Pererindod i Mizoram

John Fraser Williams ym Mizoram. Hawlfraint JFW

26 Mawrth 2010

Taith emosiynol i'r lle y bu ei daid yn genhadwr

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Ddechrau'r ugeinfed ganrif aeth degau o genhadon o Gymru i'r India, yn eu plith y Parchedig Dr John Fraser Williams (1890-1947) o Gaernarfon a sefydlodd gyda'i wraig Hannah ysbyty mewn ardal sy'n cael ei hadnabod heddiw fel Mizoram.

Yn ddiweddar, gyda chymorth grant gan Yr Academi, ymwelodd y newyddiadurwr John Fraser Williams, hefyd o Gaernarfon, a'r ardal lle bu dylanwad y cenhadon o Gymru gymaint gan ymweld â'r tŷ lle ganwyd ei dad y Dr Robert Fraser Williams.

Ac yntau'n awr wedi dychwelyd i Gymru dywedodd ei fod yn gweithio ar hanes ôl-wladychol y cysylltiad rhwng ei deulu a Mizoram.

"Ar ben hynny, mae gen i gasgliad o farddoniaeth i'w gyhoeddi gan Cinnamon Press yng ngwanwyn 2011," meddai.

Y Parchedig Dr John Fraser Williams y cenhadwr

Ar Bwrw Golwg ar BBC Radio Cymru ddydd Sul Mawrth 22 2010 bu'n siarad gyda Bethan Jones Parry am yr ymweliad a gellir gwrando ar y sgwrs honno yn llawn trwy glicio ar y blwch llwyd, uchod.

Dylanwad ysgubol

Dywedodd John Fraser Williams fod ôl gwaith y cenhadon cynnar a'u dylanwad "ysgubol" yn parhau yn amlwg hyd heddiw i bawb sy'n ymweld â'r fro.

"Beth sy'n ddiddorol ydi, mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru wedi anghofio am y cenhadon yna ond i bobl Mizoram maen nhw'n enwogion ac maen nhw'n dal i drafod be ddigwyddodd pan gyrhaeddodd y cenhadon a lle'r aethon nhw," meddai.

Disgrifiodd ar y rhaglen y profiad hynod emosiynol o weld hen lamp olew ei daid yn cael ei harddangos mewn amgueddfa yno!

Dywedodd bod eu dylanwad ysbrydol a chrefyddol yn parhau hyd heddiw.

Y lamp

"Roedd na rhyw fath o 'ffeit' rhwng [eu] hen grefydd a'r Cristnogion ac mae fel pe byddai'r eglwys wedi bod mewn stad o ddiwygiad parhaol ers i'r cenhadon gyrraedd ac wrth wneud hynny maen nhw wedi llwyddo i ymgorffori lot o hen bethau traddodiadol," meddai.

Addoli'n egniol

"Er enghraifft, os yda chi'n mynd i oedfa ym Mizoram rydych yn clywed y drwm, maen nhw'n defnyddio'r drwm gyda chanu, mae pobl yn dawnsio, mae pobol yn ebychu a gweiddi allan.

"Mae na egni ysbrydol yna sydd bron yn anhygoel i rywun fel fi ei weld [ac] i weld dyfnder a cryfder y teimladau ymhlith y bobl. Roedd hynny yn dipyn o brofiad ac yn heriol imi hefyd," meddai.

Ychwanegodd ei bod yn deg defnyddio'r gair carismataidd i ddisgrifio'r hyn a welodd.

"Be maen nhw wedi llwyddo i'w wneud yw cyfuno neges y cenhadon, neges pobl ddoeth o Gymru, gyda'u hen arferion traddodiadol heb golli cryfder y neges ganolog," meddai.

Dywedodd i Mizoram gael ei rannu pan gyrhaeddodd y cenhadon cynnar gyda'r Prersbyteriaid â'r gofal am y gogledd a'r Bedyddwyr am y de.

"I raddau mae'r patrwm yna yn parhau," meddai.

Un o lwythi Israel

Wrth ymhelaethu am y syniad o ddiwygiad parhaol dywedodd:

"Wrth gwrs, wrth gael y diwygiad parhaol yma mae na duedd i grwpiau bychain godi hefyd ac mae hynny wedi digwydd i raddau ac mae na eglwys Bentecostal ac maen nhw wedi hyd yn oed gael ychydig bach o sectau bach sydd wedi codi gydag un grŵp yn credu mai un o lwythi colledig Israel ydi'r Mizos ac maen nhw wedi troi'n Iddewon a rhai yn trio mynd yn ôl i Israel rŵan," meddai.

Rhywbeth i'w ddysgu

Er mai Cymry fu'n gyfrifol am gyflwyno Cristnogaeth i'r bobl hyn dywedodd fod gan Gymru erbyn heddiw lawer i'w ddysgu gan y bobl hyn.

"Mae cryfder y teimladau crefyddol sydd ganddyn nhw yn enghraifft i ni i gyd a dwi'n dweud hwnna fel plentyn seciwlar y Chwedegau," meddai.

"Fe es i un oedfa lle'r oedd deng mil o bobl i gyd yn addoli gyda chryfder a chydag egni a dwi'n gweld bod y ffaith bod y Mizos yn teimlo yr angen i anfon cenhadon atom ni er mwyn, i raddau, dalu y ddyled yn ôl . . . [yn] beth da iawn, iawn," meddai.

Lluniau: hawlfraint John Fraser Williams.


Cylchgrawn

Blogiau Crefydd

Blogiau Crefydd

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

Bwrw Golwg

Bwrw Golwg

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Trin a thrafod Llyfrau

Trin a thrafod Llyfrau

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.