Evan a James James

Anthem

Canlyniad cydweithio rhwng tad a mab yw ein anthem genedlaethol fel rydym yn ei adnabod heddiw. Awdur y geiriau oedd Evan James, (1809 - 1878), a'i fab James James, (1833 - 1902), oedd cyfansoddwr y dôn.

Gwreiddiau'r Anthem

Gwehydd a gwerthwr gwlân oedd galwdigaeth Evan James, ac roedd hefyd yn berchen Tafarn yr Ancient Druid yn Argoed, Bedwellte, Sir Fynwy. Pan oedd ei fab yn fachgen ifanc, symudodd y teulu i Bontypridd.

Cyfansoddodd y ddau 'Hen Wlad fy Nhadau' yn 1856. Gan mai bardd oedd Evan James, credir mai ef ysgrifennodd y geiriau. Cerddor oedd ei fab James, oedd yn ennill ei fywoliaeth trwy ganu'r delyn yn nhafarnau Pontypridd, ac mae'n debygol mai ef gyfansoddodd y dôn.

Cyhoeddwyd y gân am y tro cyntaf mewn llawysgrif yn cynnwys nifer o ganeuon wedi eu casglu ynghyd gan James, ac roedd yn gân poblogaidd bron ar unwaith. Casgliad o gerddoriaeth offerynol a chorawl yw'r llawysgrif, sydd wedi ei ddyddio rhwng 1849 ac 1863, ac mae'n rhoi tipyn o wybodaeth ynglyn â'r math o gerddoriaeth oedd yn bodoli ym Mhontypridd yn y cyfnod hwnnw.

Llawysgrif Cenedl

Cofeb i Evan a James James

Dyddiad cyfansoddi 'Hen Wlad fy Nhadau' ar y llawysgrif yw Ionawr 1856, a dyma'r unig lawysgrif yn y casgliad sy'n nodi'n glir mai James yw'r cyfansoddwr.

Mae hanes cyfansoddi'r anthem yn ansicr, credai rhai y cyfansoddwyd y dôn cyn y geiriau ond credai eraill mai'r geiriau gafodd eu cyfansoddi gyntaf. Rhoddwyd yr enw Glan Rhondda iddi yn wreiddiol, fel oedd yn gyffredin gyda tônau emynau. Oherwydd hyn, mae rhai pobl yn credu bod y dôn wedi ei chyfansoddi gan James tra ei fod yn cerdded glannau'r afon Rhondda.

Yn ysgoldy Capel Tabor ym Maesteg y perfformiwyd y gân am y tro cyntaf, gan Elisabeth John o Bontypridd yn Ionawr neu Chwefror 1856, ac o ddim i beth roedd yn gân boblogaidd iawn yn yr ardal. Daeth yn fwy poblogaidd fyth pan enillodd Thomas Llewelyn o Aberdâr gystadleuaeth yn gofyn am gasgliad o alawon Cymreig heb eu cyhoeddi, yn Eisteddfod Llangollen 1858, ac roedd Glan Rhondda yn rhan o'r casgliad.

Recordiad Cyntaf

Beirniad y gystadleuaeth oedd Owain Alaw (1821 - 1883) a gafodd ganiatâd James i gynnwys y gân yn ei gyfrol poblogaidd 'Gems of Welsh Melody' (1860). Rhoddodd yntau y teitl mwy perthnasol ac adnabyddus erbyn hyn ar y gân, sef Hen Wlad fy Nhadau, ac roedd y gyfrol yn boblogaidd iawn yng Nghymru.

Ar 11 Mawrth 1899, gwnaed y recordiad cyntaf o'r gân, pan recordiwyd y gantores Madge Breese gan y Gramophone Company. Roedd y recordiad gwreiddiol yn para am un munud ac 17 eiliad, ac ar ddisg unochrog saith modfedd.

Nid yw'n sicr pryd yn union mabwysiadwyd y gân fel anthem genedlaethol Cymru.

Cynlluniwyd cofeb i Evan a James James gan y cerflunydd Cymreig W. Goscombe John (1860 - 1952) ac fe'i dadorchuddiwyd o flaen torf o 10,000 ym Mharc Ynysangharad yn 1930.


Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan BBC Cymru.

Blwyddyn Gron

Calendr

Misoedd

Calendr yn llawn dyddiadau nodedig ac arferion Cymreig.

Hanes Chwaraeon

Gareth Edwards

Hanes Rygbi Cymru

Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.