
 |
 |
Byw
yn dy Groen
Ffilm Gymraeg gyntaf Gwyl Ffilm Ryngwladol Cymru
Dydd Mawrth, Tachwedd 26, 2001
|
Gwyl Ffilm Ryngwladol Cymru, Caerdydd.
Byw yn dy Groen/Cross-current; S4C/Boda Productions. UGC Caerdydd.
Adolygiad gan Ffion Emlyn
Mae
dwy fil o bobl wedi mynychu ffilmiau’r wyl hyd yma a hithau ond y
bedwaredd noson.
Gwyl lwyddiannus felly a braf oedd gweld ty llawn i’r ffilm Gymraeg
gyntaf i gael ei dangos hyd yn hyn.
Rhoddwyd cyflwyniad cryno gan y tair merch a fu’n gyfrifol am Byw
yn dy Groen - ie, merched ar y brig eto.
Dywedodd Nerys Lloyd, y cynhyrchydd, mai ffilm deledu oedd
Byw yn dy Groen yn wreiddiol ond iddynt ei datblygu ar gyfer
y sgrîn fawr ar gyllid o hanner miliwn.
Hel esgusodion
Un o wendidau sgriptiwyr, yn aml, yw eu bod yn dweud cyn dangos eu
sgript, "Dydi hwn ddim yn dda ond..." Diffyg hyder yn eu gwaith yw
hyn yn hytrach nag adlewyrchiad o’u gwaith.
I raddau, dyma wnaeth y gyfarwyddwraig, Pip Broughton, yn ei
chyflwyniad hi gan ddweud, "Mae’r ffilm yn dechrau’n araf ond arhoswch
efo fo."
Pan fo rhywun yn teimlo’r angen i ymesgusodi fel hyn mae’n arwydd
o ddiffyg hyder.
Y ffilm
I mi, roedd yr agoriad yn gryf gyda’r camera yn graddol ddatgelu corff
noeth, dynes yn ei hwyrnos, yn eistedd ar gadair yn canu Byw yn
dy Groen.
Gwelir, wedyn, mai model dosbarth arlunio yw’r ddynes.
Dyma un fy hoff olygfeydd yn y ffilm.
Taith emosiynol
Taith bywyd mab y ddynes hon yw Byw yn dy Groen.
Daw Ellis (Aneirin Hughes) yn ôl i Sir Benfro i gladdu
ei fam ac hefyd, erbyn y diwedd, i gladdu ei orffennol.
Dyw hi ddim yn siwrnai hawdd wrth iddo orfod wynebu pethau ar ei ben
ei hun pan fo’i wraig, Gina (Michele Farley), a’i ddwy
ferch yn dychwelyd i Lundain.
Caiff ei ddenu gan Sara (Lisa Palfrey), gwraig weddw
a ffrind i’w fam.
Siwrnai y ddau i raddau yw eu perthynas wrth iddynt ddod i delerau
â’u colled.
Bu farw tad Ellis pan oedd yn blentyn tra bo Sara yn
beio ei hunan am farwolaeth ei gwr. Nid stori am eu perthynas sydd
yma ond am ganfod y gallu i ollwng gafael ar y gorffennol.
Mae’r diwedd yr un mor rymus â’r cychwyn gydag Ellis a Sara
yn canfod eu ffyrdd eu hunain o ollyngdod - Sara, trwy daflu
esgid ei gwr i’r môr ac Ellis yn modelu i’r dosbarth arlunio
a chyhoeddi nad yw am fod ofn eto.
Cawn ein tynnu fwy na’r disgwyl i fywydau’r cymeriadau a theimlwn
innau eu gollyngdod hwy.
Cryfder y ffilm yw y cymeriadau byw. Does dim da a drwg yma. Dim ond
cymysgedd real o emosiwn a’r gynulleidfa yn teimlo dros bob cymeriad,
er bod eu hamser ar y sgrîn yn fyr.
Mae perfformiadau arbennig o dda gan bawb ac anodd meddwl am neb gwell
nag Aneirin Hughes a Lisa Palfrey ar gyfer eu rhannau
hwy.
Taith gerddorol, ddelweddol
Nid
creu awyrgylch yw swydd y gerddoriaeth yma ond adrodd y stori ac mae
cerddoriaeth John Ray yn emosiynol wych.
Yn gynnar iawn yn y ffilm daw’n amlwg mai ffilm ddelweddol iawn yw
Byw yn dy Groen.
Delwedd o ddwr, bydded hynny’r môr neu’r bath yn gryf ynddi.
Fel ag yr oedd golygfeydd glawog, tywyll, Y Bermo yn gweddu’n berffaith
i Happy Now? roedd golygfeydd anhygoel Sir Benfro yn gweddu
i’r stori hon hefyd.
Lleoliad, perfformiadau, cerddoriaeth a delweddau gwych felly.
Ond yr oedd rhywbeth ar goll. Rhywbeth yr wyf yn ei chael yn anodd
rhoi fy mys arno.
Prosiect oedd y ffilm i ddechrau i gael yr awdur Phil Rowlands
i ysgrifennu’n fwy emosiynol. I mi, fodd bynnag, ei duedd yw ysgrifennu’n
rhy emosiynol ar adegau, yn enwedig ag ystyried fod angen cynnal
hynny am awr ac ugain munud.
Gyda cyn lleied o ddeialog roedd angen bod yn ofalus iawn fod y ddeialog
honno yn berffaith ond ar adegau roedd tuedd i ddweud gormod.
Er nad oeddwn i mor fodlon yn dod o’r sinema ag oeddwn i ar ôl gweld
Happy Now? mi wnes i fwynhau y gymysgedd hon o gelfyddyd o’r
radd flaenaf ar y sgrîn fawr.
Bydd Byw yn dy Groen i’w gweld, yn y flwyddyn newydd, ym Mangor,
Aberystwyth, Sir Benfro, Caerdydd ac mewn gwyliau Ewropeaidd.
Cyn boddi:
Golygfa orau: Golygfa agoriadol ac Ellis yn adrodd
geiriau ei dad ar y diwedd
Hud: Cerddoriaeth hudol a llais Llio Millward yn atgyfnerthu’r
effaith.
Teyrnged: Dyma ffilm olaf Dilys Pierce a fu farw ychydig
yn ôl.
Beth yw eich barn chi? Ebostiwch
i ddweud
Happy
Now
Gwyl
Ffilm Ryngwladol Caerdydd
Gwefan
yr Wyl
|
 |

|