BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
I Fyd Sy Well
Nes na'r hanesydd?
Adolygiad Glyn Evans o I Fyd Sy Well gan Sian Eirian Rees Davies. Nofel Gwobr Goffa Daniel Owen 2005. Gwasg Gomer. £7.99.

Dydi cyhuddiadau o ramantu ddim yn bethau prin yng nghyswllt y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.

Ac os mai rhamantu yw canmol ymdrechion ymfudwyr o Gymru yn troi tir cras a digon digroeso yn ddyffryn ffrwythlon gan oddiweddyd sychder ar y naill law a llifogydd enbyd ar y llall yna mae'n debyg fod yna ramantu wedi bod.

Clawr y llyfrByddai eraill, ar y llaw arall, yn ei alw'n edmygedd iach.

Bid a bo hynny - dywedodd Sian Eirian Rees Davies yn ddigon plaen ar ôl cael ei hurddo â Gwobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri mai chwalu peth o'r hyn a welai hi yn ramant oedd ei bwriad gyda'r nofel hon.

Neb yn gwarafun
Ac ni fyddai neb yn gwarafun iddi yr hawl i ddarlunio pethau fel yr oeddan nhw yn hytrach nag fel yr hoffem ni iddyn nhw fod.

Go brin, wedi'r cyfan, fod pawb a fyrddiodd y Minmosa yn sant ac y mae gan y rhan fwyaf ohonom rhyw sgerbwd y byddai'n well gennym ei gadw mewn cwpwrdd yn hytrach na'r ystafell ffrynt!

Ond y mae un agwedd o'r ffordd y dewisodd Sian Eirian Rees Davies gyflawni'r dyletswydd a roddodd arni ei hun yn gwneud i rywun deimlo'n hynod o anghysurus.

Dydi hwnnw ddim yn brofiad newydd ynglŷn â nofelwyr sy'n defnyddio eu dychymyg wrth ddarlunio cyfnod neu ddigwyddiad hanesyddol.

Faint o benrhyddid dychymyg sy'n dderbyniol? Dyna'r cwestiwn.

Pobl go iawn
Cymhlethir pethau pan gynhwysir yn y stori gymeriadau oedd yn bobl go iawn fel y gwneir yma.

Elfen bwysig o'r stori hon yw'r berthynas rhwng Lewis Jones, Edwyn Cynrig Roberts a gwraig Lewis Jones, Ellen.

Nawr wrth gyflwyno'r nofel dywed yr awdur:
"Ffug yw'r holl gymeriadau, hyd yn oed pan wyf yn rhoi enwau ffeithiol ar y cymeriadau hynny."

Cadarnhaodd mewn cynhadledd i'r wasg ar Faes yr Eisteddfod mai ffrwyth ei dychymyg hi yw cymeriad y bobl hyn.

Cymeriadau ffug, felly, oedd yn bobl go iawn ac mewn amgylchiadau hanesyddol gywir.

Dim rhyfedd bod pen rhywun yn troi.

Mewn ffilmiau
Ond a ddylai o? Onid yw hyn yn digwydd byth a beunydd mewn ffilmiau Hollywood gyda chyfarwyddwyr a sgriptwyr yn troi cymeriadau fel Custer, David Crocket ac yn y blaen yn gymeriadau eu dychymyg hwy a neb yn poeni pa mor agos i'r gwir y darlun o'u cymeriad.

Parddued neu ddyrchafed yn ôl y galw.

Ond ni ddaeth darllen yn y nofel hon am Edwin [sillafiad y nofel] Cynrig Roberts yn godinebu ag Ellen Jones - ac yn cuddio rhwystredigaeth ei gariad cyfunrywiol tuag Lewis Jones dan gochl - yn ddim haws.

Beth mae darllenydd i'w wneud o ddarllen am hyn ac o wybod ein bod yn sôn am gymeriadau a oedd yn bobl go iawn? Dim rhyfedd bod rhywun yn teimlo'n anghysurus - a pha faint mwy anghysurus fydd y rhai hynny sydd â chysylltiad uniongyrchol â'r bobl hyn yn teimlo.

Pe byddai rhyw ffeithiau newydd wedi eu datgelu byddai'n anodd - pan fo'r cyfan ond yn ffansi awdur ac yn ffrwyth dychymyg er mwyn creu tyndra storiol . . . wel.
Wel, mae geiriau fel anghyfrifol ac annheg yn mynnu anesmwytho rhywun ac yn peri i rywun holi lle mae tynnu llinell - beth am nofel am Yr Hen Bant yn hel merched liw nos? Dim ots ydio'n wir, cyn belled ei fod yn syniad dadleuol, stroclyd!

Ychwanegir at y cymhlethdod meddyliol pan sylweddolir ei bod yn haws derbyn creu cymeriadau'r dychymyg o blith teithwyr mwy dinod y Mimosa nag o blith arweinwyr mor adnabyddus yn hanes y Wladfa.

Perthynas pobl
Mae'n drueni, mewn gwirionedd, i rywun orfod treulio cymaint o amser yn ymhel â'r pethau hyn yn hytrach na medru mwynhau'r nofel fel stori sy'n ddarlun - heb odid ddim gwybodaeth newydd, mae'n wir - o gyfnod ac yn darlunio y cymhlethdodau sy'n bodoli ym mherthynas pobl a'i gilydd ond y mae hwn yn rhywbeth y mae'r awdur wedi ei ddwyn arni ei hun ac ni all feio darllenydd am anesmwytho ac amau doethineb ei hymdriniaeth o Lewis, Edwin ac Ellen.

Heb yr elfen hon gallai rhywun fod wedi dweud yn gynt gystal hwyl mae Sian Eirian Rees Davies wedi ei gael ar sgrifennu.

Mae'n stori sy'n llifo'n hawdd ac wedi ei saernio'n effeithiol gan symud bob yn ail pennod rhwng taith yr ymfudwyr cyntaf a hwyliad y Mimosa i olygfeydd yn darlunio Lewis Jones ac Edwin Roberts eisoes ym Mhatagonia yn gwneud paratoadau ar gyfer eu glaniad.

Sgrifennu hwyliog
Mae yma sgrifennu disgrifiadol hwyliog ar adegau.
"Boed yn dywydd braf ynteu'n lawog ni lwyddai Morfa i edrych yn bentref dymunol i fyw ynddo. Roedd rhywbeth anwar yn perthyn i dyddynnod y pysgotwyr a fagai ddegau o blant a baw trwyn yn grachod hyd eu hwynebau. Gollyngai'r tai lojin ryw arogl chwerw i'r awyr, addurnid y strydoedd a charthion ceffylau a chyrff meddw morwyr am yn ail, ac yn y pellter fe glywid sgrechiadau'r porthladd fel anghenfil araf yn ysbeilio'r traeth dan regi," meddai am Forfa Nefyn o ble mae prif gymeriadau eraill y nofel, Jane a'i thad, y Parchedig Arnallt Morgan yn cychwyn ar eu taith i'r Wladfa.

Wrth ddisgrifio wyneb capten eu llong, meddai: "Edrychai ei drwyn fel casgliad o gregyn gleision."

Daw yn amlwg yn fuan ei bod yn awdur sydd nid yn unig yn mwynhau sgrifennu ond hefyd ag awydd i wneud strôc a bydd hynny yn rhywbeth y bydd yn rhaid dysgu ei gadw dan reolaeth lem rhag i'r sgwennu droi'n barodi ohono'i hun.

Ond yn gyffredinol mae yma sgrifennu grymus hefyd ac ysgrifennu aeddfed.

Gan amlaf, y disgrifiadau geirwon, yr ochr hyll i bethau, sy'n gweithio orau ganddi a chaiff rwydd hynt yn y cyfeiriad hwnnw wrth ddisgrifio mordaith y Mimosa ac amgylchiadau yr hyn a eilw hi yn "chwarteri cysgu"! y llong - mordaith ac amgylchiadau y gwyddem rywfaint amdanynt oddi wrth ddyddiadur Joseph Seth Jones a gyhoeddwyd ychydig yn ôl gan Elvey Macdonald ac sy'n sail i rai o ddarluniau Sian Eirian Rees Davies.

Trwy lythyr
Hoffais yn arbennig ei dull o adrodd stori Lewis-Cynrig-Ellen trwy gyfrwng llythyrau Edwin Cynrig Roberts at ei rieni ac mae plethu'r geiriau ar bapur atyn nhw bob yn ail a'i feddyliau tra'n sgrifennu yn hynod o effeithiol.

Fodd bynnag mae mwy o hygrededd i'r dadlennu graddol o'r berthynas rhwng Jane Morgan ac Arnallt Morgan ond mae'n rhywfaint o siom nad yw'r nofel wedi ei saernïo i ddod a'r holl elfennau hyn at ei gilydd yn well ar y diwedd.

Ond, mae hon yn nofel gyntaf y gallai unrhyw awdur fod yn falch ohoni ac yn un sy'n addo'n dda ar gyfer y dyfodol.

Gyda llaw, tebyg fod gan bob awdur hoff eiriau ac "amwys" ydi un o rai Sian Eirian Rees Davies - ond dyw hi ddim yn syniad da ei ddefnyddio cweit mor aml.

Gwybodaeth ar Gwales Cliciwch

Cysylltiadau Perthnasol
Ennill Gwobr Goffa Daniel Owen
Dyddiadur Mimosa
Straeon am Y Wladfa


cyfannwch


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy