Sut i wneud cais

Gallwch ddefnyddio gwefan Gyrfaoedd y BBC i chwilio am swyddi gwag a gwneud cais amdanynt mewn sawl ffordd:

Os ydych yn gwybod pa swydd rydych yn chwilio amdani

Os ydych yn gwybod pa swydd rydych yn chwilio amdani neu'n cael golwg i weld a yw eich swydd ddelfrydol yn cael ei hysbysebu gyda'r BBC, cliciwch ar y botwm Chwilio am Swydd sydd i'w weld mewn sawl rhan o'r wefan. Yma, gallwch chwilio am swyddi gwag yn seiliedig ar ystod o feini prawf a gwneud cais amdanynt.

Os ydych yn gwybod pa lwybr gyrfa rydych am ei dilyn

Os ydych yn gwybod pa fath o lwybr gyrfa rydych am ei dilyn, neu am weld lle yn y BBC y gallech weithio, gallwch ddarllen am yr hyn a wnawn a ble'r ydym. Fel arall, chwiliwch drwy ein Cronfa Ddata Rolau lle gallwch weld staff y BBC yn siarad am eu swyddi.

Os ydych yn chwilio am brofiad gwaith neu am ymuno â chynllun hyfforddi

Ewch i'n tudalen cynlluniau hyfforddi neu ein tudalen profiad gwaith.

Os ydych am gael gwybodaeth am y swyddi gwag diweddaraf

Os na allwch ddod o hyd i swydd wag sydd o ddiddordeb i chi, mae gennym wasanaeth sy'n darparu Negeseuon am Swyddi Gwag a fydd yn anfon e-bost atoch pan ddaw swydd wag ar gael. Gallwch gofrestru i gael Negeseuon am Swyddi Gwag.

Os ydych am wneud cais yn Gymraeg

Ewch i'r dudalen gwneud cais yn Gymraeg.

Os ydych eisoes yn gweithio i'r BBC

Os ydych eisoes yn gweithio i'r BBC, gallwch gael golwg ar ein cronfa ddata fewnol i staff drwy ymweld â'r Porth neu'r Ardal i Staff Mewnol.

Os ydych wedi cofrestru neu wneud cais drwy wefan Gyrfaoedd y BBC o'r blaen

Gallwch fewngofnodi i'ch cyfrif i weld eich manylion ac adolygu neu gwblhau eich cais. Os byddwch yn anghofio eich cyfrinair ar unrhyw adeg, gallwch ofyn am un newydd ar y dudalen Mewngofnodi.

Problemau wrth wneud cais ar-lein

Rydym wedi creu adran Cwestiynau Cyffredin lle caiff cwestiynau mwyaf cyffredin ymgeiswyr eu hateb. Os na allwch wneud cais ar-lein am unrhyw reswm, cysylltwch â'n tîm recriwtio a fydd yn gallu eich helpu yn ystod oriau swyddfa, drwy anfon e-bost i careers@bbchrdirect.co.uk

Dychwelyd i'r fersiwn Saesneg o'r dudalen hon

Return to the English language version of this page

bbc.co.uk navigation

BBC © 2012 The BBC is not responsible for the content of external sites. Read more.

This page is best viewed in an up-to-date web browser with style sheets (CSS) enabled. While you will be able to view the content of this page in your current browser, you will not be able to get the full visual experience. Please consider upgrading your browser software or enabling style sheets (CSS) if you are able to do so.