Presbyteraid yn pwyso a mesur

Ifan Roberts - llun ioddi ar wefan yr enwad

Pwyso a mesur ac edrych ymlaen yn dilyn Cymanfa Gyffredinol Medi 2010 yn Llambed

15 Medi 2010

Rhybudd Ysgrifennydd Cyffredin wrth ymddeol

Daeth rhybudd arall bod yr Eglwys Bresbyteraidd mewn peryg o dreulio gormod o amser yn edrych ar ôl a chynnal adeiladau.

Wrth edrych yn ôl ar y rhaglen Bwrw Golwg ar ei gyfnod yn Ysgrifennydd Cyffredinol yr enwad dywedodd y Parchedig Ifan Roberts:

"Da ni'n dal i wario gormod ar adeiladau," meddai.

"Mi ddylem ni leihau llawer mwy ar ein hadeiladau a dod i ganolfannau a chanolbwyntio ar newid y dull rydym ni'n addoli a hefyd meddwl sut yr ydym ni am ddefnyddio'r dechnoleg fodern i gyflwyno y ffydd Gristnogol," meddai.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Yr oedd Mr Roberts yn cael ei holi gan gyflwynydd y rhaglen, John Roberts, yn dilyn Cymanfa Gyffredinol y Presbyteriaid yn Llambed lle'r oedd Ifan Roberts yn ymddeol wedi wyth mlynedd o wasanaeth.

Gofynnodd John Roberts iddo am ei deimladau o fod yn gadael ei swydd a 15,000 yn llai o aelodau na phan ddechreuodd - lleihad o un rhan o dair.

"Mae hynny'n siomedig a rhaid i mi gyfaddef nad ydw i wedi gweld cynnydd ysbrydol mawr yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn ystod yr wyth mlynedd ddiwethaf yma ond mae yna bobl ffyddlon iawn, mae yna bobl o ffydd ac argyhoeddiad o fewn ein heglwysi ac mae gennym ni brosiectau lle'r ydym ni'n estyn allan i'r gymuned," meddai.

Dywedodd bod enciliad yn duedd gyffredin yn y gymdeithas sydd ohoni.

"Dyma'r trend ynde - nid yn unig o fewn yr eglwys ond o fewn mudiadau eraill; undebau llafur ac yn y blaen, pleidiau gwleidyddol.

"Dydi pobl ddim eisiau bod yn aelodau bellach; ddim yn barod i gomitio eu hunain er bod yna bobl sydd yn dod yn ffyddlon iawn heglwysi ni [ond] ddim eisiau bod yn aelodau," meddai.

Gofynnodd John Roberts, "Ydych chi wedi newid digon i ateb gofynion yr oes?"

"Na, dydw i ddim yn credu ein bod ni o safbwynt addoli ac o safbwynt ein defnydd o dechnoleg fodern," meddai, "a da ni'n dal i wario gormod ar adeiladau mi ddylem ni leihau llawer mwy ar ein hadeiladau a dod i ganolfannau a chanolbwyntio ar newid y dull rydym ni'n addoli a hefyd meddwl sut yr ydym ni am ddefnyddio'r dechnoleg fodern i gyflwyno y ffydd Gristnogol," meddai.

Yr her wedi newid

Ar yr un rhaglen, dywedodd Dafydd Andrew Jones, cyfarwyddwr Bwrdd Bywyd a Thystiolaeth yr enwad sydd hefyd wedi ymddeol, fod "yr her" sy'n wynebu'r enwad wedi "newid rhyw dipyn" o safbwynt cenhadaeth.

"Dwi'n credu bod her seciwlariaeth yn fwy amlwg os nad yn fwy bygythiol erbyn heddiw a dwi'n meddwl bod dylanwad gwyddoniaeth ffasiynol fel petae yn hydreiddiol.

"Ac yn wyneb hynny i gyd dwi'n meddwl bod y sefyllfa wedi newid a hefyd, wrth gwrs, bod yn rhaid inni sylweddoli mai nid mater i academyddion ydi mynd i ddadlau pwyntiau diwinyddol ynglŷn â bodolaeth Duw; mae o'n fater i bob un ohonom ni i sicrhau ein bod ni yn cadarnhau ein cred ym modolaeth Duw yng Nghrist trwy fod ein bywyd ni drwyddo draw yn adlewyrchu y gwahaniaeth hwnnw," meddai.

Cytunodd hefyd bod yr hyn a alwodd John Roberts yn "ysbrydolrwydd amwys di gyfeiriad" hefyd yn ffactor.

"Mae yna rywfaint o weddillion ffydd sydd bron a throi yn chwedloniaeth.

"Un arwydd o hynny ydi'r allorau yma sydd ar fin ffordd, er enghraifft, neu y ceisiadau achlysurol y mae rhywun yn ei gael i fedyddio er enghraifft.

"Mae yna rhyw weddill o ffydd ar ôl . . . [a] faswn i ddim yn ei gondemnio o gwbwl y peth ydw i eisiau ei ofyn ydi, 'Os mai fan yna mae pobl ar hyn o bryd sut ydym ni fel Cristnogion yn gallu eu cyfarfod nhw fan lle maen nhw a'u harwain i weld rhagoriaeth Crist sydd i ni, beth bynnag, yn cyflawni pob peth, sy'n cyfannu bywyd'.

"A dyna pam rydw i'n anhapus efo unrhyw fath o raniadau.

"Dwi'n gwybod bod yna amrywiadau o reidrwydd yn bod ond [yn pryderu] bod yr amrywiadau yn mynd yn wahaniaethau sy'n gwahanu," meddai.

Pwyslais ar waredwr goruwch naturiol

Yn cymryd awenau yr Ysgrifennydd Cyffredinol oddi ar Ifan Roberts dywedodd y Parchedig Bryn Williams ar y rhaglen bod gostyngiad o un rhan o dair yn golygu hefyd, ar yr ochr gadarnhaol, bod dwy ran o dair wedi aros.

Golyga hynny 30,000 o aelodau, 3,000 o flaenoriaid, 60 o weinidogion, 31 o weithwyr cenhadol a 21 o weithwyr plant a phobl ifainc.

"Ac mae gennym ni waredwr, Iesu Grist, wedi concro angau a'r bedd," meddai.

"Mae gennym ni Dduw goruwch naturiol fedr newid y sefyllfaoedd a dwi'n meddwl mai'r ffordd iawn i Eglwys Bresbyteraidd Cymru ydi yn gadarnhaol gan atgoffa ein pobl mai Duw goruwch naturiol yn alluog i newid sefyllfaoedd ydi ein Duw ni," meddai.


Cylchgrawn

Blogiau Crefydd

Blogiau Crefydd

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

Bwrw Golwg

Bwrw Golwg

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Trin a thrafod Llyfrau

Trin a thrafod Llyfrau

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.