Gwenlyn Parry

Gwenlyn Parry

Dyma ddramodydd amryddawn 'Y Tŵr', 'Saer Doliau', 'Tŷ ar y Tywod' a chrëwr rhaglenni teledu poblogaidd fel 'Fo a Fe' a 'Grand Slam'.

Llais ffres y Ddrama

Un o'n dramodwyr galluocaf oedd Gwenlyn Parry, a cholled mawr i'r theatr yng Nghymru oedd ei farwolaeth annhymig cyn cyrraedd ei 60 oed. Roedd ei waith yn ddeniadol ar gyfrif ei syniadau a'i olygfeydd theatrig, ac mae ei ddramâu, er yn ychydig, wedi cadw eu hapêl yn rhyfeddol o dda. Fe oedd cynrychiolydd cyntaf y theatr fodern yn y Gymraeg ac, yn wir, daeth ag awyrgylch ffres a chyffrous i'r llwyfan a oedd yn gyfrifol am gychwyn dadeni sydd yn parhau hyd heddiw.

Ganwyd ef ym 1932 yn Neiniolen, Sir Gaernarfon, ac mae ei waith yn defnyddio iaith gyfoethog yr ardal yn aml iawn. Cafodd ei addysg yn y Coleg Normal, Bangor.

Dechreuodd ymddiddori yn y theatr tra oedd yn athro yn Llundain, ac ymhlith ei gyfeillion yno oedd Ryan Davies a Rhydderch Jones.

Wedi dychwelyd i Gymru i dderbyn swydd fel athro ym Methesda, daeth i amlygrwydd yn y byd llenyddol drwy ennill gwobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ym 1966 symudodd i Gaerdydd lle daeth yn Brif Olygydd Sgriptiau gyda BBC Cymru.

Y Beckett Cymraeg

Ysgrifennodd lawer a chynhyrchodd nifer o raglenni poblogaidd i'r BBC, gan gynnwys 'Fo a Fe' a 'Pobol y Cwm'. Ysgrifennodd y sgript hefyd ar gyfer fersiwn deledu 'Un Nos Ola Leuad'.

Daeth Gwenlyn Parry o hyd i'w lais ei hun fel awdur dyrnaid o ddramâu ar gyfer y llwyfan, a chyhoeddwyd rhai ohonynt yn y gyfrol 'Tair Drama' (1965). Yr un enwocaf, yn ddi-os, yw 'Saer Doliau' (1966), a dorrodd dir newydd yn y theatr Gymraeg oherwydd ei naws alegorïol a'i hamwysedd.

Gwelai rhai beirniaid ddylanwad Beckett, Pinter a Ionesco arni. Achoswyd cryn drafodaeth ac anghydweld ymhlith ei chynulleidfaoedd cyntaf. Mae pâr ifanc 'blaengar' yn herio cred 'naïf' y Saer Doliau yn y Giaffar (efallai Duw) ar ben arall y ffôn. Yr hyn a barodd y dadlau oedd caniad y ffôn, ar ddiwedd y ddrama, dros lwyfan gwag. Nid oes 'stori' i'r ddrama hon ac mae'n bosibl ei dehongli mewn mwy nag un ffordd.

Pinacl Dawn

Yn ei weithiau diweddarach, sef Tŷ ar y Tywod (1968), Y Ffin (1973), Y Tŵr (1978), Sàl (1982) a Panto (1992), defnyddiodd dechnegau gwrth-naturyddol y theatr gyfoes. Roedd ganddo glust ardderchog ar gyfer deialog, yn enwedig tafodiaith ei fro enedigol.

Yn Y Tŵr, ei gampwaith efallai, gwelir pinacl ei ddawn dyfeisgar wrth i'r prif gymeriad ddringo grisiau amser.

Awdur talentog dros ben oedd Gwenlyn Parry, un a roddodd ei holl egni creadigol i'w waith, a gadawodd farc annileadwy ar ddatblygiad y theatr yng Nghymru.

Bu farw cyn troi'n 60 ar Dachwedd 5 1991 a chladdwyd ef ym Macpela, Penygroes, Gwynedd.

  • Mwy am Gwenlyn Parry y dramodydd
  • Meic Stephens


    Llyfrau

    Matthew Rhys

    Holi ac adolygu

    Holi awduron ac adolygu'r llyfrau Cymraeg diweddaraf

    Theatr

    Llion Williams

    Barn a gwybodaeth

    Adolygiadau a straeon o fyd y theatr Gymraeg

    Ffilm

    Rhys Ifans

    Pobl y sgrin

    Adolygiadau a gwybodaeth am actorion a phobl ffilm

    Llywio drwy’r BBC

    BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

    Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.