
 |
 |
Pwyso
a mesur gwyl ffilmiau Cymru
Dechrau da ond diwedd siomedig i Wyl Ffilm Ryngwladol Cymru
sydd newydd ddod i ben yng Nghaerdydd.
Dydd Llun, Rhagfyr 3, 2001
|
Sylwadau Ffion Emlyn
Llygaid Sgwâr.
Ar ôl gwylio cymaint o ffilmiau mewn ychydig ddyddiau mae’n
llygaid wedi troi’n sgwâr a nghoesau wedi anghofio sut i sythu!
Ond bu’n wythnos hynod ddifyr gyda’r dewis o safon uchel.
Ac er na chefais gyfle i weld yr holl ffilmiau a fyddwn wedi gobeithio
eu gweld, mwynheais yr hyn a welais yn fawr iawn.
Alone yn dychryn
Oherwydd
digwyddiadau chwaraeon sydd wedi bod yn y brifddinas yn ddiweddar
mi fu’n rhaid imi gerdded i’r sinema ambell noson ond rwy’n falch
na fu'n rhaid imi wneud hynny noson Alone achos yn dilyn delweddau
a cherddoriaeth hudol Byw yn dy Groen y noson cynt roedd hon
yn ffilm wahanol iawn.
Noson cyhoeddi’r wyl addawodd y cyfarwyddwr ifanc Philip Claydon
fy nychryn gyda’i ffilm gyntaf - rhaid oedd rhoi hynny ar brawf.
Fe’i ffilmiwyd o fewn pum milltir i Gaerdydd a hynny gydag ond
ychydig iawn o gyllid
Trwy lygaid Alex cawn gip ar fywyd echrydus iawn wrth inni
ddilyn y cymeriad ar ei daith ddefodol o drais - a do mi wnes i ddychryn
rhywfaint ac yr oedd y sain llethol ac ambell i olygfa, fel yr un
gorfodi’r ferch i fwyta, yn erchyll iawn.
Roedd y diwedd, fodd bynnag, braidd yn rhagweladwy ac oherwydd y testun
go brin imi gael mwynhad - ond y mae Philip Claydon
yn gyfarwyddwr y byddwn yn clywed rhagor amdano rwy’n siwr.
Mwynhad oesol
Tra gwahanol oedd dau gyflwyniad Archif Genedlaethol Sgrîn a Sain
Cymru yng Nghanolfan Chapter.
Y cyntaf oedd David, cyfraniad Cymru i’r Festival of
Britain yn 1951.
Ffilm oedd hi am Dafydd Rhys, hen lowr a gofalwr ysgol a seiliwyd
ar fywyd D.R.Griffiths, brawd y diweddar aelod seneddol Jim Griffiths,
Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru.
Ffilm ddogfennol hynod effeithiol gan gyfarwyddwr o Gaerdydd, Paul
Dickson gyda D.R. Griffiths ei hun yn chwarae rhan Dafydd Rhys yn
drawiadol iawn.
Dyma’r tro cyntaf imi weld y ffilm ac fe fwynheais yn arw ei sensitifrwydd
a’i chynildeb gyda cherddoriaeth Grace Williams yn ychwanegu at hynny.
I mi yr oedd Dafydd Rhys yn adlewyrchiad o wyleidd-dra a chryfder
emosiynol y gymdeithas.
Braf hefyd oedd gweld y Rachel Thomas ifanc ar y sgrîn.
Er bod rhai o’r perfformiadau’n anodd eu derbyn, doedd dim angen gofyn
pam y mae David yn un o ffefrynnau’r Archif.
Yr ail ffilm a ddangoswyd oedd The Magic Box, bywgraffiad o
William Friese-Greene, arloeswr yn y sinema Brydeinig.
Gyda chast yn cynnwys Laurence Olivier, Richard Attenborough a Joyce
Grenfell dyma stori am ddyn yn byw ei freuddwyd ond yn sylweddoli
erbyn y diwedd gymaint o aberth fu hynny.
Er bod gwendidau yn y ffilm hir hon llwyddodd i ddal ysbryd y cymeriad
a chadw’n diddordeb ninnau am ddwyawr.
Diwedd diflas
Yn
anffodus, a minnau wedi canfod rhywbeth i’w fwynhau ym mhob un o’r
ffilmiau siom fu ffilm olaf yr Wyl.
Efallai imi gael gormod o bwdin erbyn hynny ond, yn wir, credaf i’r
tair blynedd a dreuliwyd ar y ffilm Labrats fod yn dair blynedd
yn ormod!
I ddilyn cyflwyniad ysgafn y cyfarwyddwr, Paul Brannigan, roeddwn
yn disgwyl awr ac ugain munud o chwerthin.
Ac, yn wir, roedd y rhan fwyaf o’r gynulleidfa yn chwerthin
nes eu bod yn sâl - ond, er bod y mwyafrif ohonynt yn gysylltiedig
a’r ffilm doedd hynny ddim yn esgusodi cymeradwyo ffilm mor ofnadwy
o wael!
Roedd y perfformiadau’n wael, y cyfarwyddo’n waeth a phan fo rhywun
yn dechrau cyfri’r paneli o amgylch y sgrîn mae’n arwydd drwg.
Prifddinas Diwylliant Ewrop 2008?
Er gwaethaf siom y noson olaf roedd y drydedd gwyl ar ddeg yn
llwyddiant a Chaerdydd, efallai, un cam yn nes at hawlio’r teitl,
Prifddinas Diwylliant Ewrop.
Ymhlith y pethau mwyaf pleserus oedd amrywiaeth a safon y ffilmiau
o Gymru.
Yn sicr, gyda’r lleoliadau sydd ar gael, nid yw’n rhyfedd fod Cymru
yn prysur ddod yn Feca i gynhyrchwyr ffilmiau ond yn fwy na hynny
profwyd dros yr wyth diwrnod fod y Cymry yn ddigon tebol i gynhyrchu
ffilmiau sy’n haeddu eu lle ar lwyfan rhyngwladol.
Ewch efo’ch popcorn i fwynhau Byw yn dy Groen ac Eldra ar
y sgrîn fawr a chyda gobaith bydd cyfle ichi hefyd fwynhau Happy
Now? ac Alone yn y dyfodol agos.
Beth yw eich barn chi? Ebostiwch
i ddweud
Eldra
Byw
yn dy Groen
Happy
Now
Gwyl
Ffilm Ryngwladol Caerdydd
Gwefan
yr Wyl
|
 |

|