegr, Ffrainc ac Iwerddon, cyn dychwelyd i Fangor ym 1919 yn genedlaetholwr ac yn heddychwr o argyhoeddiad cadarn.

Tra roedd yn fyfyriwr chwaraeodd ran amlwg yn y mudiad a arweiniodd at sefydlu Plaid Cymru ym 1925.

Ef oedd Llywydd cyntaf y Blaid a'i hymgeisydd seneddol cyntaf ym 1929, pan ennillodd 609 o bleidleisiau yng Nghaernarfon.

Y gell a'r capel

Wedi ei ryddhau o garchar ar ôl achos Penyberth, dychwelodd i'w alwedigaeth fel gweinidog yr Efengyl. Roedd wedi bod yn fugail y Tabernacl yn Llandudno er 1921 ac yno yr arhosodd tan 1947 pan dderbyniodd alwad i Benuel, Rhosllannerchrugog.

O 1923 hyd 1936 fo oedd golygydd Y Deyrnas, misolyn Bedyddwyr Llandudno, ac o 1951 hyd 1975 golygodd Seren Gomer, cylchgrawn ei enwad.

Profiadau rhyfel a charchar

Roedd Lewis Valentine yn lenor o gryn allu. Yn Dyddiadur Milwr, a welodd olau dydd am y tro cyntaf ar dudalennau Seren Gomer rhwng 1969 a 1972, ac a gyhoeddwyd yn llyfr ym 1988 (gol. John Emyr) gwelir ei gyfraniad mwyaf nodedig.

Croniclir gan y llyfr hwn ei brofiadau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a hynny mewn arddull goeth ond uniongyrchol; cymharir ei arddull weithiau ag un ei arwr mawr, sef Emrys ap Iwan.

Gwaith arall o werth llenyddol yw Beddau'r Byw, cyfres o ysgrifau a gyhoeddwyd gyntaf yn Y Ddraig Goch, papur Plaid Genedlaethol Cymru, rhwng 1937 a 1939; adroddir yma ei gyfnod yn Wormwood Scrubs.

Ond fe gofir amdano'n fwyaf mynych fel awdur yr emyn Gweddi dros Gymru, a genir ar alaw wladgarol Sibelius, Finlandia, ac sy'n crynhoi athroniaeth y gŵr urddasol, hawddgar ac unplyg hwn; yn wir, mae'r emyn wedi ennill statws 'ail anthem genedlaethol Cymru'.

Saif cof-golofn i Dri Gŵr Penyberth ger y tŷ heb fod ymhell o Benrhos yn Llŷn a thua dwy filltir o Bwllheli ar yr A499.

Meic Stephens


Cylchgrawn

Trin a thrafod Llyfrau

Trin a thrafod Llyfrau

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan BBC Cymru.

Hanes Chwaraeon

Gareth Edwards

Hanes Rygbi Cymru

Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.