BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
theatr

BBC Homepage
BBC Cymru
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
GolygfaPorth y Byddar
Troi ffeithiau caled yn ddrama

Adolygiad Glyn Jones o Porth y Byddar gan Manon Eames.

Mae hanes boddi Capel Celyn yn ddigwyddiad mor gyfarwydd fel y gall Cymru gyfan adrodd yr hanes yn ei chwsg.

Deallodd Manon Eames hyn a deallodd hefyd fod yn rhaid iddi gyflwyno'r stori ar newydd wedd - gan wneud mwy na dweud stori. Yn ei geiriau ei hun: " . . . dydi ffeithiau caled ddim yn creu drama."

Hepgor dim
Aeth y ddramodwraig i'r afael a'r broblem hon mewn tair ffordd.
Yn gyntaf, tanio ffeithiau diddorol i gadw sylw'r gynulleidfa gan fynd a ni ar wibdaith drwy ddegawd mwyaf cythryblus ac arwyddocaol ein cenedl.

Nid oes dim yn cael ei hepgor: Plaid Cymru, Tynged yr Iaith, Cymdeithas yr Iaith, Byddin Rhyddid Cymru, maent yma, bob un.

Ac yn bwysicach, efallai, mae'r ffeithiau nad yw pawb yn gwybod yma hefyd.

Er enghraifft, ni wyddwn fod Lerpwl eisiau dŵr Tryweryn, nid i ddisychedu ei phobl ond i'w werthu.

Ni wyddwn ychwaith fod Y Bala mor ddi-hid a bod y cynghorau yr un mor anghefnogol ac mai ateb haearnaidd Plaid Cymru i'r mater oedd "ffurfio is-bwyllgor!"

Nid du a gwyn
Yn ail, cyflwynodd y ddramodwraig stori nad oedd yn ddu nac ychwaith yn wyn. Meddai John Webster yn The Duchess of Malfi
"Man stands amazed to see his deformity in any other animal but himself."

Mae'r ymadrodd hwn yn gwbl berthnasol i'r ddrama hon. Codwyd drych o flaen y gynulleidfa, ac ar brydiau, poen enaid oedd edrych ynddo.

Gwelais hen genedl eiddil yn gweiddi lladron ar Lerpwl ond yn gadael i'w thir gael ei gipio oddi arni. Meddai un o'r actorion:
"Dyna fydd beddargraff Plaid Cymru. Nid Gwyddelod yda ni."

Rhoddwyd llais gweddol deg i Lerpwl hyd yn oed a hynny'n cael ei amlygu orau yn yr achos llys yn Llundain.

Fe'n hatgoffwyd y byddai trigolion y pentref yn cael eu hail gartrefu rhyw dair milltir i lawr y cwm. Cadwent eu hiaith a'u diwylliant. Caent arian da am eu heiddo. O safbwyt Lerpwl, onid yw'n ddadl resymol?

Er hyn, ni welsom ochr dda y ddinas. Cofier bod 79 allan o 175 o drigolion Lerpwl wedi pleidleisio yn erbyn y mesur a chwythwyd eu lleisiau hwy ymaith ar awelon cenedlaetholdeb, gan dynghedu Lerpwl i wneud "gwaith y diafol."

Er, mae'n rhaid cyfaddef, nad oedd Lerpwl yn gwneud dim llai na hynny.

Stori'r bobl
Yn drydydd, llwyddodd y ddramodwraig i lacio'r llyffetheiriau hanes oedd am draed y cymeriadau a'r ddrama ar ei gorau pan gamai adroddwyr y stori yn ôl gan adael i'r pentrefwyr ddweud yr hanes eu hunain.

Un darn arbennig o effeithiol oedd hanes y fam a gollodd ei mab, Huw, ac na all wynebu ei ail gladdu na'i adael yn y cwm i'w foddi.

Yn fwy trasig fyth, ar ddiwedd y ddrama, mae'r fam yn gweld un o'i chyfeillesau ysgol sy'n gweithio bellach i gorfforaeth Lerpwl. Gofyn iddi os yw'n cofio ei Chymraeg ac ateb honno yw, "Dipyn bach."

Serch hyn, nid oes ffraeo rhyngddynt a gadawant y llwyfan ffrindiau nid yn elynion.

Trueni o'r mwyaf na fanteisid mwy ar ryddid dramatig o'r fath. Wedi'r cyfan, beth yw drama yn ei hanfod - cymeriad yn dweud, ynteu dweud trwy gymeriad?

Heb amheuaeth byddai'r ddrama wedi elwa o ddatblygu'r berthynas rhwng Elisabeth a Dafydd.

Y plismon
Yr un modd, y plismon pentref (Wyn Bowen Harries) oedd cymeriad mwyaf diddorol y ddrama oherwydd ei sefyllfa gymhleth - yn ei galon yn Gymro Cymraeg ond wrth ei alwedigaeth yn geidwad cyfraith Lloegr.

Ond dim ond i raddau y dangoswyd y gwrthdaro hwn, yn enwedig tua diwedd y ddrama, ac yntau heb fod yn sicr ar ba ochr y dylai sefyll.

Fodd bynnag, plismon oedd y plismon o hyd. Doedd o byth yn berson ac o ganlyniad, ni ddatblygwyd y gwrthdaro mewnol yn llawn.

Gellid fod wedi hepgor y ddau adroddwr gan adael i'r plismon i adrodd y stori yn eu lle gan y byddai hynny wedi cael y ddrama i droi o amgylch y person mwyaf diddorol ar y llwyfan gan greu mwy o ddrama a llai o adroddiad dramtig!

Cyfarwyddo campus
Roedd cyfarwyddo Tim Baker yn gampus. Y symud yn slic a phwrpasol a'r darnau storïol heb fod yn adroddllyd a static.

Gan amlaf, dwy rês o gadeiriau oedd y set gan fod yn siambr cyngor, yn llys, yn gartref, yn gapel ac yn gar yn eu tro. Tystiolaeth nad oes angen ond llond braich o brops i greu drama dda.

Daeth y sgrin fawr yng nghefn y llwyfan a realiti i'r ddrama wrth inni weld y Capel Celyn go iawn. Hyd yn oed pan ddiflannodd y llun arhosai'r pentref yn llygad y meddwl.

Roedd dwy olygfa arbennig o effeithiol. Y beddrod agored ac esgyrn duon ar gynfas wen wrth ei ochr.

Hefyd, y bwldosar yn gwthio pridd at yr actorion a'r ddaear fel petai am lifo o'r sgrin a'u claddu.

Hoffais yn fawr yr olygfa honno gyda'r plant yn pysgota gyda diniweidrwydd plentyn yn cyfleu hiwmor ac eironi. Hogyn yn gobeithio cael gwialen bysgota yn anrheg, ac un o'r merched yn wên i gyd yn dymuno cwch " . . . a ninnau'n cael llyn newydd"!

Cerddoriaeth
Roedd y dewis o gerddoriaeth yn drawiadol. Yr emynau yn adlewyrchu'r diwylliant capelyddol Cymraeg a ffug hyder a diniweidrwydd y trigolion.
"Rhag pob brad, Nefol Dad /Ceidw di gartrefi'n gwlad." medden nhw.
Boddwyd y cwbl!

Mewn cymhariaeth, caneuon Elvis Presley a adlewyrchai enedigaeth oes newydd. Eironig braidd, a Chapel Celyn wedi ei thynghedu i farwolaeth ond credaf y byddai wedi bod yn fwy effeithiol fyth pe boddid yr emynau Cymraeg gan gerddoriaeth Saesneg y cyfnod. Wedi'r cyfan, pa bynnag sŵn a gododd Cymru, cododd Loegr fwy. Boddwyd yr hen ffordd o fyw, yn enw cynnydd.

Diwedd ffeithiol
Er mor ddiddorol y diwedd, ffeithiol ydoedd a llawn ffigurau yn hytrach na rhywbeth mwy dramatig.

Y fam a gollodd ei mab, er enghraifft, yn sgrechian 'Huw,' a dwndwr byddarol y dŵr yn ei thewi'n fud. Byddai hyn yn rhoi arwyddocad arbennig i deitl y ddrama ac i'r ddihareb a roddodd fod iddo: "Hir erys y mud wrth borth y byddar."


  • Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng BBC Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Eisteddfod
    Bei-Ling Burlesque
    Mwnci ar Dân
    A Toy Epic
    A4
    Actus Reus
    Actus Reus - adolygiad
    Ar y Lein
    Araith hir yn y gwres
    Back to the Eighties
    Bitsh
    Branwen
    Branwen - adolygiad
    Bregus
    Breuddwyd Branwen
    Breuddwyd Noswyl Ifan
    Bryn Gobaith
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caban Ni Caban Nhw
    Caerdroia
    Caffi Basra
    Café Cariad
    Café Cariad
    Camp a Rhemp -
    Canwr y Byd Caerdydd
    Cariad Mr Bustl
    Crash
    Cymru Fach
    Cysgod y Cryman
    Cysgod y Cryman - barn arall
    Dan y Wenallt
    Dawns y Cynhaeaf
    Deep Cut
    Deinameit
    Dewi Prysor DW2416
    Digon o'r Sioe
    Dim Mwg
    Diweddgan
    Diweddgan - barn Aled Jones Williams
    Dominios - adolygiad
    Drws Arall i'r Coed
    Erthyglau Cynllun Papurau Bro
    Esther - adolygiad
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch
    Gwaun Cwm Garw - adolygiad
    Gwe o Gelwydd
    Gwell - heb wybod y geiriau!
    Halen yn y Gwaed
    Hamlet - adolygiad 1
    Hamlet - adolygiadau
    Hedfan Drwy'r Machlud
    Hen Bobl Mewn Ceir
    Hen Rebel
    Holl Liwie'r Enfys
    Iesu! - barn y beirniaid
    Jac yn y Bocs
    Johnny Delaney
    Life of Ryan - and Ronnie
    Linda - Gwraig Waldo
    Lleu
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llyfr Mawr y Plant
    Llywelyn anghywir
    Lysh gan Aled Jones Williams
    Macsen
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - adolygiad Glyn Jones
    Mae Gynnon Ni Hawl ar y Sêr - barn Vaughan Hughes
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr - barn dwy
    Maes Terfyn
    Maes Terfyn - adolygiad
    Marat - Sade
    Mari'r Golau
    Martin, Mam a'r Wyau Aur
    Meini Gwagedd
    Melangell
    Mosgito
    Mythau Mawreddog y Mabinogi
    Môr Tawel
    Nid perfformiad theatrig
    Noson i'w Chofio
    O'r Neilltu
    O'r boddhaol i'r diflas
    Owain Mindŵr
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar
    Porth y Byddar:
    adolygiadau ac erthyglau

    Pwyll Pia'i
    Rapsgaliwns
    Redflight Barcud
    Romeo a Juliet - Y Celfyddydau yn trafod
    Sibrydion
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - adolygiadau
    Siwan - barn Iwan Edgar
    Sundance
    Tafliad Carreg
    Tair drama tair talaith
    Taith Ysgol Ni
    Taith yr Urdd 2007
    Theatr freuddwydion
    Trafaelu ar y Trên Glas
    Tri Rhan o Dair - Adolygiad
    Tri Rhan o dair
    Twm Siôn Cati
    Tŷ ar y Tywod
    Wrth Aros Godot
    Wrth Borth y Byddar
    Y Bonc Fawr
    Y Crochan
    Y Dewraf o'n Hawduron
    Y Gobaith a'r Angor
    Y Pair
    Y Pair - Adolygiad
    Y Pair - adolygiad Catrin Beard
    Y Twrch Trwyth
    Yn Debyg Iawn i Ti a Fi
    Yn y Ffrâm
    Yr Argae
    Yr Ystafell Aros
    Zufall
    Eisteddfod
    Yr Eisteddfod
    Genedlaethol
    2008 - 2004

    Rhestr o gynyrchiadau a adolygwyd


    Eisteddfod 2004
    Eisteddfod 2003
    Eisteddfod 2002
    erthyglau
    Bitsh! ar daith drwy Gymru
    Adeilad y Theatr Genedlaethol
    Alan Bennett yn Gymraeg
    Beckett yn y Steddfod
    Blink
    Bobi a Sami a Dynion Eraill
    Branwen - Llwyfan Gogledd Cymru
    Buddug James Jones
    Bwrw Hen Wragedd a Ffyn
    Caerdroia
    Clymau
    Cwmni'r Urdd - Daniel Evans yn canmol
    Cysgod y Cryman - her yr addasu
    Diweddgan gan Theatr Genedlaethol Cymru
    Dominos
    Drws Arall i'r Coed
    Ennyn profiadau Gwyddelig
    Esther
    Ffernols Lwcus
    Fron-goch yng Ngwlad Siec
    Frongoch
    Grym y theatr
    Gwaun Cwm Garw
    Gŵyl Delynau Ryngwladol
    Hamlet - ennill gwobr
    Hedd Wyn - sylwadau Iwan Llwyd
    Hen Rebel
    Holi am 'Iesu'
    Iesu! - drama newydd
    Llofruddiaeth i'r teulu
    Lluniau Marat-Sade
    Lluniau o gynhyrchiad Cymdeithas y Gronyn Gwenith o Y Dewraf o'n Hawduron
    LluniauMacsen - Pantomeim 2007
    Llyfr Mawr y Plant ar daith
    Mae Gynnon ni Hawl ar y Sêr
    Marat - Sade
    Marat - Sade: dyddiadur actores
    Mari'r Golau
    Mari'r Golau - lluniau
    Meic Povey yn Gymrawd
    Melangell
    Migrations
    Mrch Dd@,
    Mwnci ar Dân
    Myfyrwyr o Goleg y Drindod
    Olifer - Ysgol y Gader
    Owain Glyndŵr yn destun sbort
    Panto Penweddig 2006
    Phylip Harries yn ymuno â na n'Óg
    Pishyn Chwech
    Plas Drycin
    Ploryn
    Porth y Byddar
    Romeo a Juliet
    Romeo a Juliet - 'y cynhyrchiad anghywir'
    Romeo a Juliet - Cefin Roberts yn ateb
    Romeo a Juliet - ymateb Lynn T Jones
    Sion Blewyn Coch -
    y seicopath?

    Siwan ar daith
    Streic ar lwyfan
    Sundance ar daith
    Teulu Pen y Parc
    Theatr genedlaethol - 'Cymru ymhell ar ôl yr Alban'
    Tŷ ar y Tywod
    Tŷ ar y Tywod
    - y daith

    Wrth Aros Godot - holi actor
    Wrth Ddrws y Byddar - holi'r awdur
    Y Pair
    Y Teulu Celtaidd: ffug neu ffaith?
    Y ferch Iesu
    Yn Shir Gâr - ond yn genedlaethol
    Yr Argae ar daith


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy