BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Gwynfor Evans - Rhag Pob Brad
Tröedigaeth a myth
Tröedigaeth a oedd mor danbaid bob tamaid ag un grefyddol a barodd i Gwynfor Evans droi tuag at genedlaetholdeb.

Bydd hyn yn cael ei ddatgelu mewn cofiant iddo a gyhoeddir fis Tachwedd, 2005. Ac mewn cyfarfod yn Aberystwyth ar Hydref 1 cafwyd y cyfle cyntaf i holi'r awdur, Rhys Evans, am y llyfr a'i gynnwys.

Clawr y llyfr Bu darogan yn barod y bydd cofiant Mr Evans, sy'n gweithio yn adran wleidyddol y BBC yng Nghaerdydd, yn trafod rhai pethau na fyddai pob un o edmygwyr 'Gwynfor' yn dymuno gweld eu codi.

A dywedodd Rhys Evans mewn sesiwn holi a drefnwyd gan Gyngor Llyfrau Cymru i gyd-fynd â seremoni gwobrau y diwydiant cyhoeddi yng Nghymru y bydd y cofiant yn darlunio pob agwedd o'r gwleidydd sy'n cael ei ystyried gan lawer yn "eicon" cenedlaethol.

Cytbwys a gwrthrychol
Dywedodd mai ei fwriad wrth fynd ati i sgrifennu'r cofiant oedd rhoi darlun mor wrthrychol, cytbwys a llawn a phosibl o'r gwleidydd.

Darlun "aml bersbectif" a darlun a fyddai yn egluro beth a barodd "y newid deallusol" a'i trodd yn genedlaetholwr.

Rhys Evans "Mae rhai pobl sy'n barod wedi darllen y llyfr wedi dweud oherwydd fy mod wedi darlunio Gwynfor yn ei wendid, fel petai, ar brydiau - a gwendidau mawr hefyd - fod y darlun ohono yn llawer mwy atyniadol na'r hyn sydd wedi ei gyflwyno i'r Cymry hyd yma - y darlun afreal yna o Sant," meddai Rhys Evans.

"Ond mae un person amlwg wedi fy rhybuddio y bydd rhai pobl yn cael eu gwylltio o ganlyniad i'r hyn fydd yn cael ei ddweud yn y llyfr," ychwanegodd.

"Gobeithio y bydd pobl yn derbyn y llyfr am yr hyn yw e ac yn gwerthfawrogi yr ysbryd y sgrifennwyd ef - sef ceisio cael y darlun tecaf posibl o Gwynfor," meddai.

"Rwy'n gobeithio fy mod i yn cydymdeimlo â Gwynfor fel y dylai pob cofiannydd gydymdeimlo gyda'i destun. Dim ots am pwy rydych chi'n sgwennu fe ddylech chi drio deall pam oedd y gwrthrych yn ymddwyn yn y fath fodd.

"Fe ddylech chi geisio rhoi yr ochr arall hefyd sef y ffordd yr oedd gelynion Gwynfor yn ei weld e."

Ei weld yn fradwr
Arweiniwyd y sesiwn holi gan Dylan Iorwerth o Golwg a chymerwyd rhan hefyd gan Hywel Gwynfryn a gyhoeddodd ei hunangofiant y llynedd.

Rhys Evans, Hywel Gwynfryn, Dylan Iorwerth Teitl cofiant Gwynfor Evans, a gyhoeddir gan Y Lolfa, fydd Rhag Pob Brad a dywedodd Rhys Evans fod sawl arwyddocâd i'r teitl hwnnw.

"Mae yna garfan - elfen - yn y mudiad cenedlaethol oedd yn, sydd yn ac a fydd hyd dragwyddoldeb yn gweld Gwynfor fel bradwr - y dyn oedd yn rhy llwfr i weithredu fel y gwnaeth Saunders Lewis ym Mhenyberth."

Dywedodd mai un o'r pethau trawiadol am fywyd Gwynfor Evans oedd y "graith" adawodd Penyberth a Thryweryn ar Gwynfor Evans yn y cyswllt hwn.

"Ac yr oedd hynny yn rhedeg trwy ei fywyd o lawr i ymgyrch y Sianel a'r penderfyniad dramatig hwnnw i ymprydio hyd at farwolaeth," meddai.

Ychwanegodd yn nes ymlaen yn ystod y sgwrs y bydd sawl un yn cael eu synnu gan yr elyniaeth at Gwynfor Evans yn ei blaid ei hun.

"Mae hyn yn dod a ni yn ôl at Dryweryn; yr elyniaeth oedd yna rhwng 1955 a 1966 ac o edrych ar fywyd Gwynfor fe allai pethau fod wedi bod yn dra gwahanol pe na byddai wedi bod yn ddigon lwcus ag i ennill isetholiad Caerfyrddin," meddai.

Iselder ysbryd
Dywedodd mai un o'r pethau trawiadol am fywyd Gwynfor Evans oedd ei duedd i iselder ac i hynny fod yn allweddol yn ei benderfyniad i ymprydio hyd at farwolaeth yn y frwydr i sicrhau sianel deledu Gymraeg.

"Mae pawb yn meddwl am Gwynfor fel y ffigwr eiconic yma nad oedd byth yn cael ei gleisio na'i archolli - ond yr oedd e.

"Ac yr oedd e'n greadur o gig a gwaed ac fe welwch yn y llyfr ar fwy nag un achlysur fe wnaeth e fygwth ymddiswyddo . . ." meddai.

"Yr oedd yr iselder ysbryd wnaeth e brofi wedi'r refferendwm ac wedi colli ei sedd ym Mai 1979 yn gyfan gwbl drychinebus i Gwynfor a fedrwch chi ond esbonio ei benderfyniad yntau i fygwth lladd ei hunan yn nhermau ffisiolegol a chorfforol ac ymenyddol - felly mae y seicoleg yn bwysig iawn yn fy mwriad o ran trio dynoli Gwynfor," meddai.

Tröedigaeth
Agwedd o yrfa Gwynfor Evans a enynnodd edmygedd oedd ei ddycnwch a'i ddyfalbarhad er gwaethaf pob siom.

Priodolodd Rhys Evans hynny i dröedigaeth wleidyddol bron a bod yn grefyddol ei grym.

"Mae pobl yn gofyn sut ar wyneb y ddaear yr oedd Gwynfor yn cadw'i hunan i fynd dros saith degawd o fywyd cyhoeddus - wel, yr ateb i fywyd Gwynfor yw iddo brofi tröedigaeth pan oedd yn ei arddegau hwyr - tröedigaeth nid yn annhebyg i dröedigaeth Ann Griffiths a Phantycelyn gyda'r gwres yna - y gwres cenedlaetholgar - yn llosgi ynddo yn ffwrnais.

Ac o ganlyniad i'r dröedigaeth honno yr oedd Gwynfor yn gweld ei hun yn rhyw fath o Feseia Cymru.

"Yr oedd e'n tybio ei fod wedi cael ei alw, ei fod e wedi cael ei ddewis i arwain cenedl.

"Yn ei ddatganiadau cyhoeddus, yn enwedig yn y Pedwardegau a'r Pumdegau, mae'r thema yma yn codi ac mae i'w gweld hyd yn oed yn gryfach yn ei ohebiaeth gyda chyfeillion agos fel Pennar Davies, fel D J Williams.

"Yn ystod y cyfnodau hesb iawn hynny roedd Gwynfor yn gweld ei hun fel Meseia. Yr oedd e'n ymhyfrydu yn y ffaith fod yna bobl yn ei eilun-addoli."

Porthi myth
Disgrifiodd hefyd sut y porthodd Gwynfor Evans ddarlun gwahanol i'r gwirionedd o'i fagwraeth yn Y Barri a'r ffordd y darganfu'r Gymraeg.

Rhys Evans"Yr oedd Gwynfor," meddai, "wrth ei fodd efo'r myth" a grëwyd ac yn ei borthi.

"Os ewch chi'n ôl drwy dorion y wasg yn y chwedegau a'r saithdegau: pan oedd pobl wedi sgrifennu am Gwynfor, bron a bod yn wastadol maen nhw'n dweud; Rhaid i Gwynfor Evans ddysgu Cymraeg o'r newydd.

"Ond doedd hynny ddim yn wir mae yna adroddiadau mewn papurau lleol sydd yn dangos Gwynfor yn ennill cystadleuaeth sgrifennu traethawd yn Gymraeg ac yn dangos Gwynfor yn ennill cystadlaethau siarad cyhoeddus yn Gymraeg.

"Ond y ffynhonnell orau, heb amheuaeth, yw ei chwaer, Ceridwen, oedd yn cael ei blino i'r fath raddau am amharodrwydd Gwynfor i gywiro y canfyddiad hwn yr oedd hi'n bygwth sgrifennu at y Western Mail yn dweud fod y teulu yn siarad Cymraeg adref."

  • Bydd Gwynfor Evans - Rhag Pob Brad. Cofiant gan Rhys Evans. Y Lolfa.600 tudalen. £24.95 yn cael ei gyhoeddi fis Tachwedd 2005.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Llyfrau - gwefan newydd
    Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
    Teulu Lòrd Bach
    Epig deuluol o'r Blaernau
    Petrograd
    Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
    Lôn Goed
    Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
    Silff y llyfrau diweddar
    Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
    Hanner Amser
    Edrych ymlaen at yr ail hanner!
    Deryn Glân i Ganu
    Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
    llyfrau newydd
    Awduron Cymru
    Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
    adnabod awdur
    Roger Boore
    Cyhoeddwr ac awdur
    gwerthu'n dda
    Nadolig a Rhagfyr 2008
    Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
    son amdanynt
    Sôn amdanynt
    Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
    pwy di pwy?
    Dolennau defnyddiol
    Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
    dyfyniadau
    dyfyniadau Gair am air:
    Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy