Gwybodaeth i athrawon a rhieni am Dinesydd Da, gemau Addysg Bersonol a Chymdeithasol (ABCh) ar gyfer Cyfnod Allweddol 2.

Dinesydd Da



Mae Dinesydd Da yn rhan o gasgliad o wefannau addysgol gan y BBC ar gyfer plant 7-11 oed. Mae'r adnoddau canlynol hefyd yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2:

Mae tref Llanllanast wedi mynd â'i phen iddi ac mae angen eich help chi ar y trigolion! Mae Dinesydd Da yn cynnwys gweithgareddau addysg bersonol a chymdeithasol lle rydych chi'n datrys problemau sy'n wynebu'r gymuned. Mae yna hefyd fideos byr yn dangos prosiectau go iawn a gynhaliwyd mewn ysgolion ar hyd a lled Prydain sy'n dangos i ddisgyblion yr hyn mae'n bosib ei gyflawni.

Mae Tîm Gweithredol y Dinesydd Da wedi dewis chwe phrosiect i wella bywydau pobl Llanllanast ac mae pob aseiniad yn cael ei gyflwyno gan aelod o'r tîm fydd yn ymddangos yn y gêm i gynnig cyngor pan fo angen hynny.

Ym mhob aseiniad mae'n rhaid i chi gyfnewid hen eitemau neu rai sydd wedi torri gyda rhai newydd. Mae angen ennill rhai o'r eitemau newydd hyn trwy gwblhau gweithgareddau sy'n berthnasol i'ch aseiniad.

Eich nod yw gwneud pob aelod o'r gymuned yn hapus. Mae angen cyfaddawdu er mwyn cwblhau yr aseiniadau. I lwyddo mewn gweithgaredd rhaid i chi ystyried barn gwahanol aelodau o'r gymuned a dewis ffordd addas ymlaen.

I chwarae'r aseiniadau cliciwch ar y gwahanol ardaloedd yn Llanllanast. Gallwch eu chwarae mewn unrhyw drefn.

Trafferth yn y Parc
Hawdd. Mae hwn yn lle da i gychwyn. Does neb eisiau mynd i barc hyll Llanllanast y dyddiau yma! Dewiswch welliannau fydd yn ei wneud yn rhywle y bydd pobl eisiau mynd iddo unwaith eto.

Anghydfod Prysgdir
Hawdd. Mae'r cyngor wedi rhoi arian i chi i wneud gwelliannau pellach yn y parc. Darganfyddwch beth mae'r bobl leol ei eisiau er mwyn ceisio cadw pawb yn hapus.

Problemau Amser Egwyl
Anhawster canolig. Mae maes chwarae'r ysgol mewn llanast difrifol! Helpwch y plant i wneud gwelliannau fydd yn cadw pawb yn hapus amser chwarae.

Anghydfod Ysgol
Anhawster canolig. Dyw'r disgyblion ddim yn hoffi'r ciniawau ysgol a does neb eisiau defnyddio'r toiledau ofnadwy! Helpwch y plant i wneud gwelliannau i'r ffreutur, y llyfrgell a'r toiledau, fydd yn gwneud pawb yn hapus.

Niwsans Cymuned Leol
Anodd. Mae'r siopau i gyd wedi cau a does dim byd i'w wneud yn yr ardal hon o'r dref sydd wedi dirywio! Gwnewch newidiadau fydd yn cadw pawb yn hapus a rhowch rywbeth i bobl ifanc i'w wneud â'u hamser.

Helynt Tref
Anodd. Mae'r cyngor yn ailddatblygu canol y dref. Helpwch i wneud yn siŵr bod hyn o fudd i'r gymuned gyfan ac yn cadw'r trigolion a'r busnesau lleol yn hapus.

Awgrymiadau a Chynghorion

• Holwch y cymeriadau i gyd cyn cychwyn ar y tasgau. Mae ymchwilio barnau a syniadau cyn gwneud unrhyw benderfyniadau'n ddefnyddiol.

• Cofiwch fod gan y gwahanol gymeriadau obeithion, hoffterau a chas bethau gwahanol. Efallai na fydd rhywbeth sy'n gwneud un cymeriad yn hapus yn plesio rhywun arall. Ystyriwch sut y bydd y gwahanol gymeriadau'n ymateb cyn cymryd unrhyw gamau.

• Peidiwch ag anghofio y gall datrys un broblem greu un arall. Efallai na chewch chi bopeth yn iawn y tro cyntaf felly peidiwch â rhoi'r gorau iddi!

Cymorth Sain a Gweledol
Cliciwch ar y botwm 'Cymorth Clyweledol' er mwyn:
• newid maint, lliw a chefndir testun ar y sgrin
• clywed y testun ar y sgrin yn cael ei ddarllen
• arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain.

Allwch chi ddim clicio ar y botwm 'Cymorth Clyweledol' tra eich bod chi'n darllen yr adran Gwybodaeth.

Gallwch chi hefy ddefnyddio'r bysellfwrdd i symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys.

Arbed Cynnydd
Arbedwch eich cynnydd trwy glicio ar y botwm Cadw. Caiff ei gadw ar y cyfrifiadur rydych yn gweithio arno ar y pryd yn unig a bydd yn bosibl ei lwytho ar y peiriant penodol hwnnw yn unig yn y dyfodol.





System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.