Adfent

Sachau bychain

Dyma ddechrau'r flwyddyn eglwysig yn y gorllewin. Atebion i gwestiynau fel, pryd mae gosod celyn yn y ty? Pwy oedd Santa Clôs? Pam rhoi halen ar y bwrdd dros y Nadolig?

Rhagfyr 1
Mae tymor yr Adfent yn cychwyn ar y pedwerydd Sul cyn y Nadolig. Dyma gyfnod traddodiadol paratoi ar gyfer gŵyl bwysicaf y flwyddyn i lawer. Daw y gair Adfent o'r Lladin Adventus a gyfieithir yn Dyfodiad. Ar un adeg nid oedd hawl i briodi yn ystod yr adeg hon.

Rhagfyr 2
Ar wahân i stori'r geni yn y Beibl y stori Nadolig fwyaf poblogaidd yn y byd ydi A Christmas Carol gan Charles Dickens. Fel y Cratchets yn y nofel roedd gan Dickens ei hun chwech o blant ac yr oeddynt yn byw mewn tlodi - nes iddo gael £250 am y stori.

Rhagfyr 3
Yr awdur o Gymro a wnaeth fwyaf o'r Nadolig traddodiadol o fins peis, ewythrod meddw, a dynion eira a hen fodryb dan ddylanwad sieri oedd Dylan Thomas. Dywedodd na allai byth gofio a fu iddi hi fwrw eira am chwe diwrnod a chwe noson pan oedd o'n ddeuddeg oed ynteu am ddeuddeg diwrnod a deuddeng noson pan oedd o'n chwech!

Rhagfyr 4
Yn draddodiadol defnyddiwyd Rhosyn Mair i addurno tai dros y Nadolig. Rhosmari bytholwyrdd ydi o ac yn ôl un chwedl cafodd ei arogl hyfryd wedi i Fair roi dillad y baban Iesu i sychu arno.

Rhagfyr 5
Diwrnod Krampus yn Awstria. Ysbryd drwg arswydus ei olwg yw Krampus gyda tafod hir, llygaid mawrion ac yn gwneud sŵn trwy ganu clychau ac ysgwyd cadwyni. Ond diwrnod o hwyl yw hwn gyda phlant yn taflu peli eira ato.

Rhagfyr 6
Dydd Sant Nicolas. Mewn rhai gwledydd dyma'r diwrnod y bydd Santa yn ymweld â'r plant gan adael anrhegion mewn esgidiau sydd wedi eu gadael wrth y lle tân.

Rhagfyr 7
Credir mewn rhai gwledydd fod gan Santa Lyfr Pechodau lle mae holl ddrygioni plant drwg wedi ei nodi. Dim ond plant da sy'n cael fferins ganddo. Mae'n gadael priciau i blant drwg.

Rhagfyr 8
Y Robin Goch yw aderyn y Nadolig. Yn ôl un chwedl, gwaed Crist a gochodd ei fron wrth iddo geisio tynnu un o bigau'r Goron Ddrain o'i friwiau.

Rhagfyr 9
Y diwrnod y bydd Iddewon yn dathlu Chanuka sef Gŵyl y Golau sy'n cyfeirio at wyrth o olew yn llosgi am wyth niwrnod.
Wrth ganu am y goeden Nadolig dywedodd T. Arfon Williams:
Dwy owns neu lai o dinsel
Wna'r wrach ddu'n briodferch hardd.

Rhagfyr 10
Daw'r gair Nadolig o'r Lladin am enedigaeth, Natalis. Cyn y cyfnod Cristnogol byddai'r hen Geltiaid yn dathlu dychweliad goleuni wedi troad y rhod ar Ragfyr 21. Mewn rhai ardaloedd yng Nghymru y gred oedd fod ysbryd Arawn yn hela gyda'i gwn o ddydd Nadolig tan Nos Ystwyll.

Rhagfyr 11
Dyma'r diwrnod y lladdwyd Llywelyn ap Gruffudd - Llywelyn ein Llyw Olaf - yng Nghilmeri ar lan Afon Irfon yn 1282. Llywelyn ap Gruffudd Wrth gofio'r achlysur ofnadwy canodd Gruffudd ap yr Ynad Coch:
Poni welwch chi hynt y gwynt a'r glaw?
Poni welwch chi'r deri'n ymdaraw?
Poni welwch chi'r môr yn merwinaw'r tir?
Poni welwch chi'r gwir yn ymgyweiriaw?

Rhagfyr 12
Er y bydd uchelwydd ar gael erbyn hyn ni ddylid mynd ag ef i'r tŷ tan noswyl Nadolig. Wrth ei gasglu ni ddylid ei dorri a haearn ac ni ddylid caniatau iddo gyffwrdd â'r ddaear. Ni ddaw unrhyw anlwc o gusanu rhywun sy'n sefyll oddi tano, fodd bynnag - cyn belled a'i fod ef neu hi yn cytuno!

Rhagfyr 13
Sais o'r enw Tom Smith a ddyfeisiodd gracyrs - yn 1847 a'r enw gwreiddiol arnyn nhw oedd Cosaques a dyfeisiodd Smith hwy fel ffordd o werthu mwy o'r fferins yr oedd ei gwmni yn eu cynhyrchu. Mae yna gwmni gwneud cracyrs yng Nghymru.

Rhagfyr 14
Yr ydym ar drothwy y Plygeiniau ym Maldwyn ac yn draddodiadol byddai'r rhain yn ymestyn heibio'r Nadolig i ganol Ionawr. I gloi'r tymor mae swper arbennig pryd mae carol y swper yn cael ei chanu:
Cydganed dynoliaeth am ddydd gwaredigaeth,
Daeth trefen Rhagluniaeth i'r goleuni
A chân Haleliwia o fawl i'r Gorucha,
Meseia Jiwdea heb dewi.

Rhagfyr 15
Y mae mwy nag un wedi gofidio dros y blynyddoedd fod "gwir neges y Nadolig" yn mynd yn angof yng nghol yr holl loddesta a gwario. T. James Jones a holodd:
Pa les Nadolig i'r plant Heb Iesu yn bresant?

Rhagfyr 16
Anrheg Nadolig gwerth chweil i'r wlad ar y diwrnod hwn yn 1905 oedd tîm rygbi Cymru yn curo'r Crysau Duon am y tro cyntaf yng Nghaerdydd. Un cais i ddim oedd hi er bod Seland Newydd yn dal i fynnu i Bob Deans sgorio cais i ddod â'i dîm yn gyfartal.

Rhagfyr 17
Yn ogystal ag uchelwydd a choeden yr addurn Nadolig poblogaidd arall yw 'r celyn ac i raddau llawer llai erbyn heddiw, yr eiddew. Ond ni ddylid dod a nhw i'r tŷ tan noswyl y Nadolig. Mae ffrwyth y celyn yn ein hatgoffa o waed Crist a'r dail pigog yn ein hatgoffa o'i Goron Ddrain. Mae diod o ddail yr eiddew i fod i gael gwared o ben mawr wedi noson o ddathlu.

Rhagfyr 18
Bu farw Dic Aberdaron ar y diwrnod hwn yn 1843, crwydryn a ddisgrifiwyd fel "Ieithgi uwch ieithwyr, wythwaith" oherwydd ei allu i siarad cynifer a 15 o ieithoedd. Ei gyfeillion pennaf oedd haid o gathod!

Rhagfyr 19
Yr enw ar Santa Clôs yn Rwsia oedd Dyn y Gwyrthiau ond yn Ffrainc y dechreuodd rannu anrhegion. Creadigaeth cwmni Coca-Cola yn nhridegau'r ugeinfed ganrif yw'r Santa'r bolgrwn, rhadlon, mewn siwt goch a barf yn wen.

Rhagfyr 20
Gwŷdd oedd aderyn traddodiadol y Nadolig ond dan ddylanwad yr Unol Daleithiau daeth y Twrci i boblogrwydd wedi'r Ail Ryfel Byd a hwnnw sy'n cael ei ystyried yn aderyn yr ŵyl bellach. Aderyn o Fecsico ydio'n wreiddiol. Byddai saim gwŷdd yn gwella pob anhwylder o gric yn y gwddf i gaethdra.

Rhagfyr 21
Daw'r dyddiau duon bach i ben heddiw. Dyma'r dydd byrraf neu Alban Arthan fel y byddai'n cael ei adnabod. Y gred yw y bydd y gwynt yn aros i chwythu o ble mae am hanner dydd y diwrnod hwn am chwe wythnos heb symud oddi yno.

Rhagfyr 22
Y mae gan Dwrci 3,500 o blu - does dim rhaid ichi wneud yn siwr, cymrwch ein gair! Pobl Israel yw'r bwytawyr twrci mwyaf awchus yn y byd gyda 28 pwys o gig twrci y pen yn cael ei fwyta yno bob blwyddyn. Twrci oedd pryd cyntaf Neil Armstrong ac Edwin Aldrin ar y lleuad.

Rhagfyr 23
Diwrnod Þorláksmessa yng Ngwlad yr Iâ pan fwyteir pryd arbennig o gath fôr. Y diwrnod olaf ar gyfer siopa Dolig yno gyda'r siopau'n agored tan hanner nos.

Rhagfyr 24
Noson y paratoadau munud olaf. Yn draddodiadol noson dod â'r uchelwydd, yr eiddew a'r celyn i'r ty ond yn bwysicach nad dim, noson gwneud cyflaith. Ar un adeg byddai'n arferiad gadael tomen fach o halen ar y bwrdd dros nos.

Rhagfyr 25
Diwrnod yr holl ddisgwyl a diwrnod y codi plygeiniol. Os yw'r halen a osodwyd ar y bwrdd neithiwr wedi toddi bydd marwolaeth yn y tŷ ond os yw'n sych ac yn gyflawn mae'n arwydd o fywyd hir ac iach.

Dyma, yn ôl Dylan Thomas, ddiwrnod y celyn a'r robinod cochion. Y pwdin, y cecru a'r carolau ac orenau a chwibanu tun a thân yn yr ystafell ffrynt a chracyrs yn clecian .... diwrnod bythgofiadwy ar ddiwedd blwyddyn anghofiadwy!


Hanes

Croes Geltaidd

Crefydd y Cymry

Sut aeth Cymru o fod yn wlad y Derwyddon i wlad y Diwygiad?

Digwyddiadur

Beth sy' mlaen

Digwyddiadau mawr a bach yng Nghymru.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.