Bertrand Russell

Bertrand Russell

Athronydd, mathemategydd, enillydd Gwobr Nobel am Lenyddiaeth, roedd Bertrand Russell yn gawr ym myd athroniaeth. Ac roedd ei syniadau ymhell o flaen eu hamser.

Dyddiau cynnar

Roedd yn fathemategydd penigamp, a medrai siarad yn blwmp ac yn blaen ynghylch y gymdeithas o'i gwmpas. Enillodd Wobr Nobel am Lenyddiaeth yn 1950.

Er iddo gael ei eni yng Nghymru, ac er iddo farw yng Nghymru - treuliodd ei ddyddiau olaf yn ei gartref ym Mhlas Penrhyn, Penrhydeudraeth - ni ystyrir ef yn athronydd 'Cymreig' oherwydd iddo fyw ar garlam ar hyd a lled y byd.

Ond ganed ef yn Nhrellech, Gwent, i deulu crand iawn, ond roedd yn amddifad cyn iddo fod yn bedair oed. Treuliodd weddill ei blentyndod gyda'i daid, yr Arglwydd John Russell - a fu'n brif weinidog ddwywaith - a'i nain. Roedd hi'n ddynes lem a sych; dyheai'r bachgen bach am ryddid oddi wrth y rheolau a'r gwaharddiadau a roddid arno.

Ond disgleiriodd fel efrydydd yng Nghaergrawnt, ac aeth ymlaen i weithio am gyfnod yn y llysgenhadaeth Brydeinig ym Mharis, cyn dychwelyd i Gaergrawnt fel Cymrawd.

Digiodd ei deulu pan briododd yr Americanes Alys Persall Smith; yna aeth i Berlin, lle sgwennodd ei lyfr cyntaf.

Gwrthod Cyfoeth

Ei lyfr pwysig cyntaf oedd The Principles of Mathematics (1903), a dilynodd hwn efo llyfrau eraill yn ymwneud â mathemateg ac athroniaeth, cyn newid trywydd.

Safodd fel ymgeisydd i'r Senedd yn 1907, ar ran y Women's Suffragette Society, a rhoddodd y rhan fwyaf o'i gyfoeth i eraill oherwydd bod etifeddu cyfoeth yn anfoesol, meddai.

Cythruddodd y boneddigion gyda'i foesau 'llac', gan honni bod dynol ryw yn medru dygymod â mwy nag un partner rhywiol; bu'n caru ar y slei efo'r wraig lenyddol Lady Ottoline Morrell, a gwraig TS Eliot hefyd. Roedd bod yn hoyw, a rhyw rhwng y di-briod yn iawn hefyd, meddai.

Pan ddechreuodd y Rhyfel Mawr collodd ei swydd oherwydd iddo fod yn heddychwr. Bu yn y carchar am chwe mis am sarhau byddin America; wedi'r rhyfel aeth i Rwsia lle cyfarfu â Lenin a Trotsky, ond trodd yn erbyn y neges Bolsiefic. Yna aeth i fod yn Athro yn Peking rhwng 1920-1921.

Gwobr Nobel

Mae tri theimlad angerddol...wedi llywio fy mywyd: fy nyhead am gariad, fy chwant am wybodaeth a fy nghydymdeimlad ingol â dioddefaint dynol ryw.

Bertrand Russell

Pan gyrhaeddodd 50 oed yn 1922 cyhoeddodd fod yr ymennydd yn ystyfnigo a throdd at yrfa newydd, yn sgwennu ac yn darlithio ar bynciau dirifedi. Un o'i themâu oedd 'Pam nad ydwyf yn Gristion'.

Agorodd ysgol newydd yn swydd Sussex gyda'i ail wraig, Dora Black, yn 1927, gyda'r pwyslais ar addysg eang a rhyddfrydig.

Erbyn 1936 roedd wedi priodi ei gynorthwyydd ymchwil, Patricia Spence, ac roedd yn Athro ym Mhrifysgol California. Aeth ymlaen i Brifysgol Efrog Newydd, ond barnwyd fod ei ddamcaniaethau cymdeithasol o flaen eu hamser a bu raid iddo fynd i Harvard.

Aeth yn ôl i Gaergrawnt yn 1944, ac fe enillodd Wobr Nobel am ei History of Western Philosophy yn 1945; gwnaeth y llyfr hwn gryn dipyn o arian iddo hefyd.

Rhoddodd orau i heddychiaeth yn ystod yr Ail Rhyfel Byd, ond cymerodd ran amlwg iawn yn yr ymgyrch gwrth niwclear wedyn.

Trychinebau Personol

Profodd sawl trychineb bersonol: roedd ei fab John a'i wyresau Sarah a Lucy yn sgitsoffrenig; a lladdodd Lucy ei hun o'r herwydd.

Carcharwyd Russell yn 1961 - pan oedd dros ei nawdeg - gyda'i bedwerydd wraig, Edith Finch, am gymryd rhan mewn protest.

Treuliodd ddyddiau olaf ei oes ym Mhlas Penrhyn ger Penrhyndeudraeth, nid nepell o Bortmeirion. O'r tŷ yma y gyrrodd delegramau i Khrushchev a Kennedy ynghylch argyfwng taflegrynnau Cuba yn 1962 ac dyma lle ysgrifennodd ei hunangofiant rhwng 1967-9.

Yn ei hunangofiant, mae'n disgrifio ei ddyfodiad i'r fro am y tro cyntaf. Dyma gyfieithiad:

"Mwy na dim, roedd golygfeydd hyfryd tua'r de i'r mor, i Borthmadog a bryniau Caernarfon yn y gorllewin, ac i fyny Dyffryn Glaslyn hyd at yr Wyddfa. Fe'm swynwyd gan y tŷ, ac fe'm hysgogwyd yn fawr gan y ffaith bod Shelley wedi byw yn y tŷ ar draws y dyffryn. Roedd perchennog Plas Penrhyn yn barod i rentu'r tŷ i ni, yn bennaf rwy'n meddwl oherwydd ei fod yntau hefyd yn hoff o Shelley ... yn hwyrach ymlaen cyfarfûm â dyn yn Nhan-y-Rallt a honnai fod Shelley yn ganibal.'

Bu farw Russell ar ôl dal y ffliw ym mis Chwefror, 1970, ym Mhenrhyndeudraeth, yn 97 mlwydd oed. Chwalwyd ei ludw ar y bryniau ger ei gartref ym Mhlas Penrhyn.


Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.