Kate Roberts

Kate Robetrs

Nofelydd ac awdur straeon byrion toreithiog.

Mae Kate Roberts yn un o awduron amlycaf Cymru a'i dawn fel llenor wedi ennill iddi'r teitl, Brenhines Ein Llên.

Ganwyd hi yn Rhosgadfan, yn ferch i Owen Roberts, chwarelwr lleol. Fe gafodd ei haddysg yn lleol ac yn ddiweddarach enillodd radd yn y Gymraeg a thystysgrif dysgu o Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor.

Bu'n dysgu yn Abertawe ac Aberdâr cyn symud i Gaerdydd. Mewn Ysgol Haf a drefnwyd gan Blaid Cymru, cyfarfu Kate â Morris Williams ac fe briododd y ddau ym 1928.

Argraffydd oedd Morris Williams ac roedd hefyd yn gyfarwyddwr polisi dros Blaid Cymru. Gyda'i gilydd, prynodd y ddau Wasg Gee, cwmni argraffu yn Ninbych, a symud yno i redeg y wasg a chyhoeddi wythnosolyn Y Faner. Bu Kate ei hun yn cyfrannu'n gyson i'r Faner a'r Ddraig Goch, papur Plaid Cymru, yn ystod y cyfnod hwn.

Ond bu farw Morris ym 1946 gan adael Kate i redeg Gwasg Gee ar ei phen ei hun am ddeng mlynedd. Roedd hi'n credu'n gryf y dylid cyhoeddi amrywiaeth o lyfrau yn y Gymraeg gyda phwyslais arbennig ar blant ac addysg.

Dechreuodd Kate Roberts ysgrifennu o ddifri ar ôl colli ei brawd yn y Rhyfel Byd Cyntaf ac yna, ar ôl colli ei gŵr, fe fwrwodd iddi eto gan gyhoeddi Traed Mewn Cyffion (1936), a wnaed yn ffilm yn ddiweddarach, a Te yn y Grug (1959) - dwy o'i chyfrolau enwocaf.

Casgliad o straeon digrif a dwfn am blant ydy Te yn y Grug, yn arbennig am Begw a'i phrofiadau hi o gael ei magu mewn cymdeithas debyg i'r un lle cafodd Kate Roberts ei magu yn Rhosgadfan ar droad y ganrif ddiwethaf. Ymdrech y fam, Jane Gruffydd, i gael dau ben llinyn ynghyd a geir yn Traed Mewn Cyffion gyda'r chwarel yn gefndir i fywyd y teulu.

Fe gyhoeddodd nifer o lyfrau eraill gan gynnwys Stryd y Glep, Y Byw Sy'n Cysgu (1956), Tywyll Heno (1962) a chasgliadau o straeon byrion fel Yr Wylan Deg.

Mae rôl y ferch yn y gymdeithas a'i syniadau annibynnol am fywyd a chariad yn thema amlwg yng ngwaith Kate Roberts. Roedd hi hefyd yn ysgrifennu o safbwynt y plentyn gan weld ei phlentyndod ei hun fel magwraeth ddelfrydol.

Cyhoeddwyd cyfrol o lythyrau rhyngddi hi a Saunders Lewis hefyd - Annwyl Kate, Annwyl Saunders (gol. Dafydd Ifans, 1992) - sy'n croniclo hanes eu cyfeillgarwch dros 40 mlynedd gan roi darlun inni o hanes Cymru yn ystod y cyfnod a sylwadau'r ddau ar ddigwyddiadau yng Nghymru a thu hwnt.

Bu farw ar 4 Ebrill 1985.

Yn 2006, agorwyd Canolfan Dreftadaeth Kate Roberts yng Nghae'r Gors, ei hen gartref yn Rhosgadfan. Mae'r tŷ wedi ei adfer i'r cyflwr roedd ynddo ar ddechrau'r ugeinfed ganrif ac mae'n cynnwys amgueddfa am fywyd pobl yr ardal ar adeg plentyndod Kate Roberts.

  • Glyn Jones yn trafod 'Cyfnod Dinbych' Kate Roberts
  • Kate Roberts
    Atgofion Kate Roberts

    Gwyliwch ffilm o 1965 o Kate Roberts yn cerdded y Lôn Wen ac yn hel atgofion am ei hardal a'r hyn oedd yn ei hysbrydoli i ysgrifennu.

    Cerddoriaeth

    Cerddoriaeth

    Artistiaid

    A-Z o gerddorion ar wefan BBC Cymru.

    Blwyddyn Gron

    Calendr

    Misoedd

    Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

    Hanes Chwaraeon

    Gareth Edwards

    Hanes Rygbi Cymru

    Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

    Llywio drwy’r BBC

    BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.