BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

BBC Homepage
BBC Cymru
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
 

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 


You, Me and Dupree (2006)
Mwy o bla nag o ffrind gorau

12A

Dwy seren allan o bump

Y sêr
Owen Wilson, Kate Hudson, Matt Dillon, Michael Douglas

Cyfarwyddo
Anthony Russo, Joe Russo

Sgrifennu
Mike LeSieur

Hyd
109 munud

Sut ffilm
Ffilm gomedi Americanaidd am yr effaith ar fywyd a chyfeillgarwch dau ddyn ifanc wedi i un briodi a'r llall yn symud i fyw ato ef a'i wraig.

Y stori
Yn syth wedi i Carl a Molly (Matt Dillon a Kate Hudson) briodi mae Dupree (Owen Wilson), ffrind gorau Carl, yn dod ar eu gofyn ac yn symud atyn nhw i fyw 'nes ei fod yn cael ei draed dano'.

Go brin fod angen dweud fod hyn yn rhoi'r briodas a'r berthynas rhwng y tri dan bwysau rhyfeddol gyda Carl yn dioddef fwyaf wrth i Dupree afradlon ac anghyfrifol fod yn sbardun i bob math o helyntion domestig ystrydebol yn amrywio o orlwytho'r tŷ bach, dangos ei ben ôl wrth gysgu'n noeth ar y soffa a llosgi'r tŷ!

Ar ben hyn mae Carl dan bwysau oddi wrth tad Molly (Michael Douglas) - perchennog hunanol y cwmni mawr ariangar y mae Carl yn gweithio iddo.

Rhwng popeth mae bywyd Carl yn prysur chwalu a'i berthynas â Molly ar y dibyn.

Beth ddaw ohonynt? A oes modd cymodi tad a mab yng nghyfraith? A oes modd dofi Dupree? Beth yw'r ots?

Y canlyniad
Yr anhawster mwyaf yw ceisio dychmygu sut y daeth Dupree yn ffrind gorau i neb yn y lle cyntaf.

Yn cael ei fwriadu i fod yn rhyw fwddrwg o ysbryd rhydd anystywallt ond hoffus a hynaws fe fydd, yng ngolwg sawl un, yn fwy o bla na hanner dwsin o bryfed chwythu o gwmpas eich clustiau.

Yn wir, dim ond cymeriad mewn ffilm a fyddai'n ei wahodd dros y rhiniog heb sôn am gynnig soffa iddo gysgu arni yn ei gartref.

Mewn cyferbyniad llwyr, mae Carl, yntau, yn gymaint o gymeriad cardbord y mae'n amhosib bron ac ymateb iddo o gwbl na chydymdeimlo ag ef yn ei drafferthion!

Gyda'i chyfres o olygfeydd ystrydebol mae'n syndod fod y ffilm hon yn gafael o gwbl - yn enwedig at y diwedd lle collir gafael ar y llinyn storiol - ond y mae er gwaethaf popeth yn eithaf hawdd ei gwylio.

Mae'n ffilm y byddai wedi bod o les iddi gael ei thynhau yn arw. Gellid fod wedi haneru'n hawdd y golygfeydd o ddoethinebu athronyddol gan Dupree.

Perfformiadau

  • Er mai o gwmpas Dupree y mae'r ffilm hon yn troi ef ydi'r lleiaf hoffus o'r holl gymeriadau. 'Dyw Owen Wilson ddim yn argyhoeddi fel yr afradlon hoffus a'i olwg penrhydd ar fywyd.
  • Sylwodd sawl un o'r blaen nad yw Matt Dillon yn actor gyda llawer o bresenoldeb ac yn y ffilm hon does gan Kate Hudson ychwaith fawr i'w wneud ar wahân i edrych yn dlws.
    Cyhuddwyd Dillon gan un adolygydd o actio gyda'r un cynildeb â chi yn methu dal ei ddŵr.
  • Nid dyna farn adolygydd gwefan Saesneg y BBC, fodd bynnag, sy'n dweud fod y rhain yn driawd braf i fod yn eu cwmni.
  • Fel y cyflogwr hunanol a chwbl diegwyddor mae Michael Douglas yn effeithiol yn gwenu fel rasel tra'n bygwth dan gochl geiriau teg.
  • Ond mae'n dweud rhywbeth am y ffilm i gyd fod dau y ddau bresenoldeb mwyaf yn eiddo dwy nad ydynt i'w gweld ar y sgrîn o gwbl. Mandy y llyfrgellydd y mae Dupree yn syrthio mewn cariad â hi ac Anne, gwraig un o gyfeillion Carl!

    Ambell i farn
  • Mae gwefan Saesneg y BBC yn gwerthfawrogi cyfansoddiad y stori - "cleverly orchestrated yw'r disgrifiad wrth ganmol Wilson a Dillon am gadw'r chwerthin i fynd - ond mae yn cydnabod nad oes yma lawer o "chwerthin mawr".
  • Gresynus - "dire" - yw barn yr Observer fodd bynnag gyda'r Telegraph o'r farn fod hon yn ffilm hawdd cysgu drwyddi.
  • Cred yr Independent fod y math o gymeriad penrhydd a chwaraeir gan Wilson wedi chwythu'i blwc iddo erbyn hyn. Darnau gorau
  • 'Y bois' yn dod draw i weld gêm bêl-droed pan fod Molly allan.

    Rhai geiriau
  • "Does yna ddim rhagor o Audrey Hepburns ar ôl allan yn fanna erbyn hyn," Dupree
  • Oes yna unrhyw beth tristach na gorfod a chael gwared o dy gasgliad o ffilmiau porn?" Dupree eto.

    Gwerth ei gweld?Gwerth ei gweld - ond mae'n amheus a yw hi werth mynd i'w gweld.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy