BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Llais Llên

BBC Homepage
BBC Cymru
Cymru'r Byd

Llais Llên
Adolygiadau
Llyfrau newydd
Adnabod awdur
Gwerthu'n dda
Sôn amdanynt Pwy di pwy?

Y Talwrn

Newyddion
Chwaraeon
Y Tywydd


Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
adolygiadau a straeon adolygiadau a straeon
Safonau iaith yn gostwng
Anarch-iaith yn rhemp meddai awdur a chyhoeddwr!




Mae Cymraeg rhai o'r gweithiau llenyddol sy'n ennill prif wobrau yr Eisteddfod Genedlaethol yn salach na'r hyn â geir gan blant ysgol.

Wrth gael ei holi ar y rhaglen radio, Wythnos Gwilym Owen, dywedodd Emlyn Evans, a fu'n bennaeth un o weisg pwysicaf Cymru, fod prif wobrau llenyddol y genedl yn cael eu rhoi bellach "am safon o Gymraeg na fernid yn deilwng o dystysgrif arholiad lefel O."

Yn gyn athro, yn olygydd y cylchgrawn Barn yn y chwedegau ac yn gyn bennaeth Gwasg Gee, cwynai Mr Evans fod y dirywiad yn safon y Gymraeg ysgrifenedig fod peryg i'r iaith fynd yn un nad yw'n werth ei diogelu.

Ymddangosodd ei sylwadau miniog gyntaf ar ddalen flaen newyddiadur wythnosol yr Eglwys Bresbyteraidd, Y Goleuad, ac ni thynnodd ddim o'i eiriau yn ôl wrth gael ei holi gan Gwilym Owen.

Difrifol iawn
"Rwy'n credu ein bod ni erbyn hyn mewn sefyllfa ddifrifol iawn yng Nghymru ynglŷn â'r iaith - mi rydan ni mewn gwirionedd mewn stad o anarchiaeth," meddai gan ychwanegu y gallai "anarchiaith" fod yn air gwell.

"Mae'n ymddangos fod pawb sy'n sgwennu Cymraeg bellach yn gwneud eu rheolau eu hunain - mae canonau gramadeg a chystrawen i bob golwg yn cael eu bwrw dros y bwrdd ac mae hyn wedi treiddio nid yn unig i adran lenyddiaeth yr Eisteddfod Genedlaethol ond hefyd i fyd addysg," meddai wrth Gwilym Owen .

Anwybyddu brychau
Chwipiodd athrawon ac hyd yn oed ddarlithwyr am anwybyddu brychau gramadeg a sillafu wrth farcio papurau arholiad.

"Mae'r modernwyr yn dweud mai syniadau sy'n bwysig nid y cyflwyniad - nonsens pur ydi hynny i mi," meddai.

Ond dwy o brif gystadlaethau llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol a ddaeth fwyaf dan ei lach - y Fedal Ryddiaith a Gwobr Goffa Daniel Owen.

Yr oedd wedi dweud yn barod yn Y Goleuad i gyfrolau buddugol y cystadlaethau hynny eleni a thros y blynyddoedd diwethaf beri "diflastod a phryder" iddo.

Bywyd yn rhy fyr
"Ysgrifennwyd y naill gyfrol a'r llall yn y 'Cymraeg Byw' modern bondigrybwyll - hynny yw, iaith ddi-raen, ddiurddas ac anweddus ambell waith," meddai.

Am nofel Robin Llywelyn, Un Diwrnod yn yr Eisteddfod, dywedodd fod bywyd "yn rhy fyr o lawer" i ddarllen y fath waith.

Ychwanegodd: "Rhaid nodi bod hyn yn wir am nifer o gynhyrchion eraill yr Eisteddfod eleni, gan gynnwys . . . amryw byd o'r beirniadaethau a ymddengys yng nghyfrol y Cyfansoddiadau.

"Dyma fod yn hollol blaen: ni freuddwydiais i erioed yn fy mywyd y gwelwn i fyth gyhoeddi pethau o safon mor isel ag a geir eleni - gan feirniaid a chystadleuwyr fel ei gilydd - a tharo'r gwaelod creigiog isaf yn y feirniadaeth anhygoel ar y Faled Ddigri," meddai.

'Cwbl ddinistriol'
Mynnodd nad ef yw'r unig un sy'n credu fod effaith yr hyn a eilw yn "Gymraeg Byw" yn "gwbl ddinistriol" ar ein hiaith lenyddol.

"Y tristwch mawr, ac eironig mewn gwirionedd, yw bod pennaf sefydliad diwylliannol y genedl . . . yn awr yn rhan . . . yn y broses o'i difetha fel iaith goeth a chymen ac a ddisgrifiwyd gan rywun rywdro fel 'y firain, gywrain, gain Gymraeg," meddai.

Gan ddweud i'r dirywiad ddigwydd dros gyfnod o flynyddoedd galwodd ar Gyngor yr Eisteddfod i ystyried y mater ar frys er mwyn "gweld beth fydd pen draw peth fel hyn".

"Ac yn fy marn i - y pen draw ydi ein bod ni'n glastwreiddio'r iaith yn ofnadwy ac na fydd gennym ni ddim Cymraeg gwerth ei chadw'n fyw yn y man," meddai.

Ymateb Golygydd Y Cyfansoddiadau
Gwahoddwyd golygydd cyfrol y cyfansoddiadau a'r beirniadaethau, John Elwyn Hughes, i ymateb ar Raglen Gwilym Owen i sylwadau Emlyn Evans.

Yn un o bennaf gramadegwyr y Gymraeg, dywedodd y cytunai gant y cant ag athroniaeth Emlyn Evans ynglŷn â'r angen i ddiogelu'r iaith rhag ei glastwreiddio.

"Ond dydw i ddim yn credu fod 'amryw byd' o'r beirniadaethau yn syrthio i'r categori yna. Mae'r cyffredinoli yma yn sobor o annheg a dydw i ddim yn meddwl y byddai pobl fel Elwyn Edwards, Tudur Dylan, Idris Reynolds, Dylan Foster Evans, Alan Llwyd, yr Athro Sioned Davies ac felly yn y blaen yn hoffi cael eu pardduo â'r brws cyffredinol yna.

"Rwy'n credu ei fod yn hynod o annheg yn gwneud y math yna o ymosodiad cyffredinol."

Awdurdod iaith
Ond cymaint ei bryder yntau hefyd am yr hyn sy'n digwydd i safon yr iaith Gymraeg y galwodd, fel y gwnaeth o'r blaen, am sefydlu "rhyw fath o awdurdod" i'w diogelu.

Ychwanegodd nad yr Eisteddod, fel yr awgrymodd Mr Evans, yw'r corff priodol i wneud hynny ond corff a grëwyd gyda'r pwrpas o arolygu cyflwr y Gymraeg ym mhob maes gan gynnwys meysydd cyfieithu, y wasg, cyhoeddi ac yn y blaen.

Rhywbeth sy'n newid
"Rwy'n parchu'r hyn mae Emlyn yn ei ddweud a bod hyn yn haeddu sylw buan," meddai. "Dydw i ddim yn credu fod gan y Steddfod y math yna o awdurdod i edrych ar safonau iaith. Mae'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd yn cynorthwyo yn y maes ond rwy'n credu fod angen edrych ar y peth mewn manylder," meddai.

Pwysleisiodd mai rhywbeth "byw" sy'n newid ac yn datblygu yw iaith.

"Mae iaith yn byw ac wrth fyw mae'n newid. Allwn ni ddim dal at yr hen ffurfiau . . .Pwy ar wyneb daear glywch chi yn dweud amdanynt hwy a dysgant hwy . . .a dylid edrych ar fabwysiadu rhai termau i'r iaith lenyddol.

"Dydw i ddim yn sôn am lastwreiddio, dydw i ddim yn sôn am ostwng safonau na defnyddio bratiaith," pwysleisiodd.



cyfannwch

GR, Aberystwyth
Cyffredinoli dinistriol yw sylwadau Evans ar safon iaith y beirniadaethau. Dylid poeni mwy am safon eu cynnwys a'u crebwyll.



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

Llyfrau - gwefan newydd
Ewch i'n gwefan lyfrau newydd
Teulu Lòrd Bach
Epig deuluol o'r Blaernau
Petrograd
Rheswm arall dros ddathlu'r nofel Gymraeg
Lôn Goed
Pryfed a mwd - cof plentyn am lôn Williams Parry
Silff y llyfrau diweddar
Adolygu rhai o lyfrau'r gaeaf
Hanner Amser
Edrych ymlaen at yr ail hanner!
Deryn Glân i Ganu
Cariad, cyffuriau, blacmel a dial
llyfrau newydd
Awduron Cymru
Bywgraffiadau awduron a llenorion o Gymru
adnabod awdur
Roger Boore
Cyhoeddwr ac awdur
gwerthu'n dda
Nadolig a Rhagfyr 2008
Cofiannau yn mynd a bryd y Cymry
son amdanynt
Sôn amdanynt
Rhestr o'r holl lyfrau sydd wedi cael sylw ar BBC Cymru'r Byd.
pwy di pwy?
Dolennau defnyddiol
Cyfeiriadau a chysylltiadau buddiol ym myd llyfrau
dyfyniadau
dyfyniadau Gair am air:
Detholiad o ddyfyniadau - ydych chi'n gwybod pwy yw'r awdur?


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy