
 |
 |
Newydd
a nerfus
Y
newid ar ein gyda'r nosau
Dydd Mercher, Ionawr 16, 2002
|
Ffion
Emlyn yn trafod rhaglenni teledu
Y tro hwn:
Wedi
Chwech - newydd a nerfus
Rownd
a Rownd - amser newydd
Byd
Pws - gormod o chwerthin
Porc
Peis Bach - codi cur pen
Wedi Chwech
Nos Lun, Ionawr 7
Mae unrhyw raglen a ddywedai nos da wrth Heno
yn haeddu cymeradwyaeth.
Ond
o weld yr holl gyhoeddusrwydd am y rhaglen newydd, Wedi 6,
ofnwn mai Heno mewn clogyn newydd fyddai hi - wedi’r cwbl,
mae hanner y cyflwynwyr yn gyflwynwyr Heno gynt ac er y newid
set, stiwdio Llanelli yw'r cartref o hyd.
Yn naturiol, un nerfus iawn oedd y rhaglen gyntaf er cymaint o brofiad
cyflwyno byw sydd gan Angharad Mair ond gellid maddau iddi gan mai
cynnwrf y noson oedd wrth wraidd ei nerfusrwydd.
Eitem gyntaf y gyfres newydd oedd cyfweliad ecscliwsif gyda
Rod Richards a Chatrin Evans wedi cyffroi cymaint nes amharu ar yr
holi i raddau.
Mae cyfweld yn grefft ynddi’i hun ac angen gadael i’r gwestai siarad
a pheidio ag ofni ambell i saib.
Roedd Catrin druan yn tueddu i ofyn rhestr o gwestiynau heb roi amser
i Rod ateb.
Yn sicr, byddai Rod Richards wedi bod yn barod i ddweud dipyn mwy
o gael y cyfle.
Ar gyfer yr ail ecscliwsif dychwelai Gwyn Llywelyn i deledu
dan gwmwl o gyhoeddusrwydd.
Holai Brif Gwnstabl Gogledd Cymru, Richard Brunstrom, yn ei gyfweliad
Cymraeg cyntaf a Gwyn fel tai’n gwneud ati i lwytho ei frawddegau
â geiriau amlsillafog er mwyn profi dealltwriaeth Richard Brunstrom
a ddaeth drwyddi’n arbennig o dda.
Mewn eitem arall yr oedd Victoria Hartson yn galw am gael hadnabod
fel perfformwraig yn hytrach nag fel chwaer John Hartson.
Ond pam, yn wyneb hynny, ei gosod i eistedd dan grysau pêl-droed ei
brawd?
Erbyn diwedd yr wythnos yr oedd pawb wedi ymlacio ychydig a Gwyn Llywelyn
wedi tynnu ei gôt hyd yn oed - ond mae'r rhaglen angen amser i setlo
ac ysgafnhau.
Ar hyn o bryd nid Heno yw Wedi 6 - ond safon
fydd yn creu gwahaniaeth rhwng y ddwy raglen a’r safon honno’n sicrhau
straeon da ac, yn fwy na hynny, ymchwilwyr da yn hytrach nag eistedd
ac edrych ar yr hyn sydd yn digwydd ar strydoedd Llanelli.
Cawn weld.
Rownd a Rownd
Nos Lun, Ionawr 7
Rhan o gynlluniau newydd S4C yw symud Rownd a Rownd i hanner
awr wedi chwech.
Er cymaint o risg yw newid amser y rhaglen, risg fwy yw ei hymestyn
o chwarter awr i hanner awr.
Yr un hen wynebau a welwyd fodd bynnag.
Un peth mae'r gyfres yma yn ei wneud yw datblygu rhai cymeriadau yn
arbennig o dda. Bu effaith teulu’r ‘Ks’ ar y gyfres yn debyg i effaith
y Battersbys ar Coronation Street ond fel yno allwch chi ddim
cynnal cymeriadau arwynebol am amser hir a rhaid eu datblygu'n dri
dimensiwn fel y llwyddodd Rownd a Rownd i wneud.
Wrth wneud hynny gadawyd lle i deulu arall o rapsgaliwns; Michelle
y fam, Britney y babi, Jonathan a Dani’r plant.
Mae'n llawer rhy gynnar i ddweud a fu symud Rownd a Rownd yn
llwyddiant ond mae gen i bryder y bydd y gyfres yn colli rhywbeth
ond yn gwir obeithio fy mod i'n anghywir.
Er fy mod i'n hoffi Rownd a Rownd rhaid cofio mai rhaglen blant
yw hi yn y bôn a bydd yn rhaid datblygu llawer mwy o gymeriadau os
am gynnal rhaglen hanner awr ddwywaith yr wythnos.
Pob lwc iddi.
Byd
Pws
Nos Iau, Ionawr 10
O fewn diwrnod roedd Dewi Pws wedi teithio o stiwdio gynnes
ar Ynys Môn i bellteroedd India ar gyfer gwyl grefyddol fwyaf yr Hindwiaid,
y Kumbh Mela.
Er nad edrychai y trên yn rhy gyfforddus, rwy’n siwr mai Dewi Pws
gafodd y daith fwyaf pleserus wrth i rai deithio am fisoedd er mwyn
bod yn bresennol yn y dathliad yma sy'n digwydd unwaith bob deuddeng
mlynedd.
Os nad oeddech yn gwybod dim am y Kumbh Mela cyn y rhaglen, yn sicr
erbyn y diwedd mi oedd maint y digwyddiad yn amlwg wrth i Dewi restru
ffeithiau di-ri - fel bod angen tri chwarter miliwn o dai bach yno!
Uchafbwynt y cyfan i Dewi Pws a Hughes y dyn camera oedd sefyll o
fewn ychydig droedfeddi i’r Dalai Lama.
Wedi hynny, roedd rhywun yn teimlo i Dewi gael digon a’i fod yn dyheu
am stiwdio fach gynnes.
Ac yntau’n ddigwyddiad mor ddwys i'r ffyddloniaid rwy’n amau pa mor
addas oedd natur gomig Dewi Pws - ond yn sicr fe wnaeth y rhaglen
yn fwy gwyliadwy.
Y Sadhus gafodd y fraint o arwain y pum miliwn ar hugain o ffyddloniaid
i Afon Ganges tra’r ymddangosai Dewi ei fod yn dal i ddioddef o ddiffyg
cwsg y noson cynt.
Er cymaint ei frwdfrydedd ar y cychwyn a'i lwyddiant yn ynganu ychydig
o'r iaith edrychai allan o’i le yn llwyr gan wneud imi deimlo ei fod
ef a ninnau yn amharu ar rywbeth personol iawn.
Porc Peis Bach
Nos Fawrth, Ionawr 8
Cyfres
arall a ddychwelodd i'r sgrîn oedd yr un ryfedd yma.
Fel arfer, digwyddai sawl peth yn ystod yr hanner awr egnïol hon gyda
pherfformiadau cryfion gan Siôn Trystan Roberts fel Kenneth - sy’n
cario'r rhaglen i raddau.
Ond Syr Wynff fydd Wynfford Ellis Owen i mi am byth.
Rhaid imi gyfaddef mai dyma’r tro cyntaf imi lwyddo i wylio rhaglen
gyfan ond dyw hynny ddim yn feirniadaeth ar y gyfres sy’n fy atgoffa
i o gyfresi llwyddiannus iawn fel Allo Allo a Last of the
Summer Wine sydd ddim at fy chwaeth personol i.
Mae'r hiwmor yn ffarsaidd a’r cyfan yn llawer mor fanig ag i godi
cur pen arnaf erbyn yr ail hanner.
Cyfle i chi ddweud eich dweud am raglenni teledu: cliciwch
|
 |

|