Caradog Pritchard

Un Nos Ola Leuad

Awdur y gyfrol enwog 'Un Nos Ola Leuad' ac enillydd tair coron a chadair Eisteddfodol.

Mab y Chwarel

Caradog Pritchard
Caradog Pritchard

Bardd, nofelydd a newyddiadurwr oedd Caradog Prichard. Treuliodd ran fwyaf ei oes yn Llundain, lle gweithiai ar staff y News Chronicle ac wedyn y Daily Telegraph, lle oedd yn uchel iawn ei barch ymhlith ei gyd-weithwyr. Tra'n byw yn Llundain cadwai ei wraig, Mattie, dŷ agored i Gymry, ac eraill, a daeth eu haelwyd yn adnabyddus am rialtwch a diwylliant. Ar y llaw arall, dioddefodd Caradog o effaith alcohol ac iselder ysbryd.

Ganwyd ef ym Methesda yn Sir Gaernarfon yn 1904 yn fab i chwarelwr. Achoswyd poen meddyliol iddo ar hyd ei oes gan y wybodaeth bod ei dad wedi cael ei ladd yn y chwarel, a hynny, efallai, o ganlyniad iddo fod yn 'fradwr' yn ystod y Streic Fawr ar ddechrau'r ganrif, er bod J. Elwyn Hughes wedi dangos yn fwy diweddar nad yw hyn yn debyg o fod yn wir.

Yr hyn sydd yn hollol wir yw fod mam Caradog Prichard wedi cael ei hanfon i ysbyty meddwl pan oedd ei mab yn ddyn ifanc. Pwysodd hyn arno yn ddirfawr ac mae i'w weld yn ei gerddi mwyaf adnabyddus, sef Y Briodas a Penyd.

Concwerwr Eisteddfodol

Enillodd y Goron yn yr Eisteddfod Genedlaethol dair gwaith, ym 1927, 1928 a 1929, y trydydd tro gyda phryddest sy'n dwyn y teitl 'Y Gân ni Chanwyd'. Enillodd hefyd y Gadair ym 1962 am ei awdl 'Llef Un yn Llefain'.

Mae 'Y Briodas' yn gyfres o delynegion dramatig sy'n cael eu llefaru gan bum cymeriad - y wraig, y mynydd, yr afon, yr ywen a'r ysbryd. Mae'r wraig yn tyngu llw i'w gŵr marw, ac erbyn diwedd y bryddest mae hi'n dawnsio'n lloerig gan dybio iddo ddychwelyd i'w hailbriodi. Cerdd ddirdynnol yw hon, fel ei ddilyniant 'Penyd,' oherwydd, fel sy'n hysbys, mae hi wedi ei seilio ar brofiad y bardd ei hun.

Cyhoeddwyd cerddi Caradog Prichard yn y cyfrolau 'Canu Cynnar' (1937), 'Tantalus' (1957) a 'Llef un yn Llefain' (1963), ac ymddangosodd casgliad cyflawn o'i waith barddonol ym 1979.

Llwyddiant Gola Leuad

Er gwaethaf ei fri fel bardd y Goron a'r Gadair, cafodd Caradog Prichard ei lwyddiant mwyaf fel awdur y nofel 'Un Nos Ola Leuad' (1961), sydd hefyd yn astudiaeth o wallgofrwydd, a Bethesda yn gefndir iddi hi.

Er bod y nofel wedi ei hysgrifennu yn gyfangwbl yn nhafodiaith gyfoethog yr ardal, mae hi wedi ei chyfieithu i sawl iaith arall ac wedi ei throi'n ffilm lwyddiannus. Yn wir, fe'i hystyrir fel un o nofelau mwyaf yr iaith Gymraeg.

Cyhoeddodd hefyd gasgliad o storïau byrion, sef 'Y Genod yn ein Bywyd '(1964) a hunangofiant hynod ffraeth a dadlennol, 'Afal Drwg Adda' (1973).

I ddeall cymeriad a gwaith y llenor cymhleth ac enigmatig hwn rhaid darllen llyfrau J. Elwyn Hughes a Menna Baines a gyhoeddwyd ym 2005. Dyn cymdeithasol iawn oedd Caradog Prichard, yn groesawgar, yn sgwrsiwr difyr, ac yn hoff o sylw a dwli - safodd unwaith fel ymgeisydd i fod yn Athro Barddoniaeth ym Mhrifysgol Rhydychen - ac eto roedd yna elfen dywyll yn ei gymeriad a ddeilliodd, yn ddiau, o'i brofiadau yn ardal y chwareli a ffawd echrydus ei rieni. Er ei fod yn hoff o ddychwelyd i'w fro enedigol o dro i dro, nid oedd yn gallu trigo yno, meddai, oherwydd profiadau atgas ei febyd.

Bu farw Caradog Prichard ym 1980 ac mae ei fedd yn rhan Eglwysig Mynwent Coetmor ym Methesda.


Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.