Hindŵaeth

In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions

Rheinallt Thomas yn trafod Hindŵaeth

Hanes

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o grefyddau, nid oes gan Hindŵaeth broffwyd a osododd reolau, credoau a dull o fyw ar gyfer dilynwyr.

Datblygodd Hindŵaeth dros gyfnod maith ac ni ellir cyfeirio at unrhyw ddyddiad arbennig lle gellir dweud mai dyna pryd y cychwynnodd.

Gellir dweud i rai o'r credoau ddechrau datblygu rhwng 4,000 a 5,000 o flynyddoedd yn ôl yng ngogledd Yr India.

Ar ei ffurf gynharaf crefydd a gredai yng ngrymoedd natur oedd hi - yr haul, y môr a'r gwynt.

Dros gyfnod o amser adeiladwyd temlau a chysegrfannau, a dechreuwyd ffurfioli'r grefydd.

Yn 1750 C.C. goresgynnwyd rhan o Ogledd India gan Ariaid, a ymsefyd1odd yno gan ddod â'u credoau eu hunain gyda hwy.

Cynhwysir yr ysgrifeniadau cynharaf yn y Veda, un o lyfrau sanctaidd yr Hindŵiaid.
Yr Ariaid a sefydlodd hefyd y Gyfundrefn Gast sy'n parhau yn rhan bwysig o fywyd Hindŵaidd hyd heddiw.

Daeth yr Hindŵiaid i gredu mewn un bod mawr, Brahman sydd mor fawr a hollalluog ei bod yn amhosibl i feidrolion ei ddirnad.

Maent yn credu mewn nifer o dduwiau, pob un ohonynt yn cynrychioli un rhan neu un agwedd o Brahman.

Mae tri phrif Dduw yn ôl credo'r Hindŵiaid:

  • Brahma, Y Creawdwr;
  • Vishnu, Yr Amddiffynnwr;
  • Shiva, Y Dinistriwr.

Man addoli

Gelwir teml Hindŵaidd yn Mandir. Mae gan bron i bob pentref yn yr India ei deml ei hun a all fod yn adeilad mawr a adeiladwyd yn arbennig, neu yn adeilad bychan neu yn gysegrfan mewn tŷ.

Adeiladwyd rhai temlau enwog yn y mannau lle credid i'r duwiau ymddangos ar y ddaear.

Bydd offeiriad Brahmin yn y rhan fwyaf o'r temlau a'u gwaith hwy yw cynnal y gysegrfan ac arwain y gweddïau yno.

Canolfan y gysegrfan yw'r man lle gosodir delw o'r Duw.

Fel rheol neilltuir teml i un prif dduw, gyda'r duwiau llai yn cael eu cynrychioli o gwmpas y prif allor.

Mae'r Brahmin yn gweithredu fel Cyfryngwr rhwng yr addolwyr a'r Duwiau.

Wrth fynd i mewn i'r temlau bydd pobl yn diosg eu hesgidiau ac yn cynnig rhoddion fel blodau a bwyd i'r duwiau.

Ni fydd y rhoddion hyn byth yn cynnwys cig, gan y cred Hindwiaid na ddylid lladd anifeiliaid.

Caiff y bwydydd a offrymir i'r Duwiau eu bwyta yn ddiweddarach gan y gynulleidfa fel bwyd a fendithiwyd (Prasada) gan y Duwiau.

Ceir tri phrif math o addoli yn y Mandir:

  • Havan, lle mae i dân ran amlwg.
  • Arti, sy'n cynnwys goleuo canhwyllau a gweddïo. Gosodir smotyn coch ar dalcen yr addolwyr fel arwydd eu bod wedi eu bendithio.
  • Bhajanau - canu gweddïau ac emynau; fel rheol gan gynulleidfa fawr.

Ysgrythurau Sanctaidd

Mae gan Hindŵaeth nifer o lyfrau cysegredig a'r hynaf yw'r Veda.

Llyfr pwysig arall yw Deddfau Manu.

Mae llawer o'r llyfrau eraill ar ffurf barddoniaeth.
Ysgrifennwyd y Veda rhwng 1200 a 600 CC a hwn yw'r llyfr crefyddol hynaf sydd mewn bod.

Fel gyda llawer o'r crefyddau hynafol eraill, trosglwyddwyd y storïau ar lafar o genhedlaeth i genhedlaeth a dim ond yn y bymthegfed ganrif y cafwyd y ffurf ysgrifenedig lawn arno.

Rhennir y llyfr i dair prif adran. Yn y llyfr cyntaf emynau a geir gan fwyaf wedi eu cysegru i 33 o dduwiau.
Gelwir y llyfr hwn yn Rig-Veda, sy'n golygu Veda o fawl gyda dros 1000 o emynau ynddo.

Enw'r ail lyfr yw Brahmanau sy'n disgrifio'r gwahanol ddefodau gan egluro eu harwyddocâd .

Yr Upanishadau yw'r trydydd llyfr lle trafodir gwahanol agweddau ar ffydd gan gynnwys ailenedigaeth a Karma.

Mewn gwasanaethau crefyddol daw llawer o'r gweddïau o'r Veda, a daw rhai o'r emynau poblogaidd o'r Upanishadau.

Mae cyfieithiad Cymraeg o'r Bhagavad-Gita ar gael, Y Fendigaid Gân gan Cyril G. Williams. (Gwasg Prifysgol Cymru, 1991).

Credoau

Rhaid i'r Brahmin fyw yn ôl Y Pum Dyletswydd Dyddiol:

  • Rhaid iddynt addoli Brahman drwy Puja.
  • Dylent ddarllen y Veda a pharchu'r seintiau.
  • Dylent ddangos parch dyledus i hynafgwyr a rhieni.
  • Dylent roi lloches a nawdd i'r tlawd a gwŷr sanctaidd.
  • Dylent edrych ar ôl anifeiliaid gan eu bod hwythau hefyd yn greaduriaid i Dduw.

Gwyliau

Mae llawer o wyliau, dyma rai yn unig:

  • Diwali, yr ŵyl sy'n dathlu'r flwyddyn newydd (yn ôl yr hen galendar) yn yr India. Cynhelir hi yn hwyr ym mis Hydref neu ddechrau Tachwedd gan ddibynnu ar y lleuad newydd. Mae'n dathlu dychweliad Rama a Sita i'w teyrnas. Mae'r hanes yn ymddangos yn llyfr y Ramayana. Gŵyl y Goleuni yw Diwali.
  • Navarati (y naw noson) yw'r ŵyl a neilltuir ar gyfer y Dduwies Durga, y symbol o famolaeth. Bydd yn parhau am naw diwrnod ac y mae'n dwyn i gof hen chwedlau am Rama a Sita.
  • Rama-Navami yw'r ŵyl sy'n dathlu pen-blwydd Rama, a chynhelir hi ym Mawrth neu Ebrill. Bydd llawer o Hindwiaid yn ymprydio ar y diwmod hwn.
  • Janmashtami yw'r ŵyl sy'n dathlu pen-blwydd Krishna. Dywedir fod Krishna yn ymgnawdoliad o'r Duw Vishnu.
  • Shivarati yw'r ŵyl sy'n dathlu'r Duw Shiva. Bydd pobl yn aml yn ymprydio am bedair awr ar hugain, neu hyd yn oed am 36 awr. Dilynir hyn gyda gwledd.

Yng Nghymru

Mae temlau/cymunedau yng Nghaerdydd a Chasnewydd.


Cylchgrawn

Blogiau Crefydd

Blogiau Crefydd

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

Bwrw Golwg

Bwrw Golwg

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Trin a thrafod Llyfrau

Trin a thrafod Llyfrau

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.