BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Y Gwyddoniadur - adolygiad
Cyfrol y dylem fod yn falch iddi weld golau dydd
  • Adolygiad William Owen o Gwyddoniadur Cymru Yr Academi. Golygyddion: John Davies. Menna Baines, Nigel Jenkins a Peredur Lynch. Yr Academi. £65.


  • Wedi gweld y llun cyntaf sydd yn y Gwyddoniadur wedi ei anharddu ar gyfer lansiad y gyfrol fawr ym Mangor gallai fod yn berygl cymryd y gwaith hir a llafurus braidd yn ysgafn.

    Llun seremoni cadeirio Myrddin ap Dafydd yn 2002 yw'r llun cyntaf sydd yn y gyfrol drom hon. Ond roedd un o'r golygyddion - Peredur Lynch - wedi sgriblo barf dros wyneb yr Archdderwydd ar y pryd, y Dr Robyn Léwis, wrth ddangos y llun ar sgrin tu ôl iddo ar noson y lansio.

    Clawr y llyfr Nid hwn oedd y llun yr oeddent wedi meddwl ei gael, meddai. Un o gadeirio Mererid Hopwood oedd wedi ei ddewis ond fe'i gwrthodwyd gan yr argraffwyr oherwydd ei ansawdd.

    Wn i ddim a fu'r cyn gyfreithiwr o Lŷn yn destun peth gwawd yn ystod y golygu ond does dim gair am y cyfreithiwr-lythyrwr yn y Gwyddoniadur, serch iddo fod yn Archdderwydd - ond, yn fwy na hynny, yn awdur o bwys.

    Onid oedd y gwron hwn yn haeddu ei grybwyll yn unig ar sail ei waith aruthrol dros y Gymraeg yn ei gyfrol Termau'r Gyfraith?

    Gwelaf fod rheswm am hynny; dim ond y marw sy'n cael paragraff!
    Gallwch gael llun os ydych yn fyw ac yn amlwg yn eich maes. Nid yw cyhoeddi llyfr o bwys yn warant o hynny.

    Gellir dychmygu fod y golygyddion wedi gwneud yn sicr fod cyfeiriad at Nefyn - sydd â pharagraff haeddiannol iddi - yn cynnwys y ffaith ei bod yn dref, nid pentref.
    Yn amlwg nid oeddynt am weld llythyr yn y wasg gan y Dr!

    Mynegai yn achubiaeth
    Am funud bu bron i mi feddwl fod rhai ag arlliw eisteddfodol arnynt heb gyrraedd tudalennau'r Gwyddoniadur, er bod y gyfrol yn dechrau efo'r llun ac eglurhad ar A Oes Heddwch?

    Nid yw Cynan yno dan Cynan. Fe'i rhestrir dan Evans-Jones. Yr achubiaeth yw fod Cynan yn y Mynegai a'r wers gyntaf a ddysgais wrth chwilio oedd fod yn rhaid troi at y mynegai'n gyntaf i gael arweiniad gweddol gadarn. Ond gyda Cynan, yn sicr, mae dadl dros ei gynnwys dan ei enw barddol, i'r cenedlaethau a ddaw yn ogystal â ni feidrolion yr oes hon.

    A dyna'r drwg wrth ymaflyd â'r gyfrol hanesyddol hon - ydi, mae'n drom iawn - fod dyn yn mynd i'w thafoli wrth weld ei gwendidau yn hytrach na rhoi clod iddi am ei rhagoriaethau.

    Mae tuedd i rywun droi at enwau a phynciau y mae rhywun yn ymwybodol ohonynt er mwyn gweld beth sy'n cael ei ddweud amdanynt, yn aml iawn oherwydd cysylltiad lleol a dyna pam yr es i weld beth oedd o dan Dyffryn Ardudwy, pentref fy magwraeth.

    Yn anghywir
    Maddeuwch fy mhlwyfoldeb ond mae'r wybodaeth yn y frawddeg gyntaf yn anghywir:
    "Mae'r gymuned hon, sydd rhwng Abermaw a Harlech, yn cynnwys pentrefi Dyffryn Ardudwy, Coed Ystumgwern, Llanenddwyn, Llanddwywe a Thalybont ..." meddir.

    Plwyfi yw'r ddau Lan a chlywais i erioed gyfeirio at Goed Ystumgwern fel pentref. Eto, gallai'r hen ddogfennau fod yn gwneud hynny ac mai arwynebol iawn yw fy ngwybodaeth am fy hen ardal.

    Ychydig iawn o farciau a dynnwn am feflau o'r fath ac nid oes neb yn mynd i golli cwsg o'u herwydd.

    Gellid dadlau yn ffyrnicach ynglŷn â rhai enwau a gynhwysir, rhai yn ymwneud â hanes Cymru y gellir gweld y Dr John Davies yn glafoerio drostynt.

    Ni fyddem wedi sylwi ar y bwlch pe na bai Maelgwn ap Rhys Fychan wedi cael ei gynnwys er enghraifft, na Rhys Fychan ap Rhys ap Maelgwn. Ond cabledd yw dweud hyn yng ngŵydd y Doethur wrth gwrs.

    Yn ddiamau mae'r rhan fwyaf o enwau sydd yma yn haeddu eu lle. Er mae mymryn o anghysondeb. Pam tybed fod Thomas Telford yn cael yn cael lle iddo'i hun tra nad yw Inigo Jones?

    Rhagoriaeth
    Pennaf rhagoriaeth y Gwyddoniadur hwn yw'r cefndir a roddir i wahanol elfennau o'n hanes ni fel Cerddoriaeth, Pensaerniaeth a Glo a Llenyddiaeth i enwi dim ond pedwar.

    Yma, rhoddir digon o wybodaeth iddo fod yn wir ddefnyddiol i leygwr ac unrhyw un sy'n astudio pynciau o'r fath i gael eu dannedd iddo.

    A gair o glod hefyd am y dewis o luniau safonol sydd ynddo. Roedd angen talp go dda o ddeng mlynedd i ddod o hyd i'r rhain.
    Mae'r lluniau a'r deunydd yn uno'n gyfrol y dylem fod yn falch ei bod wedi gweld golau dydd.

  • William Owen yw Golygydd Y Cymro

  • Holi Menna Baines - Cliciwch YMA. Clipiau sain.

  • Ffeithiau Gwyddoniadurol a ffeithiau o'r Gwyddoniadur - Cliciwch YMA

  • Cyhoeddi'r Gwyddoniadur - Cliciwch YMA




  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy