Lles Economaidd

Bydd myfyrwyr yn dysgu ymgysylltu â'r byd gwaith a deall sut i reoli arian. Cânt eu hannog i ehangu eu gorwelion, i oresgyn y rhwystrau cymdeithasol o ran dewis, ac i anelu at y brig wrth wneud dewisiadau a chynlluniau dysgu effeithiol, ynghyd â chynlluniau trosglwyddo effeithiol. Mae pob un o'r meysydd astudio yn dolennu at straeon fideo gydag adnoddau dysgu i'w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth.

Busnes a Menter

Llun gyda rhestr 'to do'

Mae addysg ym maes menter a busnes yn helpu i ddatblygu sgiliau creadigol, i weld cyfle a gweithredu arno, gan gynnwys meithrin y cymhelliant i wireddu syniadau, i wneud asesiadau gofalus o risgiau/manteision ac i ddatblygu craffter ym myd busnes.

Gyrfaoedd

Llun o het graddio gan 'adventtradventtr'

Caiff myfyrwyr eu hannog i ddatblygu a gwneud cynnydd gydol oes drwy ddysgu a gweithio. Mae hyn yn cynnwys gwneud cynlluniau ar gyfer gyrfa, deall anghenion a dyheadau, a datblygu eu harbenigedd yn unol â hynny; gan gynnwys adnabod y rhinweddau, yr agweddau a'r sgiliau y mae eu hangen er mwyn bod yn gyflogadwy.

Rheoli Cyllid

Llun o bunnoedd gan 'rohojamagic'

Mae angen i ddisgyblion allu rheoli eu harian mewn amrywiol sefyllfaoedd, gan gynnwys eu sefyllfaoedd personol eu hunain, a'r sefyllfaoedd sydd y tu hwnt i'w rheolaeth ar hyn o bryd. Dan y thema hon hefyd, trafodir sut y caiff pobl eu dylanwadu i wario eu harian.

Risg

Llun o ddisiau gan 'onurdongel'

Bydd myfyrwyr yn dysgu deall y gall risg fod yn gadarnhaol yn ogystal â negyddol. Byddant yn dysgu rheoli hyn yng nghyd-destun eu dewisiadau gyrfa, eu dewisiadau ariannol a'u dewisiadau personol. Wrth gydbwyso anghenion â chanlyniadau negyddol posib, byddant hefyd yn dysgu o'u camgymeriadau.

Llywio drwy’r BBC

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.