Dafydd ab Edmwnd

Eira yn Eglwys St Chad, Hanmer (h:Eglwys St Chad)

Un o feirdd Cymraeg mwyaf y bymthegfed ganrif oedd Dafydd ab Edmwnd. Uchelwr ydoedd ac ni ddibynnai ar ei ganu am ei gynhaliaeth, felly nid oedd yn gaeth i gyfansoddi cerddi i noddwyr fel cymaint o'i gyfoeswyr. Crefydd, harddwch merched a dychan oedd ei brif themau.

Dyddiau Cynnar

Nid oes cofnod penodol o ddyddiad geni Dafydd ond credwyd iddo gael ei eni yn ystod hanner cyntaf y 15g a'i fod yn ei flodau rhwng 1450 a 1490. Magwyd ef yn Hanmer ym Maelor Saesneg hen Sir y Fflint.

Roedd yn berchen ar dir Yr Orwedd a thiroedd eraill ac felly'n ddigon cefnog i gyfansoddi barddoniaeth at ei ddant ei hun ac nid at ganmol Noddwyr cefnog fel llawer o'i gyd-feirdd. Roedd yn Gywyddwr o fri yn canmol telynor neu orchest milwr, neu ysgolheictod abad neu haelioni pendefig. Yn rhyfedd iawn, nid oes sôn am Ryfeloedd y Rhosynnau yn ei waith, er bod ei gerddi yn pefrio â gwladgarwch Cymreig.

Dysgodd Cerdd Dafod oddi wrth Maredudd ap Rhys ac, yn ei dro, roedd e'n athro barddol Gutun Owain a Thudur Aled; disgrifiodd Gutun Owain ei gyfaill fel 'pencerdd a feddai'r holl gelfyddyd'.

Meistr Cerdd Dafod

Yn ddi-os bu Dafydd ab Edmwnd ymhlith y cywyddwyr gorau ac fe'i cydnabuwyd felly gan feirdd eraill yn ystod ei oes. Cafodd ddylanwad mawr ar Gerdd Dafod. Yn ystod yr eisteddfod a gynhaliwyd yng Nghaerfyrddin ym 1451 ennillodd gadair fach arian.

Ar yr un achlysur bu'n gyfrifol am y newidiadau a wnaed i'r Pedwar Mesur ar Hugain, gan eu gwneud yn anoddach o gryn dipyn. Ymgais i amddiffyn cyfundrefn y beirdd proffesiynol rhag y rhigymwyr oedd tu ôl i'r newidiadau hyn.

Ymgorfforwyd ei ddiwygiadau, a adlewyrchai feddylfryd pencerdd a ymhyfrydai mewn canu'n gywrain a gorchestol, mewn copïau o'r gramadeg barddol a wnaed gan ei ddisgybl Gutun Owain.

Oherwydd natur gaethiwus ei newidiadau bu Dafydd ab Edmwnd dan lach Syr Morris-Jones: yn ei dyb ef, roedd dau o'i fesurau - y Cadwynfyr a Gorchest y Beirdd - yn llawer rhy astrus fel eu bod 'yn esgor ar ffiloreg yn lle barddoniaeth'.

Gosod sylfeini barddol

Y Cywydd, nid y ferch, oedd ei wir gariad ef.

Saunders Lewis

Ond nid ymyrrwyd â'r mesurau yn yr eisteddfodau a gynhaliwyd yng Nghaerwys ym 1523 a 1567, ac maent wedi parhau hyd heddiw.

Roedd Dafydd ab Edmwnd ar ei orau fel bardd serch, ac yn hyn o beth dim ond Dafydd ap Gwilym sydd yn rhagori arno.

Eto i gyd, mae ei gerddi yn llawer mwy clasurol ac yn darllen fel ymarferion cywrain o fewn confensiwn, heb yr angerdd a'r hiwmor a geir yng ngwaith ei ragflaenydd enwocach.

Roedd yn arbennig o hoff o ddisgrifio merch yn fanwl, yn enwedig ei gwallt, a hynny trwy ddefnyddio dyfalu, ond mae darllenydd yn cael yr argraff yn fynych bod gan y bardd mwy o ddiddordeb yn ei grefft nag yn yn ei gariad.

Ei gerdd enwocaf, efallai, yw ei farwnad i'w fab Siôn Eos, un o gywyddau gorau'r iaith Gymraeg.

Cadwyd llawer o ganu Dafydd ab Edmwnd mewn llawysgrifau a cyhoeddwyd cyfran helaeth ohono mewn casgliad a olygwyd gan Thomas Roberts ym 1914. Claddwyd y bardd yn eglwys Hanmer.

Meic Stephens


Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.