BBC HomeExplore the BBC
Er gwybodaeth, nid ydym yn diweddaru’r wefan hon mwyach. Rhagor o wybodaeth yma

MAWRTH
10fed Tachwedd 2009
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Marw dau brifardd
Bu farw T Llew Jones - tywysog llenyddiaeth plant Cymru - ac Eluned Phillips, yr unig ferch i ennill Coron yr Eisteddfod genedlaethol ddwywaith
Bu farw dau o lenorion Cymru fewn ychydig i'w gilydd - T Llew Jones a enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith ac Eluned Phillips, yr unig ferch i ennill Coron y Brifwyl ddwywaith.
Yr oedd T Llew yn 93 ac Eluned Phillips yn 94 oed.

Disgrifwyd 'T Llew' fel "un o eiconau'r genedl" gan yr Archdderwydd Dic Jones.

"Bydd y genedl gyfan yn gweld ei eisiau, fel bardd, athro, beirniad, llenor a darlledwr â llais unigryw oedd wedi ei greu ar gyfer meicroffon.

"Bydd llawer ohonom yn teimlo fel petawn yn edrych i gyfeiriad y silff ben tân ac yn gweld un o'r llestri gorau ar goll," meddai.

Trysor cenedlaethol
Ar BBC Radio Cymru disgrifiodd Catrin Beard ef fel eicon a thrysor cenedlaethol y mae gan bawb atgofion hoffus amdano fel personoliaeth yn ogystal â llenor.

gwrando Catrin Beard a Dewi Llwyd yn trafod cyfraniad T Llew Jones, fore Sul Ionawr 11, 2009 ar BBC Radio Cymru.


Wrth drafod ei waith dywedodd Catrin Beard sydd yn un o ohebwyr y celfyddydau ar raglen bore Sul Dewi Llwyd, mai'r hyn oedd yn arbennig am eu straeon oedd eu bod yn "straeon da" ac "mor wreiddiedig yng Nghymru."

"Roedden nhw mor Gymreig yn defnyddio ffigurau fel Twm Sion Cati yn ardal Ceredigion," meddai.

. "Roedd e'n ddyn Ceredigion yn byw yng Ngheredigion drwy'i oes ac yn creu y straeon yma oedd yn bachu'ch dychymyg chi ac yn eich tynnu chi mewn iddyn nhw.

"Ac mae'n dyst i'r cyfrolau yma fod plant hyd yn oed heddiw yn eu darllen . . . oherwydd bod y straeon mor afaelgar a'r cymeriadau yn dda," meddai.

Talodd deyrnged iddo hefyd am fod "mor hael efo'i amser" gyda phlant a chanddo ddiddordeb mawr mewn beth oedd gan blant i'w ddweud.

Cyfeiriodd Dewi Llwyd at ei gyfnod yn y fyddin yn Affrica lle'r oedd yn cael ffafriaeth gan uwch swyddogion oherwydd ei ddoniau fel cricedwr!

  • Rhagor am T Llew Jones - a chyfle i roi teyrnged
  • Cyfarch T Llew ar ei ben-blwydd yn 90
  • Hywel a Nia yn siarad am T Llew Jones
  • T Llew yn poeni am safonau darllen

    Bywyd lliwgar merch bengoch
    Bu i Eluned Phillips fywyd personol arbennig o liwgar fel llenor a sgrifenwraig.

    Eluned Phillips Hi oedd yr unig ferch i ennill coron yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith - yn gyntaf yn 1967 ac wedyn yn 1983 gyda phryddest am Ryfel y Malvinas / Falklands yn gefndir iddi.

    Fe'i ganed yng Nghenarth a'i magu yn bennaf gan ei mam-gu. Yn Llundain Daeth i adnabod Dylan Thomas ac Augustus John ac ym Mharis, Edith Piaf, Maurice Chevalier ac eraill.

  • Rhagor am Eluned Phillips - a chyfle i roi teyrnged
  • Eluned Phillips yn dweud ei hanes


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy