Advertisement

Sut ydym yn delio gyda’ch cwyn

Y broses gwynion ar gyfer cwynion golygyddol a chyffredinol


Sut mae’r broses yn gweithio?

Mae tri cham i’r broses, sydd wedi eu cynllunio i fod yn hawdd i’w defnyddio ac i’n galluogi ni i ymateb i’r hyn sydd yn eich poeni mewn modd cywir. Fe ddylech fel arfer wneud eich cwyn o fewn 30 diwrnod gwaith i’r darllediad neu ddigwyddiad ac ein nôd yw ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith. Am fanylion llawn darllenwch y Canllaw i Broses Gwynion Golygyddol a Chyffredinol y BBC.

yn ôl i ben y dudalen ^


Beth yw cwyn?

Os ydych yn dweud eich bod yn gwneud cwyn rydym yn ei gyfrif fel un. Rydym yn derbyn adborth am lawer o faterion, yn negatif ac yn bositif, ond yn gyffredinol rydym yn ystyried rhywbeth yn gwyn os ydyw’n feirniadaeth sy’n disgwyl ymateb ac yn dymuno gweld pethau’n newid.

yn ôl i ben y dudalen ^

Pwy fydd yn ateb a pha bryd?

Bydd ateb yn dod un ai gan yr adran sy’n gyfrifol neu gan BBC Gwybodaeth. Rydym yn anelu i ymateb o fewn 10 diwrnod gwaith, gan ddibynnu ar yr amser a gymerir i ni ymchwilio i’ch cwyn.

yn ôl i ben y dudalen ^

Beth os nad wyf wedi cael ateb?

Cysylltwch gyda BBC Gwybodaeth ar 03700 100 222 (cyfradd y DU sy’n costio dim rhagor na rhifau daearyddol 01/02; gellir recordio galwadau ar gyfer hyfforddiant) a byddant yn ymchwilio i’r mater ar eich rhan.

yn ôl i ben y dudalen ^

Os nad wyf yn hoffi’r ateb beth sy’n digwydd nesaf?

Cysylltwch gyda’r person a atebodd, eglurwch pam eich bod yn anhapus a gofynnwch am ateb pellach i’ch cwyn. Ond os gwnaethoch eich cwyn wreiddiol drwy’r wefan hon, defnyddiwch y ffurflen ar y wefan unwaith eto i egluro pam nad ydych yn hapus ac i ofyn am ymateb pellach. Os ydych yn teimlo nad ydy’r ail ymateb hwn yn ateb eich cwyn mewn ffordd ddigonol, fe fyddwn ni yn eich cynghori chi ynglyn â sut i fynd â’r mater ymlaen i’r cam nesaf. Dylech wneud hyn fel arfer o fewn 20 diwrnod gwaith.

yn ôl i ben y dudalen ^

Beth sy’n digwydd os rwy’n dewis peidio derbyn ateb?

Byddwn yn parhau i nodi eich cwyn gan ein bod yn llunio adroddiad dyddiol am y cwynion a’r adborth i gyd ar gyfer staff ar draws y BBC.

yn ôl i ben y dudalen ^

A oes modd i mi gwyno wrth gorff allanol?

Oes, i’r rheoleiddiwr darlledu Ofcom ynglyn â safonau golygyddol mewn darllediadau radio a theledu (ond nid eitemau arlein na’r World Service). Mae Ofcom yn cymryd cwynion am y BBC heblaw materion yn ymwneud â diddueddrwydd, anghywirdeb a rhai materion masnachol sy’n parhau yn gyfrifoldebau i Ymddiriedolaeth y BBC. Ofcom sy’n rheoleiddio cwmniau telegyfathrebu a darlledwyr y DU – ewch i safle Ofcom i ddarllen am ei gyfrifoldebau ac ynglyn â sut i wneud cwyn.

yn ôl i ben y dudalen ^


Beth mae’r BBC yn ei gyhoeddi am y cwynion a dderbynir?

Ar y wefan hon rydym yn cyhoeddi ymatebion cyhoeddus i faterion sydd o ddiddordeb eang os ydyn nhw wedi arwain at nifer sylweddol o gwynion neu’n ymwneud â mater sylweddol. Fel arfer mae’r rhain ar gael ar y wefan am hyd at chwe mis. Os ydy’n briodol byddant yn cynnwys unrhyw eglurhad, gywiriad, ymddiheuriad neu gamau a gymerwyd yn dilyn y gwyn. Mae golygyddion y BBC hefyd yn egluro materion yn yr allbwn newyddion ar ein Blog Golygyddion ac o fewn Newswatch.

Rydym hefyd yn cyhoeddi:

  • crynodeb misol o’r prif themâu ar draws y cwynion i gyd mewn adroddiadau rheolaidd.
  • crynodeb chwarterol o’r cwynion a wnaed i’r Uned Gwynion Golygyddol. Mae crynodebau o’r cwynion a ddyfarnwyd yn rhai dilys yn cael eu cyhoeddi ar y wefan fel y maent yn cael eu prosesu ac yn cael eu harchifo yn yr adroddiad chwarterol priodol sydd ar gael o dan Adroddiadau Rheolaidd.
  • adroddiadau misol am ganlyniadau unrhyw apeliadau at Ymddiriedolaeth y BBC ar Safle’r Ymddiriedolaeth.

Mae Bwrdd Rheoli Cwynion y BBC yn cyfarfod yn fisol i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu pan fyddwn yn derbyn cwynion a’u bod yn cael eu bwydo i mewn i’r prosesau golygyddol a rheoli. Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn monitro effeithiolrwydd y ffordd mae cwynion yn cael eu hateb ar draws y BBC, ac yn adrodd am hyn yn Adroddiad Blynyddol y BBC.

yn ôl i ben y dudalen ^

Canllaw i Broses Gwynion Golygyddol a Chyffredinol y BBC

Mae tri cham i broses Gwynion y BBC. O fewn 30 diwrnod gwaith i’r darllediad neu’r digwyddiad gallwch un ai:

  • wneud cwyn drwy’r safle hwn
  • ffonio BBC Gwybodaeth ar 03700 100 222
    (cyfradd y DU sy’n costio dim rhagor na rhifau daearyddol 01/02; gellir recordio galwadau ar gyfer hyfforddiant) 
  • neu ysgrifennu at Cwynion y BBC, Blwch Post 1922, Glasgow G2 3WT

Os ydy’n well gennych chi ysgrifennu’n uniongyrchol at y rhaglen, y sianel neu’r adran sy’n gyfrifol byddwn yn delio â’ch cwyn yn yr un ffordd. Gallwch hefyd wneud cwyn i’r rheoleiddiwr darlledu Ofcom am safonau golygyddol mewn darllediadau radio a theledu (ond nid eitemau arlein na’r World Service). Mae Ofcom yn cymryd cwynion am faterion yn ymwneud â’r BBC heblaw diddueddrwydd, anghywirdeb a rhai materion masnachol sy’n parhau yn gyfrifoldeb i Ymddiriedolaeth y BBC. Ymwelwch â safle Ofcom i ddarllen am ei gyfrifoldebau ac ynglyn a sut i wneud cwyn.

Rydym yn monitro ac yn adrodd yn gyhoeddus am y cwynion a dderbyniwn ac yn dysgu’r gwersi sydd ynddyn nhw er mwyn gwella ein rhaglenni a’n gwasanaethau.


Cam 1: Beth sy’n digwydd gyntaf pan fyddaf yn gwneud cwyn?

  • Rydym yn anelu i ymateb i chi o fewn 10 diwrnod gwaith gan ddibynnu ar natur eich cwyn. Rydym hefyd yn cyhoeddi ymatebion cyhoeddus i faterion sydd o ddiddordeb eang ar y wefan hon.
  • Os ydym ni wedi gwneud camgymeriad byddwn yn ymddiheuro ac yn cymryd camau i atal yr un peth rhag digwydd eto.
  • Os nad ydych yn fodlon gyda’n hymateb cyntaf, cysylltwch gyda’r unigolyn a oedd yn gyfrifol am yr ymateb gan egluro pam a gofynnwch am ateb pellach i’r gwyn.

Cam 2: Os nad wyf yn fodlon gyda’r ail ymateb, beth yw’r cam nesaf?

  • Os ydych yn teimlo nad ydy’r ail ymateb a gawsoch dal yn ateb eich cwyn yn ddigonol, byddwn yn eich cynghori sut i fynd â’r mater i’r cam nesaf yma. Dylech wneud hyn fel rheol o fewn 20 diwrnod gwaith.
  • Os yw’n ymwneud ag eitem benodol sydd yn eich barn chi wedi mynd yn groes i’n safonau golygyddol a chafodd ei darlledu neu ei gyhoeddi gan y BBC, bydd fel arfer yn cael ei gyfeirio i’r Uned Gwynion Golygyddol. Bydd yr Uned yn cynnal ymchwiliad annibynnol i’ch cwyn (fel arfer yn ysgrifenedig) i benderfynu a ydy’r gwyn yn un dilys ac, os felly, yn sicrhau bod y BBC yn gweithredu’n briodol o ganlyniad.
  • Bydd cwynion eraill sy’n cyrraedd y pwynt yma fel arfer yn cael eu cyfeirio at reolwyr yr adran sy’n gyfrifol. Am fanylion llawn am brosesau cwynion y BBC ewch i safle Ymddiriedolaeth y BBC.

Cam 3: Os ydw i’n parhau i gredu bod y BBC yn anghywir, beth yw’r cam nesaf?

  • Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn sicrhau bod cwynion yn cael eu trin yn gywir gan y BBC a bod y drefn gwynion yn adlewyrchu’r arferion gorau a chyfleoedd i ddysgu.
  • O fewn 20 diwrnod gwaith i’r ymateb i chi yng Ngham 2, gallwch ofyn i Ymddiriedolaeth y BBC ystyried apêl yn erbyn y canlyniad. Os ydy Ymddiriedolaeth y BBC yn cefnogi apêl bydd yn disgwyl i reolwyr y BBC gymryd sylw o’r canlyniad.
  • Gallwch ysgrifennu at Ymddiriedolaeth y BBC yn 180 Great Portland Street, Llundain W1W 5QZ. Mae manylion llawn am y prosesau cwyno ac apeliadau ar safle Ymddiriedolaeth y BBC.

Rydym yn anelu i drin pob achwynydd gyda pharch ac rydym hefyd yn disgwyl yr un ystyriaeth tuag at ein staff sy’n delio gyda chwynion..

Explore the BBC

This page is best viewed in an up-to-date web browser with style sheets (CSS) enabled. While you will be able to view the content of this page in your current browser, you will not be able to get the full visual experience. Please consider upgrading your browser software or enabling style sheets (CSS) if you are able to do so.