BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
  • Stewart Jones yn troedio lôn y llonydd gorffenedig

    Cafodd gwrandawyr radio olwg dipyn yn wahanol ar un o lecynnau mwyaf rhamantus Cymru pan fu'r actor Stewart Jones yn sôn am y Lôn Goed.


    Chwalodd yr actor a fu'n troedio'r lôn pan yn blentyn lawer o'r rhamant a grëwyd ynglŷn â hi gan R Williams Parry yn ei delyneg, Eifionydd.

    Ond tra bo R Williams Parry wedi ei wefreiddio gan ei "llonydd gorffenedig" a "bwa'i tho plethedig" yr oedd Stewart Jones yn cofio ffordd hir a blinedig i'w cherdded.


    gwrandoStewart Jones yn siarad am Y Lôn Goed gyda rebecca Jones ar BBC Radio Cymru, Ionawr 2009.


    Bu'r actor a ddaeth i enwogrwydd fel Ifas y Tryc yn siarad am y Lôn Goed, y mae ei cheg yn Afonwen rhwng Pwllheli a Chricieth, gyda Rebecca Jones ar ei rhaglen foreol ar BBC Radio Cymru.

    Llonydd gorffenedig "Pan oeddwn i'n blentyn, oherwydd amgylchiadau yn y teulu, gwaeledd a ballu, mi fyddwn i'n mynd yn wythnosol i aros ar dyddyn bach ar ochr Mynydd y cennin ac yn mynd i ysgol Bryn Engan rhyw chwarter milltir oddi wrth y Lôn Goed," eglurodd Stewart Jones.

    "Wedyn, bob nos Wener, i fynd gartref i Roslan, yr oedd yn rhaid imi gerdded y Lôn Goed i lawr i stesion yr Ynys ac wedyn roeddwn i'n cael reid wedyn gan y postman ar y beic. Dyna'r drefn.

    "Ac fe fûm i'n gwneud hynny am bedair, bum mlynedd, nes yn naw oed.

    "Welais i ddim rhamant yn y blydi lle erioed a bod yn onast.

    "Dwi'n meddwl bod R Williams Parry wedi gwneud fel y gwnaeth Eifion Wyn efo Cwm Pennant - wedi rhoi rhamant [yno] ond mae yna, does yna ddim dwywaith, naws anghyffredin iawn yno, ond fasach chi byth yn ei cherdded hi.

    "Glaswellt sydd yno, mwd.
    "Pan oeddwn i'n ei cherdded hi'n blentyn, mwd a thyllau dŵr oedd ar i hyd hi. Doedd yna ddim caledi ac yn yr haf efo'r gwres doedd yna ddim ond pryfed yn y modd mwyaf melltigedig.

    I lan na thref nid arwain ddim "Roeddech chi'n cerdded drwy bryfed ac mae hi'n ffordd wastad iawn ac i blentyn roeddech chi'n gweld y pen draw o hyd ac mae o'n ddiddiwedd," meddai.

    Ond ychwanegodd iddo ddod i deimlo wedyn y llonyddwch y cyfeiriodd R Williams Parry ato yn ei delyneg.

    . "Roeddech chi'n i cherdded hi gyda - fel dwedodd o - enaid hoff gytun [ac] yn sicr . . . [yn] hel meddyliau," meddai.

    Wrth sôn am gysylltiad R Williams Parry a'r lôn dywedodd fod gan y bardd deulu ar fferm ar odre Mynydd y cennin.

    "A'r posibilrwydd ydi - achos doedd yna ddim bysus na dim byd i fynd i fyny'r lôn - mi fydda fo'n cymryd y trên i'r Ynys a cherdded y Lôn Goed i fynd i'r ffarm felly roedd o'n ei hadnabod hi pan oedd o'n llunio y gerdd a dydi'r lle ddim wedi newid fawr ddim [ers hynny]."

    Peth o hanes y Lôn

  • Adeiladwyd Y Lôn Goed rhwng 1817 a 1830 yn dilyn Rhyfel Napoleon yn Ewrop gan landlord Ystad y Gwynfryn, Syr Thomas Mostyn, er mwyn hwyluso mynediad i ffermydd yr ystad rhwng Afonwen a godre Mynydd y cennin bron i bum milltir i ffwrdd.

    Bwa'i tho plethedig
  • Yr oedd yn cael ei hadnabod fel Ffordd Maughan i ddechrau ar ôl y rheolwr ystâd a fu'n gyfrifol am ei hadeiladu.

  • Byddai ffermwyr yn ei defnyddio i gario calch o longau yn angori ger glan y môr Afonwen i'r ffermydd.

  • Plannwyd coed derw a choed ffawydd bob yn ail hyd ochrau'r lôn oherwydd bod eu gwreiddiau yn agos at yr wyneb ac o'r herwydd yn fodd i fod yn wyneb i'r ffordd.

  • Mae telyneg R Williams Parry i'w gweld yn Cerddi'r Gaeaf a gyhoeddir gan Wasg Gomer.


  • Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy