Depression (fideo Saesneg)
Gwers heriol ar y pwnc iselder, sy'n ysgogi disgyblion i greu canllaw hunangymorth ar gyfer pobl ifanc sydd â symptomau iselder.
Bydd y disgyblion yn dod i ddeall y ffactorau sy'n effeithio ar iechyd meddwl, ffyrdd y gellir meithrin lles emosiynol, a deall sut i fod yn hyderus i gael mynediad at gyngor proffesiynol ar iechyd a chefnogaeth bersonol.
Clip o'r stori
I weld y cynnwys hwn rhaid i chi alluogi Javascript a gosod Flash ar eich cyfrifiadur. Ewch i BBC Webwise (Saesneg) am gyfarwyddiadau.
Canlyniadau dysgu
Erbyn diwedd y wers, bydd POB disgybl wedi dysgu: I adnabod symptomau iselder, deall achosion iselder a sut i ddelio ag iselder.
Erbyn diwedd y wers, bydd y RHAN FWYAF o'r disgyblion wedi dysgu: I adnabod symptomau iselder, deall achosion iselder a sut i ddelio ag iselder drwy gael cyngor a chefnogaeth broffesiynol.
Erbyn diwedd y wers, bydd RHAI disgyblion wedi dysgu: I ddadansoddi'n feirniadol rôl y cyngor a chefnogaeth bersonol broffesiynol sydd ar gael i fynd i'r afael â symptomau ac achosion iselder.
Dolenni Cwricwlaidd
Iechyd a lles emosiynol
- y ffactorau sy'n effeithio ar iechyd meddwl a'r ffyrdd y gellir meithrin lles emosiynol.
- y mudiadau statudol a gwirfoddol sy'n hybu
- sut i gael mynediad i gymorth personol a chyngor proffesiynol ynghylch iechyd yn hyderus.
Gweithgareddau ar gyfer y wers
Offer sydd ei angen: TGC Rhyngrwyd / taflunydd, Bwrdd gwyn, Taflenni wedi eu hargraffu, Papur a deunydd ysgrifennu
Dechrau'r wers: Sut maen nhw'n teimlo?
Y disgyblion i weithio mewn grwpiau o 4/5 disgybl. Gan ddefnyddio Taflen 1 - Sut maen nhw'n teimlo? torrwch allan y lluniau a rhoi un i bob grŵp. Lluniau unigolion sy'n ymddangos yn isel, trist a phryderus ydynt.
Gofynnwch y cwestiynau canlynol i'r disgyblion;
- - Sut mae'r person hwn yn teimlo?
- - Pam y byddai'n teimlo fel hyn?
Adborth
Y grwpiau i rannu eu sylwadau gyda'r dosbarth.
Mewnbwn yr athro
Yr athro i roi amlinelliad o amcanion y wers, sef archwilio symptomau ac achosion iselder, ac ymchwilio i'r ffyrdd o gael cymorth a chefnogaeth broffesiynol.
Symptomau iselder
Gan ddefnyddio Taflen 2 - Symptomau ac achosion iselder, a gweithio mewn grwpiau, mae angen i'r disgyblion restru symptomau iselder.
Achosion iselder
Gan aros mewn grwpiau, gofynnwch i'r disgyblion restru cymaint o achosion iselder ag y gallent, a chofnodi eu hatebion ar Taflen 2 - Symptomau ac achosion iselder.
Adborth
Yr athro i annog adborth gan y grwpiau a chofnodi'r canlyniadau ar y bwrdd gwyn.
Clip fideo
Y disgyblion i gymharu eu gwybodaeth a dealltwriaeth o iselder gyda'r clip fideo.
Adborth
Yr athro i hwyluso trafodaeth dosbarth ar y clip fideo.
Taflen hunangymorth
Gan weithio mewn grwpiau, a chan ddefnyddio'r wybodaeth a gafwyd o'r wers, a'r ffeithiau ar Taflen 3 - Taflen ffeithiau ar iselder, mae angen i'r disgyblion gynhyrchu taflen dan yr enw 'Canllaw hunangymorth i bobl ifanc sy'n dioddef o iselder'.
Dylai'r daflen gynnwys yr adrannau canlynol;
- - Beth yw iselder a pa mor gyffredin ydyw?
- - Y symptomau y dylid bod yn ymwybodol ohonynt.
- - Achosion iselder.
- - Hunangymorth - beth alla i ei wneud?
- - Pryd a sut i ofyn am help.
Sylwadau ysgrifenedig
Gall athrawon ddefnyddio Taflen 4 - Taflen sylwadau i gasglu sylwadau ysgrifenedig gan y myfyrwyr.
Eiconau
Sgiliau allweddol a Sgiliau dysgu:
- Cyfathrebu
- Cymhwyso rhif
- TGC
- Datrys problemau
- Gweithio gydag eraill
- Gwella eich perfformiad eich hun
- Meddwl yn feirniadol
- Meddwl yn greadigol
- Archwilio ystyr
- Myfyrio
- Sgiliau ymchwilio
- Sgiliau cyflwyno
Strategaethau Asesu ar gyfer Dysgu (AfL):
- Rhannu amcanion dysgu
- Defnyddio cwestiynau
- Adborth effeithiol
- Modelu
- Hunanasesu disgybl
- Asesu gan gyfoedion
- Asesu parhaus
- Addasu addysgu/ adolygu
- Cyfarfod Llawn