
 |
 |
Paratoi
am Wyl Ffilm yng Nghaerdydd
Ffilmiau Cymraeg newydd yn cael eu dangos ac un Saesneg
efo Ioan Gruffydd
Dydd Sadwrn, Tachwedd 10, 2001
|
Gwyl Ffilm Ryngwladol Cymru
Adroddiad o Gaerdydd gan Ffion Emlyn
"Rwy’n gobeithio y byddwch yn synhwyro y cynnwrf a’r brwdfrydedd sydd
yma yng Nghaerdydd dros ffilm".
Dyna eiriau Mari Beynon Owen, cynhyrchydd Gwyl Ffilm Ryngwladol Cymru
yn y lawnsiad fore Mawrth a chyda’r wyl ar ei thrydedd blynedd ar
ddeg mae iddi gartref newydd sbon yn sinema fawr newydd UGC yng nghanol
y ddinas yn ogystal â chanolfan Chapter.
Denu pobl ifanc
Gobaith y trefnwyr yw y bydd yr wyl eleni y fwyaf llwyddiannus eto
ac yn denu pobl ifanc y ddinas.
Hanner cant o ffilmiau o sawl rhan o’r byd fydd i’w gweld yn ystod
yr wythnos sydd yn cychwyn ar Dachwedd 22.
Bwriad yr wyl meddai Mari Beynon Owen yw: " I gefnogi y talent sydd
yma a chroesawu y dalent a’r doniau sydd yn y byd a’u croesawu nhw
yma, i Gaerdydd."
Yn cerdded o amgylch y Top Bar yn yr UGC fore Mawrth doedd
y cynnwrf ddim i’w deimlo yn yr ystafell. A dweud y gwir roedd hi’n
reit anodd dweud pwy oedd yn ceisio hysbysebu eu ffilmiau.
Er hynny, wedi dechrau siarad gyda chynhyrchwyr, cyfarwyddwyr ac actorion
ifanc y ffilmiau, doedd dim amheuaeth fod ganddynt frwdfrydedd angerddol
dros eu gwaith a oedd yn hynod o heintus.
Goreuon Cymru
Dwy ffilm wahanol iawn i’w gilydd fydd i’w gweld yw Byw yn
dy Groen/Cross-Current ac Eldra.
Ffilm
gan gynhyrchiadau S4C/Boda yw Byw yn
dy Groen, sef taith emosiynol dyn yn ei bedwardegau sydd yn gorfod
dod i delerau â’i orffennol.
Daw Ellis Thomas (Aneirin Hughes) yn ôl i Sir Benfro i gladdu ei fam
a dyma pryd mae’n cychwyn ar ei siwrnai o aeddfedu.
Profiad hir ond braf oedd cynhyrchu ei ffilm gyntaf i Nerys Lloyd,
profiad oedd yn caniatauàu iddi ddod â rhai o’r bobl yr oedd hi wedi
cydweithio â nhw ers blynyddoedd at ei gilydd.
Ond ymarfer oedd y sgript i gychwyn. Wedi gweithio efo Phil
Rowland ar y gyfres Y Glas, prosiect y ddau oedd hwn meddai
Nerys:
"I ddatblygu Phil fel ysgrifennwr gan ei fod yn osgoi pethau emosiynol
pan oedd o’n sgwennu".
Pam dewis ffilm fel cyfrwng felly?
"Mae’r holl stori yn symud yn weledol a cherddorol ... gan fod y stori
mor emosiynol, da ni ‘di defnyddio lot fawr o ddelweddau - mae Sir
Benfro’n edrych yn anhygoel. Mae’n ffilmig, fawr."
Mae’r ffilm wedi cael ei derbyn i wyliau Ewropeaidd ac mae Nerys yn
hyderus o lwyddiant y ffilm.
"Mae hi’n stori sy’n gweithio’n emosiynol ar lefel gerddorol ac mae
siawns iddi apelio at gynulleidfa ehangach."
Mae yna naratif gerddorol i’r ffilm ac mae i’r gerddoriaeth ei themâu
ei hun. Dewisodd Nerys weithio efo’r cyfansoddwr John Ray, rhywun
yr oedd wedi cydweithio ag ef eisoes.
Rwyf wedi bod yn ffodus o glywed rhywfaint o gerddoriaeth y ffilm
ac yn sicr os yw’r ffilm cystal â’r hyn a glywais, mae’n argoeli’n
dda.
Mi fydd Byw yn dy groen/Cross-Current i’w gweld yn sinema UGC
Caerdydd am 18.30 Tachwedd 25.
Hanes sipsi
Ffilm
gwbl gyferbyniol o ran arddull yw Eldra.
Seilir y ffilm ar hanes bywyd Eldra Jarman a chawn ein tywys i Fethesda
yn y tridegau, cartref dros dro y sipsi ifanc. Dilyn ei thaith bywyd
hithau a wnawn wrth iddi ddysgu am fywyd Romani yng nghanol ei byd
hud a lledrith hi.
Dywed y sgriptwraig, Manon Eames, mai’r hyn a geir yw "stori am rywun
ar drothwy tyfu fyny yn delio gyda’r byd go iawn".
Er mai cyfnod y tridegau yw cefndir y ffilm mae’n daer nad dehongliad
o’r cyfnod a geir yn y ffilm.
"Mae’n stori sy’n berthnasol i heddiw ac yn berthnasol i sut mae rhywun
yn cydnabod y gwahaniaethau diwylliannol sydd rhyngom ni."
Ychwanegodd fod bywyd Eldra ym Methesda yn "llawn lliw a bywyd".
Mae Manon Eames wedi addasu nifer o sgriptiau ar gyfer y theatr ac
i’r teledu ac mae ei haddasiad o Y Stafell Ddirgel ar fin cychwyn
ar S4C.
Bu hi’n cydweithio ar y sgript gyda Eldra Jarman ac mae’n hyderus
y byddai hi wedi bod yn hapus gyda’r canlyniad.
"Roedd hi’n llawn bywyd, yn gymeriad cryf iawn," meddai amdani.
Dyma ffilm gyntaf Iona Jones (Eldra), Gareth Roberts (Robat) a Gareth
Glyn (Trefor) a ddywedodd y dylai pob oedran fwynhau y "stori annwyl"
hon.
Mi fydd Eldra i’w gweld yn Chapter Caerdydd am 19.00 Tachwedd
27.
Ioan Gruffydd yn blismon
Er
mai dim ond yn y ddwy ffilm yma y clywch chi’r Gymraeg bydd nifer
o ffilmiau Cymreig yn yr wyl. Ffilm agoriadol yr wyl ydi Happy
Now? gyda Ioan Gruffydd yn actio’r prif gymeriad, Rhingyll
Max Bracchi, yn ceisio datrys marwolaeth merch ifanc mewn pentref
bychan Cymreig.
Mae canlyniad brwdfrydedd ac ymroddiad unigolion i’w gweld yma hefyd
gyda dwy ffilm Labrats a Fatigue, y ddwy gan gwmnïau
o Gymru, wedi brwydro i ariannu eu gwaith eu hunain.
Dychryn gwyllt
Ar ôl bore difyr yn y UGC, cefais fy nal gan gyfarwyddwr ifanc yn
y lifft ar y ffordd allan. Philip Claydon, sydd newydd raddio o goleg
ffilm Casnewydd ac yn llawn angerdd am ei ffilm gyntaf, Alone.
Ffilm gan gwmni o Gaerdydd sydd yn honni eu bod am fynd â ni ar "Rollercoaster
of terror".
Yn gweithio mewn swyddfa bocs un diwrnod ac yn addasu sgript a’i chyfarwyddo
y diwrnod wedyn nid yw’n syndod fod Philip yn byrlymu o gyffro a hyder
wrth drafod ei ffilm.
Yn sicr, llwyddodd i’m perswadio i, i weld y ffilm. Mae’n drueni nad
oes gennym ni fel Cymry Cymraeg yr hyder yma yn ein gwaith.
Gyda rhaglen llawn o ffilmiau, dangosiadau cyntaf o brif ffilmiau
animeiddio a gweithdai creadigol fe fydd Caerdydd yn mecca i unrhyw
ddilynwr ffilm am yr wyth diwrnod yma. Rwy’n edrych ymlaen yn arw.
Gwefan yn Wyl
|
 |

|