Cantre'r Gwaelod

Traeth y Borth

Pan fo'r llanw'n isel, gwelir olion coedwig hynafol ar hyd yr arfordir rhwng Tywyn ac Aberdyfi, i'r gogledd o Aberystwyth.

Mae bonion coed a gwreiddiau o'r tir hwn yn dal i'w cael ymhlith y cloddfeydd mwyn canoloesol yn y cyffiniau. Fe all mai hon oedd ardal tiroedd coll y Cantre'r Gwaelod chwedlonol.

Ceir sawl fersiwn o'r stori am sut yr hawliwyd yr ardal hon gan y môr. Tan tua'r 17eg Ganrif, enwyd y tir coll yn 'Maes Gwyddno'. Dywed y chwedl gynnar hon i'r tir gael ei foddi pan ganiataodd offeiriades ffynnon y tylwyth teg i'r dŵr orlifo.

Ond enw'r tir yn y chwedl sy'n gyfarwydd inni heddiw yw Cantre'r Gwaelod - tir sy'n ymestyn rhyw 20 milltir i'r gorllewin o'r arfordir presennol i fewn i'r hyn a elwir heddiw yn Fae Ceredigion.

Yn nyddiau'r chwedl, câi'r ardal hon ei rheoli fel rhan o Deyrnas Meirionydd gan Gwyddno Garanhir, a anwyd tua 520 OC.

Dywedir bod y tir hwn yn hynod ffrwythlon, gymaint felly nes yr ystyriwyd un erw yma yn werth pedair erw yn unrhyw le arall. Y broblem oedd bod y tir yn dibynnu ar forglawdd i'w amddiffyn rhag y môr. Roedd llifddorau yn y morglawdd a gâi eu hagor ar lanw isel i ddraenio dŵr o'r tir, a'u cau wrth i'r llanw godi.

Y drychineb

Roedd y gwyliwr penodedig, Seithennyn, a oedd yn yfwr trwm ac yn gyfaill i'r Brenin, mewn parti ym mhalas y Brenin ger Aberystwyth. Mae rhai yn dweud iddo syrthio i gysgu oherwydd iddo yfed gormod o win neu ei fod yn rhy brysur yn cael hwyl i sylwi ar y storm ac i gau'r llifddorau.

Cafodd gatiau'r dŵr eu gadael ar agor, a rhuthrodd y môr i mewn i foddi tir y Cantref, gan foddi dros 16 o bentrefi. Llwyddodd y Brenin a rhai o aelodau ei lys i ddianc trwy redeg i ddiogelwch ar hyd Sarn Cynfelin; gorfodwyd i Gwyddno Garanhir a'i ddilynwyr adael y tir isel ac ennill bywoliaeth dlotach ar fynyddoedd ac yn nyffrynnoedd Cymru.

Y ddiod ar fai?

Mae fersiwn arall, mwy masweddus, yn mynnu mai Brenin lleol ar ymweliad oedd Seithennyn, a oedd, ar adeg y storm, â'i fryd ar ddal sylw'r forwyn brydferth Mererid, oedd yng ngofal y llifddorau. Gan i Seithennyn fod yn llwyddiannus yn ei berwyl, doedd Mererid, felly, ddim yn gallu cau'r gatiau, a boddwyd y tir.

Boddi Maes Gwyddno (pedair pennill gyntaf)

Seithennin, saf-di allan,
ac edrychwyr-di faranres
môr. Maes Gwyddnau rydöes.

Boed emendigaid y forwyn
a'i hellyngawdd gwedi cwyn,
ffynnon fynestr môr terwyn.

Boed emendigaid y fachdaith
a'i gollyngodd gwedi gwaith,
ffynnon fynestr môr diffaith.

Diaspad Fererid y ar fan caer;
hyd ar Dduw y'i dodir.
gnawd gwedi traha dranc hir.

Anhysbys, Llyfr Du Caerfyrddin 1250

Un noson, yn ôl y stori, tua 600 OC, fe gododd storm o'r de-orllewin, gan yrru llanw'r gwanwyn yn erbyn y morglawdd.

Mae'r chwedl wedi ysbrydoli nifer o gerddi a chaneuon drwy'r oesau. Credir iddi gael ei chrybwyll gyntaf yn Llyfr Du Caerfyrddin, llyfr a ysgrifennwyd 750 o flynyddoedd yn ôl, yn 1250. Cynhwysai gerddi a deunydd llawer hŷn, yn ymwneud â digwyddiadau o ganrifoedd ynghynt, gan gynnwys cerdd am Cantre'r Gwaelod.

Enw'r gerdd yw "Boddi Maes Gwyddno", ac mae'n rhoi'r fersiwn gynnar o'r stori lle mae'r forwyn Mererid yn gyfrifol am beidio â chau'r gatiau, gan adael i'r dilyw foddi'r tir. Mae'n un o'r enghreifftiau gorau o farddoniaeth ganoloesol Gymraeg, yn cynnwys tribannau tynn a chynnil gydag odl fewnol a chynghanedd.

Pa fersiwn bynnag o'r chwedl a ddewiswch, fe ddywedir, os gwrandewch chi'n astud, y gallwch glywed clychau'r ddinas goll yn canu o dan y dŵr, yn enwedig ar foreau Sul tawel, ac yn arbennig os ydych chi yn Aberdyfi, sy'n enwog mewn chwedloniaeth Gymreig, fel y lle agosaf ar dir sych i Gantre'r Gwaelod.

Daeth y gân 'Clychau Aberdyfi' yn boblogaidd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg mewn neuaddau cyngerdd.


Dysgu

Celtiaid

Celtiaid

Straeon a ffeithiau difyr am fyd y Celtiaid o Oes yr Haearn yng Nghymru.

History for kids

Sabrina

Myths

Journey into the world of Welsh myths in animated tales of adventure.

Merlin

Merlin

Ar y wefan

Fideos a gemau, gwybodaeth am y gyfres a mwy ar wefan Merlin.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.