Edrica Huws

Edrica Huws

Daeth â gweledigaeth hollol newydd i glytwaith.

Ganed Edrica Huws ar 12 Ionawr 1907, yr ail o bump o blant.

Pensaer oedd ei thad, Thomas Tyrwhitt, gŵr tawel, ymcilgar, arlunydd amatur da a hoffai wneud dyfrliwiau ac ysgythriadau.

Yr oedd ei modryb, Ursula Tyrwhitt, yn un o'r merched cyntaf i'w derbyn yn Ysgol Slade, yn gyfoeswraig a chyfaill agos i Gwen ac Augustus John ac yn arlunydd dawnus, ond yn un na chyflawnodd fyth mo'i haddewid.

Derbyniodd Edrica awgrym ei thad a'i mam bedydd i fynd i goleg celf wedi iddi ymadael â'r ysgol. Bu am ddwy flynedd yn Ysgol Gelf Chelsea, yn gweithio ar bortffolio o waith, ac yna yn 1927 cafodd ei derbyn i'r Coleg Celf Brenhinol. Yno, ar gyfer ei chwrs arbennig, astudiodd yn yr Adaran Furlunio dan yr Athro E. W. Tristram, gŵr a wnaeth fwy na neb i ailddarganfod murluniau coll eglwysi Lloegr yr Oesoedd Canol a wyngalchwyd adeg y Diwygiad.

Wedi iddi adael y Coleg Brenhinol gyda diploma ARCA gweithiai Edrica ar ei liwt ei hun. Comisiynwyd hi i beinitio cyfres o baneli yn eglwys y Santes Fair, South Benfleet yn Essex.

Yn 1932, heb roi gwybod i'w rhieni tan wedyn, priododd Richard Huws, artist a cherflunydd o Fôn a oedd newydd ymsefydlu yn Llundain. Cawsant bedwar o blant ac yn 1939, ychydig cyn dechrau'r rhyfel, prynasant dŷ bychan yn Nhalwrn, ger Llangefni. Am wahanol resymau yr oedd chwant symud o Lundain ar y ddau.

Yn y blynyddoedd wedi'r rhyfel, yn magu pump o blant â'i gŵr wedi dychwelyd i Lundain i weithio fel dylunydd diwydiannol, roedd yn aml ar ei phen ei hun am wythnosau ar y tro. Yr oedd yn rhaid rhoi o'r neilltu bob uchelgais oedd ganddi fel artist.

Ond yr oedd ganddi eisioes freuddwyd na soniodd hi ddim amdano wrth neb ond ei merched, o geisio ryw ddydd droi at weithio gyda defnydd, o wneud 'clytwaith'.

Trodd at farddoniaeth yn y cyfamser ac fe gyhoeddwyd ei cherddi mewn nifer o gylchgronau safonol: The Listner, Wales, The Times Literary Supplement.

Casglwyd ynghyd y cerddi y dymunai eu cadw, wedi'u hysgrifennu rhwng 1943 a 1953, mewn llyfryn, Poems, a argraffwyd yn 1994 gan Embers Handpress, Rhiwargor.

Daeth y diwrnod yr oedd Edrica wedi edrych ymlaen yn hir ato yn 1958 pan oedd hi'n byw yn Llanrwst. Dechreuodd Edrica ar ei chlytwaith cyntaf. Roedd y gwaith, tu mewn i dŷ gwydr, o faint mawr ac fe gymrodd bron i flwyddyn i'w orffern. Erbyn iddi feistioli ei chrefft fe allai gwblhau clytwaith o faint cyffredin mewn rhyw fis.

Erbyn 1967 pan symudodd hi a'i gŵr i Lerpwl, roedd wedi creu 5 o glytweithiau.

Dechreuodd ar gyfres o glytweithiau yn darlunio golgygfeydd dinesig, nifer ohonynt yn olygfeydd o adeiladau ar hanner eu dymchwel - dyma gyfnod pan ddymchwelwyd llawer o hen strydoedd hardd, cyn i'r ffasiwn am gadwriaeth ddod i fri.

Cafodd Edrica arddangosfa fechan anffurfiol o'i gwaith yn oriel y Blue Coat School, Lerpwl, yn 1973. Dyma hefyd achlysur ei chyfweliad cyntaf am ei gwaith, un gyda Patricia Feinberg, yn y Liverpool Daily Post (3 Mai, 1973).

Erbyn 1975, pan symudodd hi i fyw y rhan fwyaf o'r amser yn Rhydychen, yr oedd Edrica wedi gwneud hanner cant o glytweithiau.

Yn fuan ar ôl colli ei gŵr yn yr 80au - 'fy meirniad gorau a mwyaf llym' fel y'i disgifiwyd ef gan Edirca - symudodd i Baris. Gyda'r symud i Baris daeth dechrau cydnabyddiaeth gydwladol i waith Edrica. Yn 1982 cafodd ei harddangosfa gyntaf yn Ffrainc, yn oriel Le Bleu du Ciel yn Vélzelay.

Yn y cyfamser, yn Siapan, yn 1982, cyhoeddwyd llyfr dwyieithog Siapanaeg/Saesneg, Edrica Huws: Patchwork Pictures

Y flwyddyn ganlynol cafodd ei harddangosfa gyntaf yn Siapan yn oriel Ginza Shiseido yn Tokyo. Daeth llu o arddangosfeydd eraill yn Siapan ac yn Ffrainc.

Yr oedd yr ymwelwyr â'r arddangosfeydd yn Siapan, gwlad lle bu ymateb i brydferthwch defnyddiau yn elfen mor bwysig yn ei diwylliant, yn neilltuol werthfawrogol o'i gwaith.

Yn dilyn arddangosfa yn Sembikiya, Tokyo, yn 1998, dangoswyd dau glytwaith trwy wahoddiad arbennig yn arddangosfa Gŵyl Gwiltio y Byd, Tokyo. Gwnaethant argraff arbennig; hyn oedd dechreuad cydnabyddiaeth natur arloesol gwaith Edrica Huws yng nghymdeithas byd-eang cwilitio, yn enwedig yn America.

Bu farw Edrica yng Nghymru ar 10 Mehefin 1999 a'i chladdu gyda'i gŵr ym mynwent Llanddyfnan ym Môn.

Cyfanswm gwaith Edrica yw 187. Gwyddys bod rhwy draean ohonynt yn Siapan, ychydig dos hanner cant yn Ffrainc a nifer tebyg ym Mhrydain.


Cylchgrawn

Trin a thrafod Llyfrau

Trin a thrafod Llyfrau

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Cerddoriaeth

Cerddoriaeth

Artistiaid

A-Z o gerddorion ar wefan BBC Cymru.

Hanes Chwaraeon

Gareth Edwards

Hanes Rygbi Cymru

Hanes y bêl hirgron o'i gwreiddiau hyd at y Gamp Lawn

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.