Mae Codi Cwestiwn yn rhan o gasgliad o wefannau addysgol gan y BBC ar gyfer plant 7-11 oed. Mae'r adnoddau canlynol hefyd yn addas ar gyfer disgyblion Cyfnod Allweddol 2:
- Ar Daith (Hanes)
- Dinesydd Da (ABCh)
- Ein Byd (Daearyddiaeth)
- Saffari Gwyddoniaeth (Gwyddoniaeth)
- Syrcas Gerdd (Cerddoriaeth)
Dyma eich cyfle chi i godi pob math o gwestiynau am grefydd. Mae Codi Cwestiwn yn cynnwys cyfres o gemau sy'n rhoi'r cyfle i chi gwrdd â bobl ddiddorol, eu holi nhw am eu crefydd a'u credoau a chlywed pam eu bod yn bwysig iddyn nhw.
Mae'r pwyslais ar Gristnogaeth ond mae'r gemau hefyd yn cynnwys mewnbwn o Fwdhaeth, Islam, Iddewiaeth a Hindŵaeth ac mae hefyd yn cyflwyno safbwyntiau seciwlar.
Dyw'r gêm ddim yn gofyn i chwaraewr ddewis crefydd neu ddewis rhwng crefyddau, ond yn hytrach, i ddeall ac ystyried y gwerthoedd sydd gan y gwahanol grefyddau.
Sialensiau
Mae yna bum sialens:
• Cerdded yn y Goedwig
• Cyfoeth a Charpiau
• Rhyfeddod Glan y Môr
• Tref Wedi Mynd â'i Phen Iddi
• Llygredd yn y Pentref
Bydd y gweithgareddau yma'n eich helpu i:
• nodi gwerthoedd crefyddol allweddol sy'n gysylltiedig â'r byd naturiol
• ddeall am gyfrifoldeb am y blaned a sut y gellir ei rannu
• ddeall am yr hyn mae rhai crefyddau'n ei ddweud am le pobl yn y byd e.e. eu harbenigrwydd neu eu hunigrywiaeth.
Chwarae'r gêm
Mae yna ddau ddull o chwarae. Mae'r ddau yn caniatáu i chi ymgeisio'r sialensiau mewn unrhyw drefn.
Dull sialens
Crwydrwch o gwmpas y gwahanol leoliadau i ddod i hyd i'r cymeriadau gwahanol.
Modd testun
Chwaraewch y gêm gan ddefnyddio'r testun yn unig heb orfod crwydro o gwmpas y lleoliadau gwahanol yn chwilio am gymeriadau. Mae'r dull yma wedi ei gynllunio i fod yn haws ei ddefnyddio gan y rhai sy'n ddall, â nam golwg, neu'n defnyddio bysellfwrdd i lywio. Er hynny, gellir ei ddefnyddio gan unrhyw un.
Dewiswch eich cymeriad
Gallwch adeiladu'ch cymeriad fydd yn ymddangos yn y gêm.
Dewiswch fentor
Y mentor sy'n eich arwain trwy gydol Codi Cwestiwn ac mae ar gael i'ch helpu os byddwch yn methu symud.
Symud o gwmpas
Gallwch chi symud o gwmpas y gemau wrth glicio ar y sgwâr rydych chi am symud iddo. Er mwyn siarad gyda'r cymeriadau, cliciwch ar y sgwâr glas golau yn eu hymyl.
Cymeriadau
Ym mhob sialens byddwch yn cwrdd â chymeriad sydd a chwestiwn penodol am y byd. Eich tasg chi yw dod o hyd i ateb trwy siarad â'r holl gymeriadau eraill yn y sialens. Bydd gan y cymeriadau hyn safbwynt crefyddol ar y mater sy'n cael ei drafod. Yna, ewch yn ôl at yr holwr ac fe rown ni wobr i chi pan fydd ef neu hi'n hapus eich bod wedi ateb eu cwestiwn.
Er mwyn cwblhau'r sialens fe fydd angen i chi siarad â chymeriad gaiff ei alw'n Borthor. Dim ond trwy siarad â'r Porthor y gallwch chi fynd trwy rwystr a chwblhau'r sialens. Mae'r cymeriad yma wedi ei gynllunio i'ch helpu i fyfyrio ar yr hyn rydych wedi ei ddysgu a'i gymhwyso i'ch profiad eich hun a'ch dealltwriaeth o grefydd.
Cymorth sain a gweledol
Byddwch chi'n gallu clicio ar y botwm 'Cymorth Clyweledol' er mwyn:
• newid maint, lliw a chefndir testun ar y sgrin
• clywed y testun ar y sgrin yn cael ei ddarllen
• arddangos capsiynau ar gyfer unrhyw fideo a sain.
Allwch chi ddim clicio ar y botwm 'Cymorth Clyweledol' tra eich bod chi'n darllen yr adran Gwybodaeth.
Gallwch chi hefyd ddefnyddio'r bysellfwrdd i symud o gwmpas y rhan fwyaf o'r cynnwys.