Dinasyddiaeth
Mae dinasyddiaeth yn helpu pobl ifanc i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r argyhoeddiad i chwarae rhan effeithiol yn eu cymunedau; lleol, cenedlaethol neu fyd-eang. Drwy edrych yn gritigol ar faterion yn ymwneud â democratiaeth, cyfiawnder cymdeithasol, hawliau dynol, amrywiaeth a hunaniaeth, a hynny o amrywiol safbwyntiau, bydd myfyrwyr yn dysgu sut i ffurfio a mynegi barn eu hunain, ac i weithredu ynghylch materion sy'n bwysig iddyn nhw.
Democratiaeth a chyfiawnder
Bydd myfyrwyr yn dysgu am y gwerthoedd gwleidyddol a chyfreithiol sy'n sail i'r DU, a sut mae'r rhain wedi datblygu. Byddant yn dysgu ynglŷn â sut mae'r llywodraeth yn gwneud penderfyniadau, ac am y rhan y gall pob dinesydd ei chwarae wrth ddylanwadu ar y penderfyniadau hyn.
Hawliau a chyfrifoldebau
Bydd myfyrwyr yn pwyso a mesur amrywiaeth o wahanol hawliau a chyfrifoldebau yn eu cymunedau, a'r canlyniadau pe bai'r rhain yn cael eu gwrthod. Byddant yn ystyried sut gall y rhain wrthdaro â'r penderfyniadau anodd y mae'n rhaid eu gwneud weithiau er mwyn sicrhau cydbwysedd.
Hunaniaeth ac amrywiaeth; byw gyda'n gilydd yn y DU
Bydd myfyrwyr yn ystyried yr hyn a olygir gan hunaniaeth cenedl, natur ac effaith amrywiaeth yn y DU a sut mae hyn yn datblygu. Byddant yn datblygu eu dealltwriaeth o'r hyn mae'n ei olygu i fod yn un o ddinasyddion y DU heddiw, a'r cysylltiadau sydd gan y DU â gweddill y byd.