Nadolig Pwylaidd yng Nghymru

Pysgodyn fel prif gwrs

Wedi wythnosau o ddyfalu pa anrhegion fydd yn cael eu gadael wrth droed y gwely'r 'Dolig yma, mae'n siwr y buasai plant led-led Cymru wrth eu boddau yn cael ymweliad gan Siôn Corn ddiwrnod ynghynt.

Ond nid ffantasi yw hyn i nifer o blant ar draws gweddill Ewrop, gan mai'r arferiad mewn gwledydd Pabyddol yw dathlu geni Crist ar Ragfyr 24.

Pwyliaid yn Nghymru
Mae un gymuned arbennig ar Benrhyn Llŷn yn dilyn yr arferiad hwn sef yng nghartref henoed i Bwyliaid alltud ym Mhenrhos ger Pwllheli.

Wedi diwedd yr ail ryfel byd ni allai aelodau o'r lluoedd arfog Pwylaidd aros yn eu mamwlad gan y buasai'r Rwsiaid yn eu herlid a'u carcharu. Cawsant ganiatad gan y wladwriaeth Brydeinig i ymsefydlu yma. Daeth rhai yn syth i Benrhos - fe'i hadnabu fel Camp for Missplaced Persons ar y pryd. Aeth eraill i fyw ar hyd a lled Prydain, yn aml mewn dinasoedd mawrion.

Dathliadau crefyddol
Addaswyd y camp yn annedd gysgodol lle gall Pwyliaid ddod i ymddeol mewn cymuned Bwylaidd. Rhan bwysig o'r bywyd a diwylliant Pwylaidd yw dathliadau crefyddol, felly mae dathliadau'r Nadolig yn y Cartref yn dra gwahanol i weddill Cymru. Bu Mrs Lichnowski, un o drigolion y cartref, yn esbonio mwy.

"Ar noswyl Nadolig rydym yn cael dathliadau mawr. Byddwn yn dechrau pan fo'r seren gyntaf yn yr awyr, rhwng 5 a 6 o'r gloch ... dyna yw'r arferiad. Mae pawb yn eistedd o gwmpas y bwrdd ac yn bwyta pryd arbennig. Ceir deuddeg neu fwy o gyrsiau bychan."

Lle i ddieithryn
Ni fwytir cig ar y diwrnod arbennig hwn - yn hytrach pysgodyn sydd ar y fwydlen. Mae hefyd yn draddodiad gosod lle i berson ychwanegol wrth y bwrdd bwyd - rhag ofn i ddieithryn alw heibio yn ystod y dathliadau.

Un arferiad sy'n unigryw i'r Pwyliaid yw bwyta bara cymun arbennig. Disgrifiodd Mrs Krowiak y stori tu ôl hyn:

"Cyn dechrau bwyta rydym yn rhannu bara cymun arbennig, siap sgwâr. Rhywbeth hanesyddol ydy o. Yn ystod Gwrthryfel Ionawr yng Ngwlad Pwyl, pan oresgynwyd y wlad gan Rwsia yn 1863, anfonwyd nifer o genedlaetholwyr Pwylaidd i Siberia. 'Doedd teuluoedd ddim yn cael gyrru parseli bwyd ac ati. Felly gwnaethpwyd afrlladen cymun sgwâr fel y gellid eu rhoi mewn amleni a'u postio i Siberia. Felly rydym yn cadw'r traddodiad yma drwy rannu'r wafers cymun sgwâr a dymuno'n dda i'n gilydd cyn swper noswyl 'Dolig."

Addasu'r dathlu
Ar ôl bwyta ac agor yr anrhegion cynhelir gwasanaeth offeren yn yr eglwys a elwir yn Pastelka. Wrth gwrs, gan fod y Pwyliaid wedi byw ym Mhrydain ers cyhyd mae llawer wedi addasu eu ffordd o ddathlu. Soniodd Mr Czerkas am sut y byddai o a'i deulu yn dathlu pan oeddynt yn byw ar gyrion Llundain:

"Mi wnaethom addasu ein ffordd ein hunnain. Byddwn yn chwarae rhan Siôn Corn i fy merch. Yn y wlad yma mae'n draddodiad rhoi'r anrhegion allan yn y nos, a pan mae'r plant yn deffro maent yn ffendio'r anrhegion.

"Ond i ni noswyl Nadolig yw diwrnod pwysica'r ŵyl. Felly byddem yn rhoi rhai o'r anrhegion ar y goeden, fel yn y traddodiad Pwylaidd. Ond byddem yn cuddio rhai o'r anrhegion, o'r golwg yng nghefn y garej neu rhywbeth.

Ar ôl bwyd mi fyddwn i'n mynd allan i newid ac yn dod yn ôl i fewn fel Siôn Corn efo sach fawr o anrhegion. Roedd o hanner ffordd rhwng y ddau draddodiad. Roeddem yn ei hoffi fel yna."


Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.