|  |
 |
Myfyrwyr o Goleg y Drindod
Myfyrwyr ar daith ddramatig Profi'r wefr o gyfansoddi, llwyfannu a pherfformio
Y maen arferiad i fyfyrwyr o Goleg y Drindod, Caerfyrddin, deithio gyda sioe lwyfan o gwmpas Cymru Yma, y mae un or myfyrwyr yn son sut yr aeth pethau gydar sioe ddiweddaraf dros yr wythnosau diwethaf..
Y maen arferiad i fyfyrwyr o Goleg y Drindod, Caerfyrddin, deithio gyda sioe lwyfan o gwmpas Cymru.
Yma, y mae un or myfyrwyr yn son sut yr aeth pethau gydar sioe ddiweddaraf dros yr wythnosau diwethaf.
Yn ystod fy nwy flynedd yn fyfyrwraig ar y cwrs Theatr, Cerdd ar Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod yr ydym wedi teithio o amgylch Cymru gyda dwy sioe - Cymry Xpres a Pwythau. Eleni roeddem ni eisiau gwneud rhywbeth gwahanol, rhywbeth gwreiddiol wedii lunio gennym nir myfyrwyr. Mae digon o wahanol agweddau ir cwrs, yn amrywio o waith perfformio, yr ochr dechnegol ar gwaith o greur sioe. Gwnaethom benderfynu ar y dechrau fod pawb oedd yn dymuno cymryd rhan yn mynd ati i roir sioe wrth ei gilydd. Dechreuodd y sgription syth bin gyda pawb oedd yn credu fod ganddynt rywbeth iw gynnig yn cyfarfod yn gyson i drafod syniadau. Fel yr oedd yr amser yn mynd yn ei flaen roedd y tîm sgriptio yn mynd yn llai er mwyn gallu canolbwyntio ar rai syniadau au datblygu. Wedi inni benderfynu ar y syniad ar gyfer y sioe, roedd pethaun rhedeg yn llyfnach ac or diwedd, roedd y sgript gyflawn yn barod ir perfformwyr fynd ati i ymarfer. Roedd yr ymarferion yma yn cael eu cyfarwyddo gan ein darlithydd drama, Delyth Mai, ar ochr gerddorol gan bennaeth y cwrs, Marian Thomas. Roedd yn rhaid trafod sut yr oedd cerddoriaeth a dawns yn mynd i asion ddrama. Ar sail ein profiad or sioeau cynt yr oeddem yn gwybod fod y cynulleidfaoedd yn hoffir gymysgedd rydym yn ei gynnig. Rhyw fath o sioe gerdd oeddem nin anelu ati a chan fod digon o dalent gerddorol ar gael ymysg y myfyrwyr penderfynwyd ar ddefnyddio cerddoriaeth wreiddiol a gyfansoddwyd gan rai or myfyrwyr sydd am arbenigo mewn cerdd. Amrywiair gerddoriaeth o ganu ysgafn, roc a jazz, oedd - gobeithio - yn gymorth i ddatgelu mwy am y cymeriadau au rhan yn y sioe. Fel yr oedd yr amser yn mynd yn ei flaen ar sioe yn dechrau siapio, roedd angen dechrau cynllunio set, goleuo a gwisgoedd. Roedd y criw technegol yn cyfarfod yn yr ymarferion i greu cynllun ar gyfer y sioe. Roedd yna hefyd dîm gwisgoedd i ddehonglir cymeriadau a darganfod gwisgoedd a cholur ir perfformwyr. Gan mai cymryd rhan yn wirfoddol yn y sioe yr oeddem ni ac nad oedd yn orfodol fel rhan on cwrs gradd doedd yna fawr o gyllideb ar gael ac felly bun rhaid inni ddefnyddion pennau i osgoi costau uchel. Fe wnaethom ni ddysgu llawer or sioeau blaenorol gan obeithio peidio ag ailadrodd rhai or camgymeriadau. Gan mai un or anawsterau a gafwyd yn y gorffennol oedd y mannau perfformio penderfynwyd, eleni, gyfyngur perfformiadau i dair theatr - y Chapter yng Nghaerdydd, yr Halliwell yng Nghaerfyrddin a Theatr Gwynedd ym Mangor. Credaf i hyn fod yn beth ddoeth gan inni arbed costau teithio a hefyd cawsom y fraint o berfformio yn Theatr Gwynedd i theatr oedd bron yn llawn - rhywbeth nad ywn codin aml iawn y dyddiau yma! Yn awr bod y daith drosodd, rydym nin gobeithio y bydd y tradddodiad o deithio sioe yn parhau yng Ngholeg y Drindod gan roi cyfle i fyfyrwyr y cwrs feithrin a dangos eu doniau. gan Elin Meirion.
 |
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
 |
|
 |
|
|