Proses recriwtio'r BBC

Rydym yn hysbysebu ein holl swyddi gwag, ac eithrio aseiniadau llawrydd byrdymor, ar wefan Gyrfaoedd y BBC. Ewch i'r dudalen chwilio a gwneud cais.

Unwaith y byddwch wedi gwneud cais am swydd, cewch e-bost yn dweud ein bod wedi derbyn eich cais. Bydd ein tîm Recriwtio yn adolygu'r cais ac yn ei gymharu yn erbyn meini prawf y rôl, gan weithio gyda'r rheolwr recriwtio i ddewis ystod o ymgeiswyr a gaiff eu gwahodd i gyfweliad.

Mae'r cam nesaf yn cynnwys cyfweliadau â'r rheolwr llinell ac aelodau o'r tîm rydych am ymuno ag ef. Rydym wedi llunio rhai awgrymiadau i'ch helpu i baratoi ar gyfer cyfweliad gyda'r BBC. Yn dibynnu ar y rôl rydych wedi gwneud cais amdani, efallai y caiff ystod o brofion technegol, proffesiynol neu seicometreg eu defnyddio i asesu eich gwybodaeth, eich sgiliau a'ch profiad.

Os byddwch yn llwyddiannus ar y cam hwn, byddwn yn eich ffonio i roi gwybod i chi. Os na fyddwch yn llwyddiannus yn y cyfweliad, byddwn yn ceisio rhoi adborth i chi ar eich perfformiad. Yn anffodus, oherwydd nifer y ceisiadau rydym yn eu cael, ni allwn gynnig adborth i ymgeiswyr nad ydynt yn cyrraedd y cam cyfweld.

Gan fod cymaint o rolau gwahanol ar gael yn y BBC, mae'r broses recriwtio yn wahanol ar gyfer rolau gwahanol. Mae'r rhan fwyaf o rolau llawrydd, yn arbennig ym maes cynhyrchu teledu a radio, yn dilyn proses ar wahân. Rhagor o wybodaeth.

Dychwelyd i'r fersiwn Saesneg o'r dudalen hon

Return to the English language version of this page

Dolenni perthnasol

bbc.co.uk navigation

BBC © 2013 The BBC is not responsible for the content of external sites. Read more.

This page is best viewed in an up-to-date web browser with style sheets (CSS) enabled. While you will be able to view the content of this page in your current browser, you will not be able to get the full visual experience. Please consider upgrading your browser software or enabling style sheets (CSS) if you are able to do so.