Jonathan Davies

Jonathan Davies

Un o'r chwaraewyr rygbi mwyaf talentog sydd wedi dod o Gymru erioed sydd bellach yn gyflwynydd teledu adnabyddus.

Dechrau'n y Gwendraeth

Bachgen o Drimsaran yw Jonathan. Ganwyd ef ar Ragfyr 24 1962 a mynychodd Ysgol Ramadeg Gwendraeth. Wrth gwrs, dyma un o'r cymoedd gorau i fagu cewri'r byd rygbi!

Roedd ei dad yn gweithio yn Nhrostre, Llanelli ac yn chwarae safle canolwr i glybiau rygbi Abertawe a Llanelli. Roedd Len ar un adeg yn gapten ar glwb rygbi Trimsaran. Mae gan Jonathan chwaer sydd yn iau nag ef o'r enw Caroline, gafodd ei geni yn 1964.

Mae gyrfa Jonathan wedi ei arwain ar draws dau garfan y byd rygbi. Yn 1982 fe ymunodd â chlwb rygbi Castell Nedd cyn symud i glwb rygbi Llanelli. Yn 1988 symudodd i'r Gogledd er mwyn chwarae yn y gynghrair rygbi. Serch y newid mawr hyn, penderfynodd droi yn ôl at yr Undeb rygbi ar ddiwedd ei yrfa, gan gytuno i chwarae dros Gaerdydd.

Dylanwad Carwyn

Yn bump oed, ymunodd Jonathan ag Ysgol Gynradd Trimsaran lle roedd yn aelod o ddosbarth cyfrwng Cymraeg. Yma, dechreuod chwarae rygbi saith-bob-ochr wedi i'w athro, Meirion Davies, ei gyflwyno i'r gêm. Gan ei fod mor ifanc, doedd Jonathan ddim yn ddigon mawr i daclo, ond roedd yn amlwg fod ganddo dalent. Un dyn a welai ei allu yn glir oedd Carwyn James - un arall o fawrion rygbi yr ardal. Yn 1974 chwaraeodd Jonathan am y tro cyntaf ym Mharc yr Arfau, Caerdydd pan oedd yn cynrychioli Gorllewin Cymru dan 12 oed.

Fe basiodd Jonathan ei arholiadau '11 Plus' ac fe aeth i Ysgol Ramadeg Gwendraeth. Yma y cyfarfu ei wraig gyntaf, Karen Hopkins. Priododd y ddau rhyw ddeng mlynedd yn ddiweddarach.

Yn 17 mlwydd oed fe adawodd ysgol gan ddechrau prentisiaeth fel paentiwr ac addurnwr. Ymunodd Jonathan â chlwb rygbi Castell Nedd yn 1982 ac wedi 35 gêm ar ran y clwb fe'i ddewiswyd i chwarae dros Gymru. Roedd ei ymddangosiad cyntaf ym Mharc yr Arfau yn erbyn y gelyn oesol, Lloegr.

Chwaraeodd Jonathan gystal, ef oedd 'Dyn y Gêm', gan sgorio dau gais fel rhan o fuddugoliaeth Cymru. Gwnaethpwyd ef yn gapten ar Gastell Nedd cyn gael ei symud i Lanelli. Yn 1988 chwaraeodd rhan bwysig yn llwyddiant Coron Driphlyg Cymru a rhwng 1985 ac 1997 fe enillodd 37 cap Undeb Rygbi.

Gorfoledd a Galar

Yn Mehefin 1988 fe ddaeth Jonathan yn dad wedi genedigaeth ei fab Scott. Yn ystod y flwyddyn hon fe newidiodd 'cod' , gan adael Llanelli er mwyn chwarae i Widnes. Yn 1991 wynebodd sialens newydd pan dreuliodd haf yn chwarae yn Sydney ar ran y 'Canterbury Bull Dogs'. Yn Nhachwedd 1992 ganwyd ei ferch hynaf, Grace, ac yn 1993 fe ymunodd â Warrington.

Yn Chwefror 1995 ganwyd ei ferch Gena - roedd hwn yn amser o hapusrwydd a thristwch i'r teulu oherwydd fe aeth ei wraig Karen yn sâl efo cancr. Yn sgil hyn symudodd y teulu yn ôl i Dde Cymru lle chwaraeodd Jonathan i glwb rygbi Caerdydd - roedd yn awr yn ôl ym myd Undeb Rygbi.

Yn 1996 fe dderbyniodd Jonathan MBE ac fe aeth ef a'i deulu i Palas Buckingham. Er mawr tristwch bu farw ei wraig yn 1997.

Gadawodd rhieni Jonathan Trimsaran a symudon nhw i Gaerdydd er mwyn helpu eu mab i fagu ei blant ifanc. Mewn blynyddoedd diweddar mae Jonathan wedi symud i fyd teledu a radio ac wedi datblygu ail yrfa i'w hun fel sylwebydd chwaraeon poblogaidd yn y Gymraeg a Saesneg gyda'r BBC a chyflwynydd rhaglen boblogaidd, 'Jonathan' ar S4C. Yn Awst 2002 priododd Jonathan ei ail wraig, Helen, yng Nghaerdydd, a'i was priodas oedd ei ffrind pennaf, y chwaraewr rygbi enwog, Ieuan Evans.


Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.