Tyddewi......hafan dau nawddsant

Flag Tyddewi

Fflag Tyddewi

Gall dinas leiaf Prydain ymffrostio mewn dau nawddsant.

Ond Dewi Sant yw'r prif reswm pam y bu'r hafan hynafol hon yn gyrchfan pererinion am yn agos i fil o flynyddoedd ac yn lle o bwys yn hanes Cristnogaeth am dros hanner mileniwm arall.

Mae gan Dyddewi bob hawl i hawlio ei dau nawddsant gael eu geni yma.

Dywed traddodiad i Badrig Sant, nawddsant Iwerddon, gael ei eni yng Nglyn Rhosyn ddiwedd y bedwaredd ganrif a nodir 375 a 389 fel blynyddoedd ei eni gan wahanol ffynonellau.

Cael ei gipio

Mae chwedl amdano'n cael ei gipio gan fôr-ladron a'i ddwyn i Iwerddon pan oedd tua 16 oed.

Dywed chwedl arall iddo ddychwelyd o Iwerddon ac yntau'n hen ŵr a'i fod yn pregethu yn Nhyddewi pan sylwodd ar ferch ifanc feichiog ymysg y dorf. Fei trawyd yn fud am ennyd.

Honnir iddo gael gweledigaeth y byddair baban yng nghroth y ferch yn tyfu'n sant a fyddai'n cwblhau'r gwaith o wneud Cymru yn wlad Gristnogol cwblhau'r gwaith a gychwynnwyd ganddo ef yn Nhyddewi.

Non oedd y ferch a Dewi y plentyn yn ei chroth.

Ger ffynnon

Dywedir i Ddewi gael ei eni ger Ffynnon Non, ar y darn o arfordir agored a gwyllt i'r de o Dyddewi.

O ddilyn llwybr yr arfordir o gwmpas Tyddewi mae cyfeiriadau at adfeilion hen Gapel Non y credir ei fod ymhlith yr hynaf o adeiladau crefyddol Cymru.

Gerllaw, mae capel arall, o'r ugeinfed ganrif.

Ar ôl cael ei addysg ym Mynachlog Hendygwyn ar Daf dychwelodd Dewi i'w fro enedigol, Glyn Rhosyn, i barhau gwaith Padrig.

Deniadol i'r Cymry

Yr oedd symlrwydd bywyd Dewi Ddyfrwr a'i ymwrthod â phob moethusrwydd yn ddeniadol i'r Cymry tlawd yn ystod ei fywyd ac ar ôl ei farw.

Fei canoneiddiwyd gan y Pab Callixtus II yn y ddeuddegfed ganrif ac o hynny ymlaen ystyriwyd bod dwy bererindod i Dyddewi gystal ag un i Rufain.


Cylchgrawn

Blogiau Crefydd

Blogiau Crefydd

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

Bwrw Golwg

Bwrw Golwg

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Trin a thrafod Llyfrau

Trin a thrafod Llyfrau

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.