Culhwch ac Olwen

Darluniau gan Jemima Lee

Dyn ifanc golygus oedd Culhwch, ac roedd yn chwilio am wraig. Ond tyngodd ei lysfam na châi briodi neb ond Olwen - ac roedd priodi Olwen yn amhosibl. Hi oedd y ferch brydferthaf yn y byd, ond nid oedd neb yn gwybod ble roedd hi'n byw. Gyda help Arthur a'i filwyr bu Culhwch yn chwilio amdani am flwyddyn gron. Daeth o hyd iddi o'r diwedd - yn gwisgo mantell sidan fflamgoch ac yn harddach na neb byw.

Byddai'n rhaid i Culhwch gael caniatâd i'w phriodi. Roedd tad Olwen, y cawr mileinig Ysbaddaden, yn enwog am ladd pob dyn a ddeuai i ofyn am law ei ferch. Pam? Oherwydd byddai Ysbaddaden yn syrthio'n farw ar ddydd priodas Olwen.

Ar ôl bargeinio'n galed â'r cawr cafodd Culhwch ganiatâd i briodi Olwen ar yr amod ei fod yn cyflawni deugain o dasgau cwbl amhosibl i unrhyw ddyn byw fedru eu cyflawni. 'Dim problem!' meddai Culhwch wrth glywed y rhestr, a rhedodd at Arthur am help.

Un o'r tasgau oedd dod o hyd i Mabon fab Modron. Pan oedd Mabon yn dair noson oed ac yn cysgu'n braf yng ngwely ei fam, daeth rhywun a'i gipio i ffwrdd. Ni welodd neb mohono fyth wedyn. Ble gallai fod? Penderfynodd Culhwch ofyn i'r Anifeiliaid Hynaf yn y Byd a oeddynt hwy yn gwybod ble roedd Mabon.

Gwyddai Eog Llyn Llyw am ddyn a oedd mewn carchar creulon iawn. Mabon! Gyda help rhyfeddol milwyr Arthur, ymladdodd Culhwch yn ffyrnig yn erbyn milwyr y carchar, a chario'r dydd. Roedd Mabon yn rhydd.

Tasg arall oedd hela'r Twrch Trwyth. Baedd gwyllt oedd hwnnw, a chariai grib, siswrn a rasel ar ei ben. Roedd angen dwyn y grib, y siswrn a'r rasel er mwyn i Ysbaddaden Bencawr fedru ymbincio ar gyfer y briodas.

Yn Iwerddon yr oedd gwâl y Twrch. Dyma Arthur yn gosod ei gŵn ar y Twrch, ac yn gorchymyn byddin o Wyddelod i ymosod arno. Dim llwyddiant. Yna fe ymosododd milwyr Arthur arno - a hyd yn oed Arthur ei hun - ond dianc a wnaeth y Twrch. Nofiodd dros y môr i Gymru a brwydro ei ffordd drwy'r de.

Ar lan afon Hafren ymosododd milwyr Arthur arno unwaith eto a chau'n dynn amdano. Llwyddiant! Cipiodd Mabon y rasel o ben y Twrch. Rhuthrodd Cyledr Wyllt i'w ben o'r ochr arall a chipio'r siswrn. Ond cyn i neb fedru cael gafael ar ei grib, dihangodd y Twrch a rhedeg fel y gwynt i Gernyw, a'r milwyr a'r cŵn yn dynn ar ei sodlau.

Bu brwydr fawr yng Nghernyw. O'r diwedd cipiwyd y grib a diflannodd y Twrch Trwyth i'r môr.

O un i un, cyflawnodd Culhwch y tasgau nes mai dim ond un oedd ar ôl. Casglu gwaed y Wrach Ddu Iawn oedd y dasg olaf.

Dewiswyd dau frawd, Cacamwri a Hygwydd, i gasglu gwaed y wrach. Wrth iddynt sleifio i mewn i'w hogof dywyll, gafaelodd y wrach yn Hygwydd gerfydd gwallt ei ben, a'i daro'n galed ar lawr. Rhoddodd gosfa iawn i'r ddau. Ac felly hefyd i ddau arall a geisiodd ymladd â hi.

O'r diwedd cipiodd Arthur geg yr ogof ac anelu at y wrach â'i gyllell, Carnwennan. Tarodd y wrach yn ei chanol, a'i thorri'n ddau ddarn nes bod ei gwaed yn llifo'n goch. Casglodd Caw ef i bwced mewn dim o dro.

Aeth Culhwch ar ei union i lys Ysbaddaden Bencawr. Eilliwyd barf Ysbaddaden hyd yr asgwrn. Gofynnodd Culhwch iddo, 'A gaf fi briodi Olwen yn awr? Mae'r tasgau i gyd wedi eu cyflawni.'

'Dros fy nghrogi!'

Torrwyd pen Ysbaddaden a chipiodd Culhwch ei deyrnas.

A dyna sut cafodd Culhwch Olwen ferch Ysbaddaden Bencawr yn wraig.


Chwedlau Myrddin

Morgana

Straeon a gemau

Ewch ar anturiaethau gyda'r cymeriadau yn ein gemau a straeon cyfoes.

Dysgu

Celtiaid

Celtiaid

Straeon a ffeithiau difyr am fyd y Celtiaid o Oes yr Haearn yng Nghymru.

Ysgolion

Darlun o Cromwell yn diddymu'r Senedd Hir

Help Hanes

Erthyglau defnyddiol am hanes Cymru drwy'r oesau ar gyfer disgyblion ysgol.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.