Dora Herbert Jones

Dora Herbert Jones

Gallasech feddwl mai'r fenyw olaf yn y byd y gellid ei chymharu â Mata Hari fyddai Dora Herbert Jones, un o brif arbenigwyr Cymru ym maes yr alaw werin ac un o arloeswyr Gwasg Gregynog...

Mata Hari Cymru?

Sut yn y byd y gellid honni bod Dora Herbert Jones yn debyg i Mata Hari? Wel, roedd yna rai agweddau'n gyffredin rhwng y ddwy. Roedd y ddwy yn fenywod hardd. Roedd y ddwy yn berfformwyr - y naill yn ddawnswraig a'r llall yn gantores - ac roedd y ddwy yn ysbïwyr.

Yn achos Mata Hari, honnir iddi gael ei chyhuddo ar gam o ysbïo ar ran yr Almaen, ond yn achos Dora mae yna dystiolaeth bendant iddi fod yn rhan o wasanaeth cudd Prydain yn Iwerddon.

Dyddiau Cynnar

Merch o Langollen oedd Dora, yr ieuengaf o bump o ferched. Cafodd blentyndod ac ieuenctid nodweddiadol o'i bro a'i chyfnod, gyda'r capel yn ddylanwad cryf arni. Yn ifanc iawn daeth o dan ddylanwad cerddor lleol.

Aeth i Aberystwyth i ddilyn cwrs gradd lle parhaodd â'i diddordeb mewn canu. Roedd hi'n aelod o bedwarawd a wahoddwyd i berfformio yn y Sorbonne ym Mharis.

Yna, yn 1910, daeth o dan ddylanwad Dr Mary Davies, un o hoelion wyth Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, a wahoddwyd i ddarlithio yng Nghymdeithas y Geltaidd yn Aberystwyth. Dewisodd honno Dora i ganu'r enghreifftiau o wahanol ganeuon yn ystod y ddarlith.

Ar ôl graddio yn 1912, a cholli ei mam, aeth Dora i Lundain i weithio fel ysgrifenyddes i Syr John Herbert Lewis, Aelod Seneddol Sir y Fflint.

Roedd gan wraig yr AS, Ruth Herbert Lewis, ddiddordeb mewn alawon gwerin ac un o ffrindiau'r teulu oedd y gantores a'r gyfansoddwraig Morfydd Llwyn Owen.

Merch gyntaf y Senedd

Fel rhan o'i swydd gweithiai Dora yn aml yn y Senedd yn Llundain, a hi, mae'n debyg, oedd y ferch gyntaf i weithio yno fel ysgrifenyddes. Daeth yn un o'r ymgyrchwyr cynnar dros hawliau merched.

Priododd Dora yn 1916 â Herbert Jones, gŵr diwylliedig o Langernyw oedd â diddordeb byw yn hanes, llenyddiaeth a diwylliant Cymru.

Ymunodd Herbert â'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ar ddechrau'r Rhyfel Mawr; yn fuan wedi'r briodas fe'i clwyfwyd yn ddifrifol yn Ffrainc ac aeth Dora draw yno ato.

Daeth Dora'n rhan o ymgyrch y chwiorydd Davies, Plas Dinam, i ddarparu ymgeledd i filwyr Ffrainc o dan nawdd y Groes Goch a dyma oedd dechrau'r cysylltiad rhyngddi a Gregynog.

Erbyn dechrau 1918 cawn fod Dora yn Nulyn yn gwneud gwaith cyfrinachol yn y Viceregal Lodge i'r Arglwydd Wimborne, Arglwydd Raglaw Iwerddon.

Ni wyddom beth yn union oedd y gwaith, ond ymddengys bod Dora yn un o griw o Gymry oedd yn gweithio i Wimborne, a oedd ei hun o dras Gymreig, sef teulu Guest o Sir Forgannwg.

Gwaith Cyfrinachol

Ysgrifennydd Wimborne oedd Selwyn Davies, Cymro Cymraeg o Lundain, ac ysgrifenyddes y Fonesig Wimborne oedd Beta Jones o fferm Abercin ger Cricieth. Byddai Dora a'r ddau arall yn mynychu capel bach Cymraeg Bethel yn Talbot Street yn rheolaidd.

Does dim manylion ynghylch beth yn union oedd gwaith cyfrinachol Dora ond yn ystod ei chyfnod yn Nulyn roedd y Gweriniaethwyr Gwyddelig, yn dilyn methiant Gwrthryfel y Pasg 1916, wedi ailffurfio ac yn fygythiad gwirioneddol unwaith eto i undod yr Ymerodraeth Brydeinig.

Golygai gwaith Dora deithio rheolaidd ar y llong fferi rhwng Caergybi a Dulyn, a hynny pan oedd llongau tanddwr yr Almaen a'u torpidos yn berygl mawr. Treuliodd Dora tua deunaw mis yn y gwasanaeth cudd. Tybed a fu hi erioed ar restr Michael Collins, un o arweinwyr y Gweriniaethwyr - rhestr o ysbïwyr a glustnodwyd ganddo ar gyfer eu dienyddio? Daeth yr ysbïwyr hynny'n dargedau i garfan ddienyddio Collins, y Deuddeg Apostol.

Torri tir newydd eto

Plas Gregynog
Plas Gregynog

Dychwelodd Dora i gynorthwyo Herbert Lewis ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1918. Roedd hi'n torri tir newydd unwaith eto - hi oedd y fenyw gyntaf ym Mhrydain i fod yn gynrychiolydd etholiadol. Ganwyd iddi ferch, Elsbeth, a dilynwyd honno gan fab, Hugh, yn 1922, ond bu farw ei gŵr yn fuan wedyn ac yntau ond yn 36 oed.

Symudodd Dora a'r plant i Aberystwyth lle'r oedd ei chwaer, Gertrude, yn ddarlithydd yn y coleg yno.

Gweithiodd am gyfnod i Thomas Jones, dirprwy ysgrifennydd y Cabinet a ddaeth yn ysgrifennydd personol i Lloyd George.

Thomas Jones fu'n gyfrifol am gael swydd iddi fel ysgrifenyddes i Wasg Gregynog ac yn ysgrifenyddes hefyd i'r chwiorydd Gwendoline a Margaret Davies.

Treuliodd bymtheg mlynedd yn byw ac yn gweithio ar stad Gregynog, a phan drowyd y plas yn ganolfan i'r Groes Goch adeg yr Ail Ryfel Byd, bu'n ysgrifenyddes weinyddol yno.

Colli Merch

Yn 1940 daeth trychineb unwaith eto i'w bywyd pan fu farw ei merch yn 21 oed. Trawyd y llong y teithiai adref arni o Awstralia gan dorpido. Roedd Elsbeth wedi bod allan yno yn gofalu am ffoaduriaid rhyfel o dde Cymru.

Yn 1942 ailgydiodd Dora yn ei bywyd diplomataidd pan gafodd swydd yn y Weinyddiaeth Lafur yn Abertawe, yn gofalu am hawliau menywod. Treuliodd y blynyddoedd nesaf mewn gwahanol swyddi yn Abertawe a Chaerdydd.

Yna ailgydiodd yn ei diddordeb mewn canu. Roedd hi wedi cadw'r cysylltiad â Chymdeithas Alawon Gwerin Cymru ar hyd y blynyddoedd. Daeth yn lais ac yn wyneb adnabyddus ar y radio a'r teledu.

Dychwelodd i Gregynog ar ôl ymddeol, i fyw mewn tŷ ar y stad gyda'i chwaer, ac yno y treuliodd Dora ddeunaw mlynedd olaf ei bywyd. Anrhydeddwyd hi â'r OBE yn 1967, ac yn 1972 fe'i hetholwyd hi'n Llywydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Bu farw ei chwaer yn 1962, ond parhaodd Dora i fyw ar stad Gregynog, yn Tŷ Canol, hyd ei marwolaeth yn 1974.

Dirgelwch Dulyn

Mae rhan Dora Herbert Jones yn y gwaith cyfrinachol yn Nulyn o gwmpas 1918 yn dal yn ddirgelwch.

Ni soniai am y cyfnod arbennig hwnnw, a phan holwyd hi ar gyfer portread ohoni gan Y Cymro ddiwedd 1970, ni chyfeiriodd ato o gwbwl.

Nid bod hynny'n bwysig bellach. Cofir am Dora Herbert Jones fel gwraig unigryw a fu'n gyfrifol am ddiogelu ac ailddarganfod stôr o alawon gwerin a fyddent, fel arall, wedi diflannu.

Fe'i cofir fel menyw a lwyddodd i hawlio'i lle mewn byd a fu'n gyfyngedig i ddynion hyd hynny.

Fe'i cofir hefyd fel gwraig ddewr a wynebodd drychinebau yn ei bywyd ei hun ac ym mywyd y ddynoliaeth.

Y cyfan a wna'r dyfalu am ei rhan yn y gwasanaeth cudd yw ychwanegu at hanes y bywyd diddorol ac amrywiol a dreuliodd Dora ar yr hen ddaear hon.

Gan Lyn Ebenezer


Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.