Pwysigrwydd cofio'r Holocost

Llun o Marion Loffler oddi ar wefan  y Ganolfan Uwchefrydiau Celtaidd

28 Ionawr 2010

A hithau'n ddiwrnod cofio'r Holocost, Ionawr 28, bu Bwrw Golwg yn holi'r Dr Marion Löffler, Cymrawd Ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau Celtaidd yn Aberystwyth, am arwyddocâd y diwrnod ioddi hi fel Almaenes ifanc.

I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.

Yn siarad gyda Bethan Jones Parry ddydd Sul Ionawr 24 2010 dywedodd fod Auschwitz yn golygu i bawb yn yr Almaen "gywilydd dwfwn " a'r diwrnod cofio'r Holocost ei hun yn golygu cywilydd a "brwydro'n ôl yn erbyn unrhyw dueddiadau gallai fod o ffasgaeth."

"Mae hyn," meddai, "yn bennod dywyll iawn, iawn, yn hanes yr Almaen ac yn un sy'n gwneud i mi deimlo yn euog , yn drist ac yn grac iawn bod Almaenwyr wedi gallu gadael i hyn ddigwydd."

Bu'n sôn hefyd sut y mae rhai o awduron mawr yr Almaen wedi delio a'r peth.

"Mae rôl yr awdur . . . yn bwysig iawn," meddai. "Yr awdur yw cydwybod y genedl a dyna pam mae pobl yn mynd mor ypset pan fo un o'r awduron mawr fe; Gunter Grass yn cyfaddef ei fod e fel llanc ifanc iawn, iawn, . . . yn gorfod ymuno a'r fyddin mewn rhyw ffordd ac [mai] uned o'r SS oedd hi."

Fe'i holwyd hefyd am yr arweiniad mae'r sefydliadau crefyddol yn ei roi.

Ynglŷn â phwysigrwydd y cofio dywedodd:

"Mae'n bwysig iawn cofio gan fod y genhedlaeth olaf sydd yn cofio fel tystion yn diflannu ac mae gen i ddau o blant, pump a saith mlwydd oed, mae'n rhaid iddyn nhw wybod beth ddigwyddodd oherwydd dim ond trwy wybod a gweithio drwy'r hyn ddigwyddodd i bob cenhedlaeth mae modd cychwyn eto ac mae modd ffeindio ffyrdd mwy creadigol i ddelio gyda'r cof ac mae'r delio, wrth gwrs, yn cynnwys gwneud yn siŵr fod hyn byth yn digwydd eto."

  • Gellir gwrando ar y sgwrs trwy glicio ar y darn llwyd ar gychwyn yr erthygl hon.

Cylchgrawn

Blogiau Crefydd

Blogiau Crefydd

Sylwadau bachog am grefydd, bywyd a'r byd

Dysgu

Dysgu

Codi Cwestiwn

Dysgu am grefyddau'r byd. Gweithgarwch addysg grefyddol rhyngweithiol

Radio Cymru

Bwrw Golwg

Bwrw Golwg

John Roberts yn trafod materion crefyddol bob bore Sul

Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Cylchgrawn

Trin a thrafod Llyfrau

Trin a thrafod Llyfrau

Archif o holiaduron awduron, straeon ac adolygiadau llyfrau.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.