Y dystiolaeth ddaearyddol am Gantre'r Gwaelod

Llun o foncyff coeden yn y dŵr ar draeth y Borth. Llun: Chris Lakin

Dywedir bod Cantre'r Gwaelod yn gorchuddio llawer o'r iseldir sydd bellach o dan Fae Ceredigion, ac mae nifer o nodweddion daearyddol yn gysylltiedig â'r chwedl.

Mae'r sarnau, cribau sengl filltiroedd o hyd, sydd yn rhedeg ar ongl sgwâr i'r lan, wedi eu lleoli rhwng bob un o aberoedd y pedair afon yng ngogledd y Bae.

Dywed y chwedl bod y cribau'n weddillion sarnau a adeiladwyd er mwyn sicrhau ffordd i gyrraedd y tir mawr presennol ar lanw uchel, ond mae'n debyg mai gweddillion marianau rhewlifol ydyn nhw - wedi eu ffurfio o ro, clai, tywod a meini a adawyd ar ôl wrth i'r rhewlifau doddi ar ddiwedd yr Oes Iâ ddiwethaf.

Yn ei 'Topographical Dictionary of Wales' (1833), nododd Samuel Lewis un arall o nodweddion Bae Ceredigion, a oedd i'w weld ar lanw isel iawn.

Casgliad o gerrig mawrion a chreigiau yw Caer-Wyddno, saith milltir allan yn y môr, i'r Gorllewin o Aberystwyth. A yw'n bosibl mai hwn oedd union balas y Brenin anffodus, oedd yn mwynhau parti tra roedd ei deyrnas yn boddi?

Chwedlau tebyg mewn gwledydd eraill

Credir bod nifer o'r chwedlau byd-eang sy'n sôn am foddi neu lifogydd yn cyfeirio at y newidiadau sylweddol mewn ffurfiau tir ar ôl yr Oes Iâ ddiwethaf. Rhwng 17,000 a 7,000 o flynyddoedd yn ôl toddodd capiau iâ anferth dros Ogledd Ewrop a Gogledd America, gan achosi llifogydd a chodi lefelau'r môr o dros 100 metr.

Cafodd 25 miliwn o filltiroedd sgwâr eu boddi gan y tonnau, ac er bod y newidiadau yn rhai graddol yn gyffredinol, byddai'n cyndadau wedi byw mewn amgylchfyd cythryblus a bregus.

Ceir chwedl debyg am greu Llyn Tegid ger y Bala - yn ôl yr hanes hwn, yn y dyffryn yma roedd llys Tegid Foel ond boddwyd ei deyrnas am iddo beidio gwrando ar rybuddion.

Moeswers

Credir i'r straeon yma gael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth er cof am yr amserau coll hynny, ac maen nhw wedi rhoi bodolaeth i amrywiol chwedlau sy'n sôn am golli tiroedd oherwydd boddi'r arfordir a chodiad yn lefelau'r môr.

Wrth gynnwys brenin o'r 6ed ganrif, mae stori Cantre'r Gwaelod fel petai wedi ei lleoli dipyn yn fwy diweddar, ond mae'n profi sut mae newidiadau yn y byd naturiol yn bwydo'r dychymyg, ac yn rhoi bodolaeth i chwedlau a glywir ar yr aelwyd.

Mae amrywiol fersiynau'r stori hon i gyd wedi eu seilio ar golli ardal a oedd unwaith mor ffrwythlon, ond mae'r fersiynau gwahanol geir ar hyd yr oesau yn arwydd gwerthfawr o'r newid mewn gwerthoedd cymdeithasol drwy gydol hanes.

Mae'r fersiynau cyntaf yn rhybuddio am ganlyniad tynnu sylw oddi ar ddyletswydd oherwydd trachwant, tra bod chwedlau mwy diweddar wedi dod yn ffordd i hybu dirwest - dewis poblogaidd ymhlith capelwyr Cymreig - gan rybuddio am ganlyniad y ddiod feddwol.

Profi'r chwedl?

Mae'r chwedl yn cadw'r stori'n fyw ym meddyliau'r bobl, fel y gwna'r enwau a briodolir i nodweddion daearegol, rhai ohonyn nhw'n cyfeirio at gymeriadau o'r storïau. Nid oes amheuaeth wyddonol bod ardaloedd o dan Fae Ceredigion wedi bod yn goediog a phoblog tua 7,000 mlynedd yn ôl.

Ond hyd yn ddiweddar iawn, mae'n debyg mai'r cyfeiriadau hyn mewn chwedlau oedd yr unig 'brawf' bod Cantre'r Gwaelod wedi bod yn dir uwchben y môr yn 600 OC.

Bellach, mae'n bosib y bydd datblygiadau mewn technoleg fodern yn golygu y gallwn ddod o hyd i leoliad Cantre'r Gwaelod. Yn 2003, daeth gwyddonwyr o Brydain o hyd i dechneg sganio sy'n medru creu map o wely'r môr i ddangos lle gallai pobl fod wedi byw oddi ar arfordir presennol Cymru.

P'un ai yw Bae Ceredigion yn cael ei archwilio ai peidio, mae chwedl Cantre'r Gwaelod yn dystiolaeth o diroedd coll Cymru, ac yn ffynhonnell amrywiaeth o straeon sy'n galaru colli Cantre'r Gwaelod.


Dysgu

Celtiaid

Celtiaid

Straeon a ffeithiau difyr am fyd y Celtiaid o Oes yr Haearn yng Nghymru.

History for kids

Sabrina

Myths

Journey into the world of Welsh myths in animated tales of adventure.

Merlin

Merlin

Ar y wefan

Fideos a gemau, gwybodaeth am y gyfres a mwy ar wefan Merlin.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.