Cristnogaeth

Santes Gristnogol - Gwenffrewi

gan Rheinallt Thomas

Hanes

Cychwynnodd Cristnogaeth tua 35 OC a lledaenodd yn raddol nes bod erbyn heddiw Gristnogion ym mhob gwlad drwy'r byd.

Hi, o bosibl, yw'r grefydd fwyaf niferus yn y byd bellach.

Tardda'r gair Cristnogaeth o enw Iesu Grist, gwr a dreuliodd rai blynyddoedd yn pregethu neges Duw cyn iddo gael ei groeshoelio.

Fel y lledaenai Cristnogaeth, datblygodd mewn gwahanol ffyrdd ac erbyn heddiw ceir tair prif gangen, a channoedd o fan ganghennau.

Y tair prif gangen yw:

  • Yr Eglwys Babyddol;
  • Yr Eglwys Uniongred (er enghraifft, Eglwys Uniongred Groeg ac Eglwys Uniongred Rwsia);
  • Yr Eglwys Brotestannaidd, (er enghraifft, Anglicaniaid, Presbyteriaid, Methodistiaid, Bedyddwyr ac ati).

Mae llawer o grefyddau newydd yr ugeinfed ganrif hefyd a'u gwreiddiau mewn Cristnogaeth gan eu bod yn dilyn dysgeidiaeth Gristnogol y Beibl, llyfr cysegredig y Cristion.

Tua 500 mlynedd wedi marwolaeth Iesu datblygwyd calendr newydd oedd i gychwyn gyda blwyddyn ei eni - ond roedd amcangyfrif yr ysgolheigion am ddyddiad ei eni rywfaint allan ohoni.

Ganwyd Iesu tua 4 CC mewn gwirionedd ond rydym ni heddiw'n defnyddio'r un calendr a hwnnw'n gwahanu hanes i CC (Cyn Crist) ac OC (Oed Crist) neu AD - sef Blwyddyn yr Arglwydd.

Man addoli


Mae Cristnogion yn addoli mewn Eglwys - gair sy'n dod o'r Lladin ecclesia.

Yng Nghymru ceir eglwysi sy'n perthyn i'r Eglwys Babyddol, i'r Eglwys yng Nghymru, a'r eglwysi anghydffurfiol sy'n cynnwys y Presbyteriaid, Methodistiaid a'r Bedyddwyr a nifer eraill.

Yn yr eglwysi sy'n perthyn i'r Eglwys yng Nghymru mae'r cynllun fel rheol ar ffurf croes, sy'n cynrychioli croeshoeliad ac atgyfodiad Iesu.

Ceir Allor mewn eglwys - ym mhen dwyreiniol yr adeilad fel rheol.

Yn y pen arall ceir weithiau feindwr neu dwr gyda chloch ynddo, fydd yn cael ei chanu ar adegau arbennig.

Bydd y gynulleidfa'n eistedd ar seddau yng Nghorff yr eglwys.

Y naill ochr a'r llall i'r corff ceir cilfachau.

Gelwir gweddill yr eglwys yn Gangell.

Mae yno bulpud a darllenfa hefyd.

Rhennir Cymru yn esgobaethau, gyda'r Gadeirlan yn brif eglwys ym mhob esgobaeth.

Yr Esgob yw pennaeth yr esgobaeth, a phennaeth y gadeirlan yw'r Deon.

Mae'r eglwysi anghydffurfiol - neu Gapeli fel y gelwir hwy yn aml - yn cynnwys rhai o nodweddion eglwys y plwyf ond fel rheol mae'r cynllun yn wahanol iawn a chan amlaf yn cynnwys sêt fawr i'r blaenoriaid neu ddiaconiaid.

Ysgrythurau sanctaidd

Rhennir y Beibl yn ddwy brif adran.

  • Yn Yr Hen Destament ceir dysgeidiaeth ynglyn â sut y dymunai Duw i'r Iddewon fyw.
    Mae iddo 39 o 'lyfrau' yn cychwyn gyda Llyfr Genesis.
  • Mae'r Testament Newydd yn sôn arn gyfnod Iesu, a'r blynyddoedd yn dilyn ei farwolaeth pan sefydlwyd yr Eglwys Gristnogol.
    Rhannwyd y Testament Newydd yn 27 o 'lyfrau', oll yn annog dilynwyr Iesu i fyw yn unol â'i ddysgeidiaeth.

Ni chafodd yr un o 'r llyfrau hyn eu hysgrifennu gan Iesu ei hun ond naill ai gan ei ddisgyblion cyntaf neu gan Gristnogion eraill y cyfnod.

I Gristnogion mae'r Testament Newydd yn gwireddu addewid yr Hen Destament ac yn adrodd am, ac yn dehongli'r Cyfamod (cytundeb ) newydd rhwng Duw a 'i bobl, sy'n cael ei wireddu drwy fywyd a marwolaeth Iesu.

Fel yn yr Hen Destament ceir ynddo amrywiaeth o ddulliau ysgrifennu ac ymhlith y 27 llyfr ceir:

  • Atgofion am fywyd a gweithredoedd a dywediadau Iesu yn y pedair Efengyl.
  • Adroddiad hanesyddol o flynyddoedd cynharaf yr Eglwys Gristnogol yn Actau'r Apostolion.
  • Nifer o Epistolau neu lythyrau sy'n llawn cynghorion.
  • Ac, i orffen, disgrifiad apocalyptaidd o ymyriad Duw mewn hanes, Llyfr y Datguddiad.

Credoau

Gellir rhannu credoau Cristnogol yn dair rhan a'u crynhoi o dan y teitl Y Drindod Sanctaidd:

  • Y Tad - Mae Cristnogion yn credu mewn un Duw, sydd yn hollalluog. Creodd Duw y byd a'r cwbl sydd ynddo. Mae fel tad sydd yn gwarchod ac yn gofalu am ei bobl.
  • Y Mab - daeth Iesu Grist, mab Duw, i'r ddaear ar ffurf dyn i ddysgu pobl am Dduw. Bu farw ar y groes gan wneud yr aberth eithaf. Mae bellach gyda Duw yn y nefoedd ond bydd yn dychwelyd rhyw ddiwrnod i farnu dynoliaeth.
  • Yr Ysbryd Glân - yw grym Duw sy'n cyfnerthu ei bobl. Mae'r Ysbryd Glan o fewn pawb a phopeth er nad yw rhai pobl yn gadael iddo ddylanwadu ar eu bywydau.

Gwyliau


Mae'r gwyliau Cristnogol yn seiliedig ar ddigwyddiadau ym mywyd Iesu. Dyma rai o'r rhai pwysicaf.

  • Adfent: caiff ei dathlu ar y pedwar SuI cyn y Nado1ig.
  • Nadolig: genedigaeth Iesu ar Ragfyr 25.
  • Y Grawys: y deugain niwrnod ac eithrio'r Suliau, cyn y Pasg.
  • Sul y Blodau: y diwrnod yr aeth Iesu i mewn i Jerwsalem.
  • Dydd Iau Cablyd: diwrnod y Swper Olaf.
  • Dydd Gwener y Groglith: diwrnod croeshoelio Iesu.
  • Dydd Sul Y Pasg: diwrnod Atgyfodiad Iesu.
  • Dydd Iau Dyrchafael: dathlu esgyniad Iesu i'r Nefoedd.
  • Y Sulgwyn (Y Pentecost): y seithfed Sul wedi'r Pasg i ddathlu rhoddi'r Ysbryd Glân i'r Apostolion.

Cristnogion a Chymru


Mae eglwysi a chapeli ym mhob dinas, tref a phentref yng Nghymru yn perthyn i'r amrywiol enwadau.

Yn ôl cyfrifiad 2001 mae 71.9% o boblogaeth Cymru yn Gristnogion (2,087,242) gyda 18.5% (537,935) yn honni eu bod yn ddigrefydd.
Yn ôl yr un cyfrifiad 2001 roedd 0.2% o boblogaeth Cymru yn Fwdhiaid (5,407)

Yn ôl cyfrifiad 2001 roedd 0.2% o'r boblogaeth yn Hindwiaid (5,439), 0.1% yn Iddewon (2,256), 0.7% yn Fwslimiaid (21,739) a 0.1% yn Sikhiaid (2,015).


Cylchgrawn

Blogiau Crefydd

Blogiau Crefydd

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

Bwrw Golwg

Bwrw Golwg

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Trin a thrafod Llyfrau

Trin a thrafod Llyfrau

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.