BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
O Drelew i Dre-fach
Llyfr am y Wladfa yn darlunio bywyd mewn dwy Gymru
  • Adolygiad Glyn Evans o O Drelew i Dre-fach gan Marged Lloyd Jones. Gomer. £9.99.


  • Un o'r cwestiynau a ofynnwyd amlaf i mi yn ystod arhosiad yn y Wladfa ym Mhatagonia oedd, "Ydych chi wedi darllen Nel Fach y Bwcs?"

    Byddai rhyw "O!" tawel o syndod cyhuddgar pan ddywedwn nad oeddwn.

    Clawr y llyfr Yn amlwg, yr oedd hanes "Nel Fach y Bwcs" yn rhywbeth y mae gan Gymry Patagonia gryn feddwl ohono.

    Wedi darllen y llyfr, o'r diwedd, hawdd deall pam gan fod y gyfrol denau hon yn gystal darlun ag y gellid ei gael o natur bywyd a chymeriad yr ymsefydlwyr cyntaf ym Mhatagonia

    Mae'n feirniadaeth sy'n ymylu ar fod yn ffasiynol erbyn hyn fod tuedd i'r hyn a sgrifennir am y Wladfa ramantu am y fenter Gymreig hynod hon.

    Mae Nel Fach y Bwcs, fodd bynnag, yn fodd i weld tu draw i'r rhamant ac yn help inni ddeall sut y gallai cymuned o Gymry ymserchu i'r graddau y gwnaethant mewn darn mor ddigroeso o'r ddaear a achosodd gymaint o loes iddynt.

    Cawn gip hefyd ar y dryswch a achosir geisio cyfuno diwylliannau sydd wyth mil o filltiroedd oddi wrth ei gilydd.o

    Nel, y Batagones, er enghraifft, yn ysu am y Gymru hyfryd o ble daeth ei thad ond o gyrraedd yno yn hiraethu am lwch a chaledi crasdir de America.

    Lisa Pafrey, Marged Lloyd Jones ac Eiry Palfrey noson cyhoedi'r llyfr Ers rhai blynyddoedd fu hi ddim yn hawdd dod o hyd i gopi o Nel Fach y Bwcs a gyhoeddwyd yn 1992 ond eleni wele'r awdur, Marged Lloyd Jones, yn ei gyhoeddi eto dan y teitl, O Drelew i Dre-fach gan gynnwys rhwng yr un cloriau ddilyniant iddo, Ffarwel Archentina.

    Mam yng nghyfraith
    Y cysylltiad yw mai Marged E Jones yw merch yng nghyfraith Ellen Davies - a adwaenid fel Nel Fach y Bwcs am mai gwerthwr llyfrau oedd ei thad a ymfudodd o Gymru i Batagonia yn 1875 pan oedd Nel yn dal yn fabi.

    Rhoi ar gof a chadw wnaeth Marged E Jones hanesion ei mam yng nghyfraith er mwyn eu diogelu i'w disgynyddion.

    Wele'n awr, ei merch hithau, Eiry Palfrey yn trefnu'r ailargraffiad hwn sy'n cynnwys llun o'i merch hithau, Lisa Palfrey, ar y clawr yn chwarae rhan Nel mewn cynhyrchiad teledu sydd eto i'w dangos ar S4C.

    "Mae Mam wedi gwneud cymwynas amhrisiadwy â ni fel teulu trwy gofnodi hanesion mam-gu [a rhoi] ar gof a chadw hanes un o aelodau mwyaf lliwgar ac egsotig ein teulu," meddai Eiry Palfrey.

    Ond mae hon yn fwy na chymwynas deuluol.

    Merch y Paith
    Yn y Wladfa y magwyd Nel neu Ellen Davies ers yn fabi - yr hanes yn Nel Fach y Bwcs - ond dychwelodd yn ferch ifanc i Gymru gyda'i thad yn 1900 i gartrefu ym mhentref Dre-fach.

    Hanes yr ymsefydlu anodd hwnnw a gawn yn Ffarwel Archentina gyda Nel yn cael anhawster mawr addasu i'r ffordd Gymreig o fyw.

    Nel "Er fy mod yn siarad Cymraeg, theimlais i erioed fy mod yn perthyn i Gymry," meddai.

    Mae Cymru yr un mor ddieithr a dryslyd iddi hi ag yw Patagonia i ninnau.

    Mewn arddull ddarllenadwy sy'n llifo'n hyfryd o ddidramgwydd cawn ddarlun byw sy'n agoriad llygaid i fywyd Cymry'r Paith.

    Bywyd o galedi ac o frwydro yn erbyn yr elfennau gwaethaf. Darlun o glymiad cymdeithasol ac o ddofi tir nad yw am gael ei ddofi. Darlun o berthynas ansicr â'r brodorion a hanesyn gafaelgar am Nel yn clensio cyfeillgarwch a phennaeth llwyth.

    Llifogydd
    Mae'r disgrifiad o'r dilyw a ddifethodd Ddyffryn Camwy yng Ngorffennaf 1899 gydradd â disgrifiad ysgytwol Eluned Morgan o'r un digwyddiad yn Dringo'r Andes.

    "Ddechrau Mai fe ddaeth y glaw, glaw mân i ddechrau, glaw trymach wedyn, a glawio wnaeth hi drwy'r mis, ddydd a nos, a'r dydd mor dywyll â'r nos. Erbyn Mehefin roedd y dyffryn yn un gors fawr, a'r creaduriaid druan at eu boliau yn y gwlybaniaeth," meddai Nel wrth gychwyn yr hanes.

    Erbyn Gorffennaf roedd y dyffryn cyfan yn "llyn anferthol" gyda bechgyn yn carlamu o fferm i fferm yn gweiddi: "Ffowch am eich bywyd - ffowch i'r bryniau, mae'r dilyw wedi dod."

    "Awr gawsom ni i bacio'r cyfan, a gyrru'r anifeiliaid i dir uwch gan obeithio y byddem yn ddigon lwcus i'w gweld wedyn.

    "Rhuthro tua'r bryniau a'r ceffylau bron â methu tynnu'r llwythi, clywed plant yn crio, creaduriaid yn brefu, clywed canu 'O Fryniau Caersalem', a'r dŵr yn berwi o'n cwmpas.

    "Wrth edrych yn ôl gwelwn greaduriaid truenus yn nofio yn y lli, ac yn cael eu cario tua'r môr. Mi glywn un cartref ar ôl y llall yn cael ei hyrddio gan rym y llifogydd."

    Trychineb neu galedi unwaith mewn amser yw peth fel'na wrth gwrs - ond yr oedd yna galedi arall mwy parhaol i'w oddiweddyd. Caledi mor gyson a gwynt di-baid y paith sy'n ymddangos nad yw byth yn gostegu'n llwyr.

    Peth arferol yw caledi nid anghyffredin. Mae disgrifiad erchyll o fam Nel yn marw wrth esgor plentyn a Nel fechan ar goll yn nhywyllwch y nos yn chwilio am help iddi a'r effaith a gafodd ei methiant i ddod o hyd i gymorth ar fywyd Nel wedyn.

    Dweud stori mae Nel - hanes ei bywyd hi a hynny mewn arddull seml, ddigwafars sy'n nodweddiadol o sgrifennu'r Wladfa lle nad yw arfer 'Yr Hen Wlad' o amlhau geiriau wedi gafael. Gwnaeth Marged Lloyd Jones yn dda i ddiogelu'r arddull honno ar bapur.

    Yn yr hanes cawn gip nodedig ar fywyd ac agweddau y cyfnod. Swyddogaeth neu statws y ferch er enghraifft a hwythau wedi eu tynghedu i fod mewn gofal, i gadw tŷ a magu plant.

    "Ar ôl i Mam farw gorfu i mi ddysgu godro'r gwartheg i gyd hefyd, saith ohonyn nhw, ac roedd hynny'n cymryd oriau o'm hamser. Anaml y byddai dynion y Wladfa yn godro, yn bwydo'r moch a'r lloi, nac yn tendio yr un anifail heblaw'rceffylau. Gwaith gwragedd oedd hynny . . ."

    Cysgod y Paith
    Fel rhostir Wessex yng ngweithiau Hardy mae cysgod bygythiol y paith dros bopeth a'r frwydr barhaus rhwng hwnnw â'r Cymry sydd a'u gwreiddiau mewn tir go wahanol:

    Meddai Nel wrth sgrifennu am ail wraig ei thad:
    "Roedd byw ar y Paith yn llethu ei hysbryd hi, ac yn ei threchu gorff ac enaid. Rhaid i rywun gael ei eni ar y Paith cyn caiff yr afael drechaf arno - fel arall y Paith yw'r meistr yn y pen draw, yn enwedig ar y gwan o galon."

    Ac meddai eto:
    "Ond i ni sydd wedi ein magu yn y wlad, mae rhyw atyniad anesboniadwy yn perthyn i'r lle - mae rhyw fawredd yn perthyn iddo sy'n eich hudo i'w garu a'i barchu. Gwae'r neb sy'n gwrthod ei barchu."

    Dyheu am Gymru
    Ond y mae yna ddyheu parhaus am Gymru hefyd - Yr Hen Wlad.

    Ond siom yw ymweliad cyntaf Nel a'r fan honno;
    ". . . ar ôl yr holl ddyheu am Gymru . . . roedd hiraeth llethol arnaf am Batagonia," meddai, a chymdeithas heb yr haenau cymdeithasol a gaed yng Nghymru:

    "Yng Nghymru, roedd 'na dlodion a byddigions, a'r tlodion i gyd yn codi'u hetiau i'r byddigions. Doedd neb yn codi het i neb yn y Wladfa."

    Pedair Cenhedlaeth, Eiry Palfrey, ei mam-gu, Nel, ei thad W J Jones a Lisa Palfrey Mae'r cyferbynnu'n fwy trawiadol fyth yn Ffarwel Archentina sy'n dilyn hanes Nel yn ymsefydlu yng Nghymru, syrthio mewn cariad a chreu bywyd newydd iddi ei hun.

    Gydol yr hanes - ers dyddiau'r Wladfa - y mae ei pherthynas hi â'i thad yn un o dyndra, yn enwedig oherwydd ei angen ef am gwmni benywaidd a'r merched y mae'n ymserchu â hwy a chyfleir hynny yn onest ac yn agored yn y llyfrau.

    Perthynas ryfeddol arall yw un Nel a'i chwaer yng nghyfraith o Chile sydd yn hunanol ac, ar yr un pryd, yn druenus fregus.

    Stori gref
    Wrth lunio hyn o eiriau mae rhywun am ei fywyd yn ceisio osgoi'r ystrydeb arferol mewn cyd-destun fel hyn fod y ddau lyfr bach yma yn 'darllen fel nofel'.

    Ond nid oes osgoi'r ffaith fod elfen storïol gref yma a'r cyfan wedi ei weu yn hynod o gywrain gan Marged Lloyd Jones.
    Mae dau gariad ym mywyd Nel ond a gaiff hi hyd yn oed un ohonyn nhw? A fydd cymodi gyda'i thad? A fydd hi'n gaeth i'w gofal o Hannah am weddill ei hoes?

    Anodd meddwl am neb a allai ddarllen y telynegion hyn mewn rhyddiaith heb gael ei gyffwrdd.

    Dim rhyfedd bod cymaint o holi: "Ydych chi wedi darllen Nel Fach y Bwcs?"
    Byddai'n golled peidio.



    cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy